|
 

Achubwyd coedlan Pencoedtre!

18 Ionawr 2008

Achubwyd coedlan Pencoedtre!

Cyngor yn gwrthod cynllun i ddatblygu coetir hynafol

Mae Cynghorwyr Bro Morgannwg gwrthod cais cynllunio fyddai wedi arwain at y golled mwyaf o goetir hynafol (1) yng Nghymru ers i’r Cynllunio ei ddiogelu o dan Bolisi Cynllunio Cymru yn 2002 (2). Roedd y penderfyniad unfrydol ddoe yn rhannol oherwydd fod y goedlan mewn cwestiwn wedi cael ei ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae’n dal yn bosibl y gallai’r datblygwyr apelio ond mae ymgyrchwyr, gan gynnwys Coed Cadw (the Woodland Trust) wrth eu bodd am y penderfyniad. Dywedodd Neil Coleman, cadeirydd grŵp ymgyrchu Pencoedtre Bluebells: “Mae’r canlyniad yn wych, briliant!”

Wedi’u gwylltio gan y posibilrwydd y gallai’r goedlan hon gael ei ddinistrio gan Jac Codi Baw, gan golli safle gwyrdd pwysig, fe aethon pobl leol ati weithredu. Fe sefydlon nhw grŵp ymgyrchu i amddiffyn Pencoedtre, gan annog cymaint o bobl â phosibl i wrthwynebu’r cynllun. Yn bennaf o ganlyniad i hyn, fe dderbyniodd Cyngor Bro Morgannwg dros 700 o negeseuon ynglŷn â’r cais cynllunio yma.

Mae Rory Francis o Goed Cadw yn ychwanegu: “Dyma newyddion gwych i goetir hynafol yng Nghymru. Dwi eisio llongyfarch pawb yn lleol a weithiodd mor galed i wneud y canlyniad yma yn bosibl. Mae’n dangos fod coedlannau lleol i bwysig iawn i bobl leol a bod modd i bobl fynd ati i wneud gwahaniaeth. Rhaid inni gofio, fodd bynnag, fod yna 13 o achosion eraill o goetir hynafol o dan fygythiad yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys achos yn Ngwenfô, allai gael ei benderfynu gan Gyngor Bro Morgannwg ddechrau mis Chwefror.”

Cyflwynwyd cais cynllunio Pencoedtre yn ôl yn 2004 ac roedd yn cynnwys datblygu 9.4 ha (23 erw) o goedlan Pencoedtre (3) i godi unedau diwydiannol a thai. Petai hwn wedi cael caniatâd, fe fyddai 9.4 hectar (23 erw) o’r goedlan hynafol yma (2) wedi cael ei golli, a 6.3 hectar (15 erw) o’r hyn a fyddai ar ôl yn cael ei dorri’n ddarnau bychain a’i ddiraddio, dywed Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU.

Fe gododd y cynllun bryderon mawr ymhlith amgylcheddwyr a phobl leol gan fod y tir wedi cael ei glustnodi ar gyfer datblygiad yng Nghynllun Datblygu Unedol Bro Morgannwg, yn golygu fod yna berygl mawr y byddai’n cael ei ganiatáu.

Ond yn ffodus roedd y Cynllun Datblygu Unedol hefyd yn mynnu y dylai fod yna arolwg ecolegol manwl o’r safle cyn i unrhyw gais gael ei ganiatáu. Comisiynwyd yr arolwg yma a’i rhyddhau gan y Cyngor yn 2006. Fe gadarnhaodd yr arolwg fod y goedlan yn hynafol ac o werth ecolegol uchel, gan wfftio awgrymiadau i’r gwrthwyneb gan y datblygwyr. Daethpwyd o hyd i 46 o rywogaethau gwahanol a gysylltir â choetir hynafol, gan gynnwys tegeirian llydanwyrdd, suran y coed a bresych y cŵn. Yn gyfan gwbl, cafwyd hyd i 126 o rywogaethau o blanhigion fasgwlar, ynghyd â 71 o fwsoglau a llysiau’r afu a 22 o rywogaethau o adar.

Yn wir, fe gadarnhaodd yr arolwg mor glir fod Pencoedtre o werth ecolegol mawr fel yr aeth y Cyngor Cefn Gwlad ati i’w ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ym mis Ebrill 2007, sydd yn ddigwydd anghyffredin y dyddiau hyn. Cadarnhawyd y penderfyniad hwn gan Gyngor y CCW mis Tachwedd diwedd.

Fe all y cyfryngau gysylltu â:

Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH

Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121

Nodiadau i olygyddion

1. Mae coetir hynafol dir sydd wedi bod yn goediog yn ddi-baid ers o leiaf 1600. Dyma un o ‘n cynefinoedd cyfoethocaf i fyd natur, gan ei fod yn cynnal mwy o rywogaethau o bryder cadwriaethol na’r un cynefin arall (232 o rywogaethau felly, yn ôl Cynllun Bioamrywiaeth y DU 1994). Mae coetir hynafol yn darparu cyswllt unigryw gyda’r goedwig wyllt gyntefig oedd yn gorchuddio’r rhan fwyaf o dir isel Prydain yn dilyn oes yr iâ ddiwethaf. Ni ellir ail-greu coetir hynafol. Mae’r ffordd y mae’r planhigion, yr anifeiliaid, yr hinsawdd a phobl yn cydymweithio’n unigryw ac maen nhw wedi datblygu dros gannoedd o flynyddoedd.

2. Mae Polisi Cynllunio Cymru, sef polisi cynllunio’r Cynulliad, yn datgan yn glir: ““Mae coetiroedd hynafol a lled-naturiol yn gynefinoedd na ellir eu hadfer sy’n werthfawr iawn am eu bioamrywiaeth a dylid eu diogelu rhag datblygiad a fyddai’n achosi difrod sylweddol.” (paragraff 5.2.8)

3. Saif Pencoedtre wrth gyfeirnod grid ST 126 706. Gellir dadlwytho map digidol o’r lleoliad yma

Coed Cadw (The Woodland Trust)

Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.