|

Ymgyrchoedd

Mae Coed Cadw yn ymgyrchu yng Nghymru i amddiffyn coetir hynafol, i wella bioamrywiaeth coetiroedd, i greu rhagor o goetir brodorol ac i gynyddu dealltwriaeth a mwynhad coetir gan y cyhoedd.

  • Coedwig Genedlaethol newydd i Gymru? Mae Rory Francis o Goed Cadw yn edrych ar ymrwymiad Llywodaeth y Cynulliad i wneud hyn, a'r cyfle mae'n gynnig i wella amgylchedd ein gwlad.
  • Y Sialensau Coetir i Gymru ym mis Awst 2006 fe lansiodd Iolo Williams 8 sialens i’r Cynulliad Cenedlaethol, i gyrff statudol ac i lywodraeth leol -sef camau cwbl ymarferol y gallen nhw eu cymryd tuag at warchod a chynyddu coetiroedd Cymru.
  • Coetir o dan fygythiad Yn 2002 Cymru fu’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno amddiffyniad cadarn ar gyfer yr holl goetir hynafol sydd ar ôl, o dan y drefn gynllunio. Ond nid yw hyn yn golygu fod ein coedlannau hynafol yn wastad yn ddiogel. Edrychwch i weld beth yw’r bygythiadau, a beth allwch chithau wneud i helpu!
  • Amaeth a defnydd y tir Mae amaethyddiaeth yn cael dylanwad aruthrol ar gefn gwlad a’r coedlannau sydd ynddo fo. Helpwch ni i atal y toriadau yng nghynllun hollbwysig Tir Gofal. Dewch i weld beth oedd ymateb Coed Cadw i’r ymgynghoriad diweddar am y Cynllun Datblygiad Gwledig, sy’n amlinelli agwedd Llywodraeth y Cynulliad tuag at ddatblygiad gwledig dros y chwe blynedd nesaf.
  • Newid yr hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf nid yn unig i goetir hynafol, ond hefyd i ddyfodol pawb a phopeth sy’n byw ar y ddaear, mae’n debyg. Mae Coed Cadw yn aelod o Atal Anhrefn Hinsawdd, sef clymblaid eang o grwpiau amgylcheddol, datblygiad a chymdeithasol, sydd â’u bryd ar greu cefnogaeth gyhoeddus aruthrol o blaid gweithredu i atal newid yr hinsawdd gan ddynolryw. Mae Atal Anhrefn Hinsawdd yn weithredol yng Nghymru Dyma sut yr ymatebodd Coed Cadw i ymgyngoriad y Cynulliad am gynllunio a newid yr hinsawdd
  • Coetir hynafol a ailblannwyd Rhwng y 1930au a’r 1980au ailblannwyd cannoedd o filoedd o hectarau o goetir hynafol, gyda choed conwydd masnachol yn bennaf, neu gymysgedd o gonwydd a choed brasddeiliog. Mae gennyn gyfle bellach i’w hadfer, ond mae amser yn fyr. Is-lwythwch ein llyfryn ni am adfer y safleoedd pwysig hyn.
  • Ymgyrch yn cael ei lansio i ddiogelu coed Cymru! Ar ôl i dderwen 200-300 mlynedd oed gael ei chwympo ym Mhenmaenmawr, bore Dydd Sadwrn tra na ellid cysylltu â Swyddog Coed y cyngor lleol, mae Coed Cadw wedi lansio ymgyrch i gryfhau’r warchodaeth ar gyfer coed unigol Cymru. Is-lwythwch e-bost drafft i’w ddanfon at eich AC.
  • Ansawdd bywyd Sut mae coetir yn gallu gwella'r amgylchedd mewn cymunedau lleol ar hyd y wlad.
  • Ymgyrchoedd Coed Cadw ar hyd a lled y DU
  • Cyswllt Amgylchedd Cymru Mae Coed Cadw’n aelod gweithgar o Gyswllt Amgylchedd Cymru, sef rhwydwaith o fudiadau gwirfoddol, amgylcheddol a chefn gwlad, sydd a’u bryd ar fod yn lais allweddol dros yr amgylcheddol yng Nghymru. Ewch i wefan Cyswllt Amgylchedd Cymru.
  • Rhagor o newyddion o Goed Cadw yng Nghymru