|
 

Coedlannau o dan fygythiad

Mae coetir hynafol wedi bodoli ers o leiaf 400 o flynyddoedd ac fe all fod yn gyswllt gyda’r coetir gwyllt oedd yn gorchuddio Cymru wedi oes yr iâ, 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae’n anodd credu fod rhan mor bwysig o’n hetifeddiaeth naturiol a diwylliannol, sy’n gorchuddio dim ond rhyw ddau y cant o’r wyneb y wlad, yn dal o dan fygythiad. Ond mae o!

Mewn gwirionedd, ers 2002, mae coetir hynafol Cymru wedi cael ei amddiffyn o dan y drefn gynllunio, rhywbeth sy ddim yn wir yn Lloegr.

Mae paragraff 5.2.8 o Bolisi Cynllunio Cymru, sef polisi cynllunio’r Cynulliad Cenedlaethol, yn datgan yn glir: “Mae coetiroedd hynafol a lled-naturiol yn gynefinoedd na ellir eu hadfer sy’n werthfawr iawn am eu bioamrywiaeth a dylid eu diogelu rhag datblygiad a fyddai’n achosi difrod sylweddol.”

Ond nid yw’r ffaith fod y polisi gwych yma’n bodoli, yn golygu ei fod yn wastad yn cael ei ddilyn mewn gwirionedd.

Ond y newyddion da yw, oherwydd gwaith caled pobl leol gyda chefnogaeth Coed Cadw, fe gafodd dau ddarn o goetir hynafol eu hachub ym Mro Morgannwg yn gynnar yn 2008, sef coedlan Pencoedtre a choedlan Cwm Slade ger Gwenfo.

Edrychwch lle mae’r bygythiadau i gyd ar draws y DU.

Ewch i wefan Coedlannau o dan fygythiad Coed Cadw ar gyfer y DU i gyd, sy'n cynnig llwyth o wybodaeth a chyngor defnyddiol.