|
 

Achubwyd coetir hynafol o goncrid

6 Chwefror 2008

Achubwyd coetir hynafol o goncrîd

Mae Coed Cadw (Woodland Trust) a Chadwraeth Morgannwg yn dathlu’r newyddion bod cwmni concrit Mecsicannaidd Cemex Cyf wedi ymdynnu eu cais cynllunio i adeiladu belt symudol trwy ganol coetir hynafol Coed Cwm Slade i’r gogledd-ddwyrain o bentref Gwenfo, dim ond oriau cyn bod cynghorwyr Bro Morgannwg i drafod yr ymgais.

Bu Cadwraeth Morgannwg a Choed Cadw yn ymgyrchu yn ffyrnig i arbed y goedlan, derbyniodd y cyngor dros 1000 o lythyrau yn gwrthwynebu’r datblygiad. Er i’r cyfarfod o gynllunwyr y cyngor gael ei ohirio, ymgynullodd nifer o wrthwynebwyr y datblygiad tu allan i swyddfeydd y cyngor i leisio eu barn.

“Mae’n newyddion gwych bod Cemex wedi ymdynnu ei cais ar y funud ddwythaf, ond mae hyn yn codi’r cwestiwn os yr ydynt ar fwriad rhoi cynnig arall i fewn a fydd yn osgoi gwrthwynebu Cyfeiriad Cynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd“ meddai Graham Bradley, swyddog Coed o dan fygythiad Coed Cadw.

Roedd cais Cemex yn cynnwys chwalu coridor i trwy ganol y goedlan i wneud lle i felt symudol enfawr i gludo’r calchfaen o safle’r chwarel newydd i’r hen chwarel, bysai hyn wedi cael effaith ofnadwy ar y goedlan i gyd, yn enwedig cynefinoedd y pathew a’r dyfrgi gerllaw sydd wedi’u gwarchod gan Cyfeiriad Cynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd.

Bysai’r datblygiad hefyd wedi dinistrio 0.19 hectar (0.46 acer) o goetir hynafol. Ers 2002, mae coetir hynafol yng Nghymru wedi ei gwarchod gan y drefn cynllunio, paragraff 5.2.8 o Bolisi Cynllunio Cymru (2), sy’n datgan: “Mae coetiroedd hynafol a lled-naturiol yn gynefinoedd na ellir eu hadfer sy’n werthfawr iawn am eu bioamrywiaeth a dylid eu diogelu rhag datblygiad a fyddai’n achosi difrod sylweddol.”

Dyma’r ail benderfyniad ar goetir hynafol i gynghorwyr Bro Morgannwg mewn llai na phedair wythnos. Ar Ionawr y 18fed gwrthodwyd cais i ddatblygu yng nghoed Pencoedtre.

Fe all y cyfryngau gysylltu â:

Lea Hughes (Campaigns Officer for Wales) on 07760 171174
Email leahughes@woodland-trust.org.uk

Rory Francis, ar 01766 832563 neu 07760 171174

Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121

Coed Cadw (The Woodland Trust)

Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.