Diolch o galon i bob aelod a chefnogwr sydd wedi danfon e-bost at eu Haelodau o’r Cynulliad i ofyn i’r Cynulliad ddefnyddio eu pwerau newydd ar ôl yr etholiad i gryfhau’r ffordd y mae coed Cymru’n cael eu diogelu. (Diolch yn fawr hefyd i'r rhai sy'n byw y tu allan i Gymru a ysgrifennodd at Carwyn Jones, Gweinidog yr Amgylchedd. Roedd hyn yn help mawr.)
Mae hyn yn dilyn digwyddiad trist yn yr hydref pan gwympwyd dwy dderwen aeddfed ym Mhenmaenmawr ar fore Dydd Sadwrn pan na ellid cysylltu â swyddogion y Cyngor ynglŷn â Gorchymyn Gwarchod Coeden.
Y newyddion diweddaraf yn awr yw fod 15 AC, sef chwarter aelodaeth y Cynulliad, wedi llofnodi Datganiad Barn (sy’n debyg i Early Day Motion yn San Steffan) yn galw am gryfhau’r system i warchod coed. Mae hyn yn ganlyniad gwych ac mae Coed Cadw (the Woodland Trust) yn ddiolchgar iawn i bob un AC a gefnogodd y Datganiad. Nid yw hwn yn newid y gyfraith, ond mae’n dangos yn glir fod yna gefnogaeth gref i'r syniad, ac mae’n golygu ei bod hi’n fwy tebygol y caiff y ddeddf ei newid ar ôl yr etholiad.
Os nad ydy’ch AC lleol wedi cefnogi’r Datganiad Barn i ddiogelu coed Cymru yn briodol, neu os oes gennych ACau Rhanbarthol sydd ddim wedi gwneud hyn, a wnewch chi ddanfon e-bost atyn nhw, os nad ydych chi wedi gwneud hyn yn barod. Fe allech chi gopïo’r testun isod, ei bastio i fewn i e-bost a’i addasu i greu eich neges eich hun.
Os ydych yn byw yng Nghymru, fe allwch glicio yma i fynd i wefan y Cynulliad i weld enw a chyfeiriad e-bost eich Aelodau lleol. Fe allech chi gymharu’r rhain gyda rhestr yr ACau sydd wedi cefnogi’r Datganiad Barn. Fe allech ddanfon e-bost at eich Aelod Etholaeth a/neu at unrhyw un o’ch Aelodau Rhanbarthol.
Os derbyniwch ymateb diddorol oddi wrth eich AC, yn mynegi barn y naill ffordd neu’r llall, a fuasech cystal â rhoi gwybod inni
Annwyl
Coed hynafol a threftadaeth Cymru – onid ydyn nhw’n haeddu gwell?
Rwyf yn danfon yr e-bost yma atoch chi fel fy aelod lleol o’r Cynulliad er mwyn gofyn i chi gefnogi’r ymgyrch i ddarparu diogelwch gwell i goed yng Nghymru, gan gryfhau’r ddeddfwriaeth bresennol a basiwyd gan Senedd San Steffan yn 1990 yn Neddf Gynllunio Gwlad a Thref, a hynny trwy gefnogi’r Datganiad Barn am hyn a gyflwynwyd ar y 13 Rhagfyr.
Mae’n bosibl yn byddwch chi wedi darllen yn y wasg am y digwyddiadau trist ym Mhenmaenmawr ar y 28 Hydref, pan gwympodd contractwyr dair coeden, un ohonyn nhw rhwng 200-300 mlwydd oed, ar adeg pan na ellid cysylltu â swyddog coed y cyngor lleol. Roedd y cyngor wedi gwrthod cais cynllunio am dai ar y safle ac mae trigolion lleol yn ofni mai ymgais trwsgl oedd hyn i gael gwared ar rywbeth oedd yn rhwystro cais newydd.
Petai’r contractwyr wedi cyrraedd o fewn oriau gwaith arferol, fe allai trigolion lleol fod wedi cysylltu â’r cyngor, ac mae’n bosibl y gellid rhoi Gorchymyn Gwarchod Coed dros dro ar y coed.
Fe alwodd trigolion lleol yr heddlu, ond doedd yna ddim byd y gallen nhwthau wneud i atal y cwympo.
Mae’n debyg fod y tair coeden, gyda’i gilydd, yn cynnwys mwy na 5 metr ciwbig o goed. O dan y Ddeddf Goedwigaeth mae’n anghyfreithlon o gwympo cymaint â hynny o goed o fewn tri mis heb drwydded gan y Comisiwn Coedwigaeth. Nid oedd trwydded gan y contractwr, ond fe welwn ni a fydd hyn yn arwain at erlyniad.
Roedd trigolion lleol wedi torri eu calon am golled y coed yma. Mae’n debyg fod yr hynaf ohonyn nhw’n sefyll eisoes cyn y Chwyldro Diwydiannol a Rhyfeloedd Napoleon.
Rwyf yn credu fod yr hyn a ddigwyddodd i’r coed hyn yn tanlinelli sut y mae’r system yn methu diogelu coed Cymru ar hyn o bryd. Felly, rwyf yn cefnogi ymgyrch Coed Cadw i annog y Cynulliad i adolygu’r ddeddfwriaeth am warchod coed a sut mae’n cael ei weithredu, ac wedyn defnyddio ei bwerau newydd i ddeddfu i ddiogelu coed yn briodol, yn enwedig rhai hynafol ac etifeddiaeth.
Fe fuaswn i’n cefnogi’r newidiadau a ganlyn:
• Dileu’r eithriadau sy’n golygu y gellir cwympo coeden sydd wedi marw, neu sydd wrthi’n marw, dim ots os ydi hi'n beryglus neu beidio, gan fod coed hynafol ac etifeddiaeth yn dal yn bwysig yn ecolegol ac yn hanesyddol ar ôl iddyn nhw farw, a fe allan nhw gymryd canrifoedd i farw beth bynnag
• Sicrhau fod y cyhoedd yn gallu cysylltu â swyddogion coed awdurdodau lleol y tu allan i oriau gwaith er mwyn sicrhau y gellir gosod GGC dros dro mewn argyfwng
• Ystyried y posibilrwydd o ddiogelu pob coeden dros faint arbennig neu ansawdd, er enghraifft y rhai gyda bôn dros 1m o led
• Symleiddio’r drefn gosbi i greu er mwyn atal pobl rhag cwympo’n anghyfreithlon.
• Creu rhestr statudol o goed o ddiddordeb arbennig a fyddai'n derbyn gwarchodaeth mwy cadarnhaol gan yr awdurdodau
• Cynnig mwy o gefnogaeth i dirfeddianwyr ar gyfer rheoli coed hynafol ac etifeddiaeth mewn dull cadarnhaol
Mae yna goed nodweddiadol ym mhob cwr o Gymru, ac fe allai’r hyn a ddigwyddodd ym Mhenmaenmawr ddigwydd rhywle arall yfory. Onid ydych chi’n meddwl fod ein coed yn haeddu gwell gwarchodaeth na’r hyn maen nhw’n gael ar hyn o bryd? A fyddech chi'n fodlon arwyddo'r Datganiad Barn a gyflwynwyd ar y 13 Rhagfyr?
Yr eiddoch yn gywir
Eich enw a chyfeiriad