22 Ionawr 2007
Pwyllgor Dethol Ty'r Cyffredin yn clywed am fygythiad glo brig i goetir hynafol
...wrth i Goed Hafod Heulog, ger Penybont-ar-Ogwr gael ei achub gan ymgyrch egnïol
Fe fydd Pwyllgor Dethol Ty’r Cyffredin ar Faterion Cymreig yn clywed tystiolaeth o Goed Cadw (the Woodland Trust) Dydd Mawrth yma (1) am fygythiad cloddio glo brig i goetir hynafol. Mae hyn yn rhan o arolwg ehangach am ynni yng Nghymru. Fe fydd y cyfarfod hefyd yn clywed oddi wrth mudiad PACT (Protecting and Conserving Together) (2) a dim llai na phedwar cwmni neu fudiad sydd o blaid cloddio glo brig.
Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor Dethol, mae’r cwmni glo brig Celtic Energy yn awgrymu fod polisi’r Cynulliad Cymreig ar Lo Brig yn rhy gaeth, er gwaetha’r ffaith fod y rheolau yn Lloegr a’r Alban yn fwy llym yn erbyn y diwydiant. Mae’r cwmni hefyd yn awgrymu y dylai’r Llywodraeth warantu rhyw ganran o’r farchnad ynni i lo, gan gynnwys glo brig.
Creda Coed Cadw na ddylid caniatáu cloddio glo brig os nad yw’n dderbyniol yn amgylcheddol. Fe fyddai’n gamgymeriad mawr i lacio’r safonau am yr hyn sy’n dderbyniol er mwyn cwrdd â rhyw ganran fympwyol o’r farchnad. Fe fyddai gwneud hynny’n gorfodi pobl cymoedd y De i ddioddef dinistr amgylcheddol, llygredd a llwch am genhedlaeth arall.
Un enghraifft o’r ffordd y mae glo brig yn bygwth coetir hynafol yw’r cais cynllunio a gyflwynwyd gan gwmni Celtic Energy ei hun, a fyddai wedi dinistrio Coed Hafod Heulog, sef coedlan hynafol (3) 4.5 ha (11 erw) ger Penybont-ar-Ogwr. Yn ôl Polisi Cynllunio Cymru (paragraff 5.2.8), o eiddo’r Cynulliad Cymreig: “Mae coetiroedd hynafol a lled-naturiol yn gynefinoedd na ellir eu hadfer sy’n werthfawr iawn am eu bioamrywiaeth a dylid eu diogelu rhag datblygiad a fyddai’n achosi difrod sylweddol.”
Fe fyddai llacio polisi’r Cynulliad am gloddio glo brig, yn ei ddogfen bolisi Coal Mineral Technical Advice Note, mwy na thebyg yn arwain at ragor o goedlannau hynafol o dan fygythiad, fel Coed Hafod Heulog, ar draws glofa De Cymru.
Y newyddion da yw fod y cais arbennig yma wedi cael ei dynnu’n ôl, ym mis Tachwedd 2006, yn dilyn ymgyrch egnïol gan bobl leol gyda chefnogaeth Coed Cadw. Ond deellir y caiff cais arall ei gyflwyno yn y dyfodol agos.
Dywed Rory Francis o Goed Cadw: “Rydan ni wrth ein bodd fod y cwmni wedi gwneud penderfyniad call trwy dynnu’r cais yn ôl. Ond, o gofio fod Polisi Cynllunio Cymru yn datgan yn glir y dylid amddiffyn coetir hynafol rhag cael ei niweidio’n sylweddol gan geisiadau cynllunio, dan ni’n dal ddim yn deall pam gyflwynodd y cwmni y cais yn y lle cyntaf.”
“Yn fwy arbennig, dan ni’n deall fod y cwmni’n bwriadu cyflwyno cais newydd cyn bo hir. Rydan ni’n pryderi am yr effaith posibl ar goetir hynafol, perthi a chefn gwlad, a felly fe fyddwn ni’n edrych ar y cais newydd hwn yn ofalus dros ben.
“Fe bwysleisiodd Adroddiad Stern ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf ei bod hi’n gwbl hanfodol i leihau maint y tanwydd carbon rydan ni’n ddefnyddio a hynny ar frys. Felly, nid dyma’r amser i lacio’r rheolau am gloddio glo brig.”
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121
Nodiadau i olygyddion:
1. Mae gwrandawiad cyhoeddus y Pwyllgor yn dechrau am 11 o’r gloch y bore Dydd Mawrth y 23 Ionawr yn Nhy’r Cyffredin. Fe fydd Rory Francis a Graham Bradley yn rhoi tystiolaeth gyda Gaynor Ball a Suzanne Celis o PACT, am 12.20 y prynhawn. Gweler wefan y Pwyllgor.
2. Mae gan PACT wefan eu hunain sef: http://pactwales.blogspot.com/
3. Mae coetir hynafol dir sydd wedi bod yn goediog yn ddi-baid ers o leiaf 1600. Dyma un o ‘n cynefinoedd cyfoethocaf i fyd natur, gan ei fod yn cynnal mwy o rywogaethau o bryder cadwriaethol na’r un cynefin arall (232 o rywogaethau felly, yn ôl Cynllun Bioamrywiaeth y DU 1994). Mae coetir hynafol yn darparu cyswllt unigryw gyda’r goedwig wyllt gyntefig oedd yn gorchuddio’r rhan fwyaf o dir isel Prydain yn dilyn oes yr iâ ddiwethaf. Ni ellir ail-greu coetir hynafol. Mae’r ffordd y mae’r planhigion, yr anifeiliaid, yr hinsawdd a phobl yn cydymweithio’n unigryw ac maen nhw wedi datblygu dros gannoedd o flynyddoedd. Mae coetir hynafol yn cynnal 232 o rywogaethau sy’n cael eu cynnwys yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU, 1994, sef mwy na’r un cynefin arall.
4. Mae rhagor o gefndir am Goed Hafod Heulog ar gael ar wefan Coed Cadw. Saif Coed Hafod Heulog wrth gyfeirnod grid SS 843 842. Mae’r estyniad glo brig arfaethedig yn cynnwys y goedlan i gyd, ond y ddau hectar mwyaf i’r gogledd, ac mae’n ymestyn i’r de a’r gorllewin. I weld lleoliad y goedlan ar safle we multimap.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.