A ddylai Comisiwn Coedwigaeth Cymru adfer ein coetir hynafol, neu ei blannu gyda rhagor o goed conwydd?
Y 14eg Hydref yw’r dyddiad cau ar gyfer ymgynghoriad hollbwysig fydd yn cael effaith ar goetir hynafol Cymru am flynyddoedd i ddod. Rhoddwyd cyfrifoldeb i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru i edrych ar ôl coetiroedd y Cynulliad Cymreig ac maen nhw’n trefnu ymgynghoriad ar sut y dylen nhw wneud hyn ar ran y Cynulliad.
Tra bod yna lawer i’w groesawu yn y ddogfen ymgynghorol, yn enwedig yr hyn a ddywedir am adfer coetir hynafol a chreu coetir brodorol newydd, rydym yn meddwl ei bod yn hollbwysig fod y cyhoedd yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gan groesawu’r hyn sy’n dda ac yn tanlinelli sut y gellid ei wella.
Mae Coed Cadw (the Woodland Trust) yn danfon ymateb manwl i mewn, ond gobeithio’n fawr y byddwch chi, fel un sy’n cefnogi Coed Cadw, yn awyddus i gymryd rhan eich hun a dweud yn glir pa mor bwysig y mae hi i’r Comisiwn ofalu am goetir hynafol ac adfer y darnau bychain a gafodd eu plannu gyda choed conwydd yn y ganrif ddiwethaf.
Mae hyn yn rhad ac am ddim. Does dim angen talu am stamp, hyd yn oed, achos fe allwch chi ddefnyddio e-bost. Ond fe fyddwch chi’n gwybod eich bod chi wedi gwneud rhywbeth ymarferol i adfer ein treftadaeth coetir hynafol ar gyfer y cenedlaethau a ddêl.
Fe allwch chi ddadlwytho dogfen ymgynghorol y Cynulliad yma ac ymateb llawn Coed Cadw yma.
Rydym yn awgrymu eich bod chi’n e-bostio ymateb byr i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru. Yn ddelfrydol, yr opsiwn gorau yw llunio ymateb yn eich geiriau eich hun. Ond i hwyluso pethau, fe allwn ni awgymru yr ymateb drafft isod, y gallech chi newid yn ôl eich dymuniad.
I ddanfon ymateb, y cyfan sydd ei angen yw copïo’r ymateb drafft isod, creu e-bost at wwstrategy@forestry.gsi.gov.uk, pastio i mewn y testun drafft a’i ddanfon, gan newid ac ychwanegu at eich neges yn ôl eich dymuniad. Mae’r drafft yn cynnwys dau o’r cwestiynau o’r ddogfen ymgynghorol. I wneud eich ymateb yn fwy effeithiol, fe allech chi ddanfon copi at un neu fwy o’ch Aelodau o’r Cynulliad. Fe allwch chi gael hyd i’w henwau a chyfeiriadau e-bost yma.
Gobeithio’n fawr y byddwch chi’n barod i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad pwysig yma. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, mae croeso i chi gysylltu â fi.
Diolch yn fawr a chofion gorau
Rory Francis
Swyddog Cyfathrebu Cymru
Coed Cadw (the Woodland Trust)
roryfrancis@woodlandtrust.org.uk
PS: Cofiwch mae’r dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw’r 14 Hydref. Felly, os ydych eisiau cymryd rhan, a wnewch chi weithredu heddiw!
Ymateb drafft
At sylw: Clive Thomas
Pennaeth Polisi a Rhaglenni
Comisiwn Coedwigaeth Cymru
Annwyl Mr Thomas
Ysgrifennaf mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyfredol ar y Strategaeth Coetiroedd i Gymru.
Dwi’n falch o groesawu trwch awgrymiadau a wnaed yn y ddogfen ymgynghorol. Mae coed a choetir yn hollbwysig i’n hamgylchedd a’n ansawdd bywyd a dwi’n falch fod y Comisiwn Coedwigaeth yn gwneud ymdrech i’w rheoli nhw’n well. A gaf i ymateb yn arbennig i’r cwestiynau a ganlyn?
Cwestiwn 3. Rydym yn bwriadu cynyddu gorchudd net coetiroedd yng Nghymru. A ydych:
Rwyf yn: Cytuno’n gryf
b) Pa gyfleoedd a rhwystrau yr ydych yn eu rhagweld?
Rwyf wrth fy modd fod y ddogfen ymgynghorol yn cyfeirio at fanteision creu coetir brodorol newydd. Mae Cymru ymysg gwledydd lleiaf coediog Ewrop ac mae llai o goetir brodorol newydd wedi cael ei greu yng Nghymru yn ddiweddar nag yn Lloegr, yn yr Alban na hyd yn oed yn Ngogledd Iwerddon. Mae coetir brodorol yn cynnig ystod eang o fanteision mewn termau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Os ydi’r Cynulliad o ddifri am greu rhagor o goetir brodorol, fodd bynnag, fe ddylai osod targed a monitro yr hyn sy’n cael ei gyflawni, fel y mae Llywodraeth yr Alban wedi ei wneud.
Cwestiwn 21: Rydym yn bwriadu rheoli’r holl blanhigfeydd ar safleoedd hen goetiroedd yn unol â’r arweiniad adfer gorau ar ystâd coetiroedd y Cynulliad ac annog yr ymagwedd hon trwy grantiau ar gyfer coetiroedd eraill. A ydych?
Rwyf yn: Cytuno’n gryf
b) Pa fanteision ac anfanteision y gallwch eu gweld i’r ymagwedd hon?
Coetir hynafol yw ein cynefin mwyaf cyfoethog i fyd natur ac mae’n brin ac yn amhosibl ei ail-greu, gan orchuddio dim ond 2 yn cant o arwynebedd Cymru. Mae arnon ni ddyletswydd i’r cenedlaethau a ddêl i adfer yr holl goetir hynafol a blannwyd gyda choed conwydd yn y gorffennol.
Rwyf yn croesawu’r amcan o adfer yr holl blanhigfeydd ar safleoedd hen goetiroedd ar ystâd coetiroedd yr Cynulliad ac annog tirfeddianwyr preifat i wneud yr un peth.
Rwyf yn deall, fodd bynnag, fod yna ddarnau o goetir hynafol a blannwyd yng Nghymru, gan gynnwys rhan o Goed Gwent sydd yng ngofal Comisiwn Coedwigaeth Cymru, lle mae coetir hynafol wedi cael ei glir-dorri a lle mae’r ddaear wedi cael ei baratoi mewn ffordd dinistriol iawn, cyn plannu cnwd arall o goed conwydd. Rwyf yn gobeithio’n fawr y bydd hyn yn newid, yn unol â pholisi newydd y Cynulliad ac y bydd yr holl goetir hynafol sydd yng ngofal y Comisiwn yn cael ei adfer yn raddol.
Yr eiddoch yn gywir
Eich enw a chyfeiriad
(Mae’n werth cynnwys eich cyfeiriad post fel bod y Comisiwn Coedwigaeth a'ch Aelodau o'r Cynulliad yn gallu gweld eich bod chi mewn gwirionedd yn byw yng Nghymru.)