Llygoden yn helpu achub coedwigoedd hynafol Cymru?
Yn dilyn penodiad Elin Jones AC fel y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros goedwigaeth yng Nghymru, mae Coed Cadw (the Woodland Trust) yn galw ar ei aelodau a chefnogwyr yng Nghymru i fynd ati i glicio eu llygoden i’w chroesawu hi i’w swydd newydd, a hefyd i bwyntio allan fod taer angen adfer y miloedd o erwau o goetir hynafol yng Nghymru sydd wedi cael eu plannu gyda choed conwydd.
Coetiroedd hynafol yw ein safleoedd cyfoethocaf a mwyaf pwysig ar gyfer amrywiaeth o drychfilod, adar, anifeiliaid, blodau a choed, ac maen nhw gartref i fwy o rywogaethau sydd o dan fygythiad na’r un cynefin arall yng Ngwledydd Prydain. Mae coetir hynafol yn un o wyrthiau ein treftadaeth naturiol; maen nhw’n lleoedd o harddwch dihafal, cronfeydd o dystiolaeth am newid amgylcheddol, archaeoleg a hanes economaidd. Yn fyr, dydyn ni ddim yn gallu fforddio eu colli nhw.
Ond fel canlyniad i bolisi’r llywodraeth, plannwyd tua 24,000 o hectarau o goetir hynafol Cymru gyda choed estron, sef conwydd yn bennaf, rhwng y 1930au a’r 1980au. Mae ymchwil yn dangos y bydd y rhan fwyaf o blanhigfeydd conwydd ar goetir hynafol yn cyrraedd aeddfedrwydd yn ystod y deng mlynedd nesaf. Os byddan nhw’n cael eu cwympo a rhagor o gonwydd yn cael eu plannu yn eu lle, wedyn ni fydd y bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnyn nhw yn goroesi.
Fe gymerodd Elin Jones, Aelod Cynulliad Plaid Cymru ar gyfer Ceredigion, gyfrifoldeb dros goedwigaeth ddechrau mis hydref, fel canlyniad i’r cytundeb partneriaeth rhwng Llafur a Plaid Cymru yn y Cynulliad. Bellach mae Coed Cadw yn gofyn i’w gefnogwyr ddanfon e-bost neu lythyr ati hi i’w chroesawi hi i’w swydd newydd ac erfyn arni hi ddefnyddio ei sefyllfa i wneud gwahaniaeth i goetir hynafol Cymru a hynny trwy gyflwyno polisi i adfer y coedwigoedd hynafol hynny a blannwyd gyda choed estron. (Gan fod coedwigaeth yn fater sydd wedi cael ei datganoli, rydym yn gofyn i gefnogwyr o’r tu allan i Gymru i beidio â chysylltu ag Elin am hyn, ond i gefnogi ymgyrchoedd eraill Coed Cadw ar y lefel Brydeinig.)
Defnyddiwch eich llygoden (a bysellfwrdd) i helpu achub coetiroedd hynafol Cymru!