I gefnogi’r ymgyrch, a fyddech cystal â danfon e-bost at Elin Jones AC:
Correspondence.Elin.Jones@wales.gsi.gov.uk
Cofiwch roi eich enw a chyfeiriad er mwyn dangos i Elin eich bod chi’n etholwr/aig Cymreig mewn gwirionedd. Os ydi’n well gennych chi, fe allech chi ysgrifennu ar bapur: Elin Jones AC, Gweinidog dros Faterion Gwledig, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Yn ddelfrydol, mae’n well i ysgrifennu llythyr eich hunain, gan ddefnyddio’r testun isod fel model. Ond os ydych chi’n ansicr am beth i’w ddweud, fe allech chi dorri a phastio‘r testun isod, gan ychwanegu gwybodaeth bersonol wrth gwrs.
Os cewch chi ymateb diddorol i'ch e-bost chi, a wnewch i roi gwybod inni trwy e-bost neu lythyr? Diolch o galon.
Rory Francis, Swyddog Cyfathrebu
Testun awgrymedig
Annwyl Elin Jones
Llongyfarchiadau a chroeso!
Ysgrifennaf atoch chi er mwyn eich llongyfarch ar gymryd cyfrifoldeb dros goedwigaeth yng Nghymru, i’ch croesawu chi i’r swydd newydd ac i ddymuno pob llwyddiant i chi yn y maes newydd hwn.
Ysgrifennaf hefyd er mwyn erfyn arnoch chi i ddefnyddio’ch swydd newydd i wneud gwahaniaeth i goetir hynafol Cymru a hynny trwy gyflwyno polisi cynhwysfawr o blaid adfer y coetiroedd hynafol hynny sydd wedi cael eu plannu gyda chonwydd.
Coetiroedd hynafol yw ein safleoedd cyfoethocaf a phwysicaf ar gyfer amrywiaeth o drychfilod, adar, anifeiliaid, blodau a choed, ac maen nhw gartref i fwy o rywogaethau sydd o dan fygythiad na’r un cynefin arall yng Ngwledydd Prydain. Mae coetir hynafol yn un o wyrthiau ein treftadaeth naturiol; maen nhw’n lleoedd o harddwch dihafal, cronfeydd o dystiolaeth am newid amgylcheddol, archaeoleg a hanes economaidd. Yn fyr, dydyn ni ddim yn gallu fforddio eu colli nhw.
Ond fel canlyniad i bolisi’r llywodraeth, plannwyd tua 24,000 o hectarau o goetir hynafol Cymru gyda choed estron, sef conwydd yn bennaf, rhwng y 1930au a’r 1980au, fel sy’n cael ei drafod yn nofel glasurol Islwyn Ffowc Elis Wythnos yng Nghymru Fydd. Difrodwyd y cymunedau o blanhigion ac anifeiliaid sy’n dibynnu ar goetir hynafol, a hynny oherwydd cwympo a chlirio’r coed brodorol gyda pheiriannau trymion, y cemegion a ddefnyddiwyd i atal aildyfiant, y cysgod trwchus a deflir gan y coed newydd a’r haenau o nodwydd conwydd sy’n tagu tyfiant y blodau.
Mae ymchwil yn dangos y bydd y rhan fwyaf o blanhigfeydd conwydd ar goetir hynafol yn cyrraedd aeddfedrwydd yn ystod y deng mlynedd nesaf. Os byddan nhw’n cael eu cwympo a rhagor o gonwydd yn cael eu plannu yn eu lle, wedyn ni fydd y bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnyn nhw yn goroesi.
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi gwneud gwaith da iawn yn adfer safleoedd o goetir hynafol, gan gydweithio â Choed Cadw (the Woodland Trust) ar brosiectau fel Adennill ein Treftadaeth Anghofiedig a Phrosiect Rheoli Cynefin Coedydd Derw Meirionnydd. Fodd bynnag, nid oes gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru bolisi cyson, cynhwysfawr i adfer coedlannau hynafol a blannwyd gyda chonwydd, hyn yn oed y rhai hynny sy’n rhan o stad coedwigol Llywodraeth y Cynulliad.
A wnewch chi ddefnyddio’ch swydd fel gweinidog dros goedwigaeth i gyflwyno polisi cynhwysfawr i adfer coetir hynafol a blannwyd gyda chonwydd?
Diolch yn fawr am dreulio amser yn darllen yr e-bost yma.
Yr eiddoch yn gywir
Eich enw a chyfeiriad