English
5 Ionawr 2007
Jane Horrocks yn gofyn am help pobl Cymru
...i ailgylchu 90 miliwn o gardiau
Mae’r actores Jane Horrocks wedi lansio cynllun ailgylchu cardiau Nadolig Coed Cadw (the Woodland Trust) a Craff am Wastraff, ac mae hi’n galw ar bawb i ailgylchu eu cardiau Nadolig yn siopau WHSmith, Tesco a TD Maxx trwy gydol mis Ionawr.
Y llynedd fe ailgylchodd Cymru 112 o dunelli o gardiau Nadolig, sef tua 5.3 miliwn o gardiau, i helpu’r elusen i basio ei darged i ailgylchu 60 miliwn o gardiau, a hynny o ryw 41%*. Fe gododd hyn ddigon o arian i helpu Coed Cadw i blannu 20,000 o goed trwy gydol y DU!
Mae’r tabl isod yn dangos faint o gardiau a gasglwyd y llynedd ym mhob un o siroedd Cymru.
Dywedodd Jane, sydd yn ailgylchwraig frwdfrydig: “Mae mwy na biliwn o gardiau’n cael eu danfon yn y DU dros y ‘Dolig, a rydyn ni eisiau ailgylchu o leiaf 90 miliwn ohonyn nhw. Fe fydd yr arian a godir yn helpu Coed Cadw i achub coedlannau a choed a helpu i leihau maint y gwastraff sydd fel arfer yn cael ei daflu i ffwrdd yr adeg yma o’r flwyddyn.
“Nos Ystwyll yw’r amser pan fydd y rhan fwyaf ohonon ni’n meddwl am dynnu lawr y cardiau. Mae’n amserol, felly, i Goed Cadw atgoffa pawb i roi eu cardiau yn y biniau ailgylchu arbennig yn y siopau WHSmith, Tesco a TK Maxx yn cymryd rhan, a hynny trwy gydol mis Ionawr.”
Fe fydd y biniau yn barod ar gyfer cardiau o heddiw ymlaen, sef y 5 Ionawr, ym mhob siop WHSmith yng Nghymru, yn siopau Tesco (gan gynnwys rhai siopau Tesco Express) a siopau TK Maxx. Fe fydd cwsmeriaid sydd derbyn dosbarthiadau cartref gan Tesco yn gallu cymryd rhan yn y cynllun hefyd.
O fan’na mae’r cardiau’n cael eu cludo i felinau papur lle maen nhw’n cael eu hailgylchu i greu nwyddau papur newydd. Mae’r arian sy’n cael eu codi trwy’r cynllun yn helpu Coed Cadw i achub coetir sy’n bodoli’n barod, yn ogystal a chreu coetir newydd.
Dywed Sue Holden, Prif Weithredwraig Coed Cadw: “Mae Cymru’n haeddu canmoliaeth fawr am gasglu cymaint o gardiau y llynedd, a gobeithio’n fawr y bydd pawb yn cefnogi’r cynllun yn egnïol unwaith eto eleni. Mae llwyddiant y cynllun y llynedd wedi’n galluogi i blannu 20,000 o goed, yn ogystal â lleihau maint y gwastraff y mae rhaid ei gladdu yn y ddaear. Meddyliwch beth allen ni wneud petai mwy o bobl eto yn ailgylchu eu cardiau!”
Meddai’r Cyng. Richard Parry Hughes, cadeirydd Cynllun Craff am Wastraff: "Yn draddodiadol, rydym yn cynhyrchu mwy o wastraff dros y Nadolig a dyna pam mae’n arbennig o bwysig bod pobl yn ailgylchu cymaint ag y gallan nhw dros gyfnod yr ŵyl. Mae cynllun ailgylchu cardiau Nadolig Coed Cadw wedi bod yn boblogaidd iawn yn y gorffennol, ac mae’n bleser gennym gefnogi’r cynllun eto eleni wrth i Goed Gadw geisio ailgylchu 90 miliwn o gardiau."
Diwedd
Cardiau a gasglwyd gan Gynllun Ailgylchu Cardiau Nadolig Coed Cadw yn 2006, yn Saesneg ac yn Gymraeg:

Mae LLUNIAU ar gael O DAN EMBARGO o:
www.woodland-trust.org.uk/horrocks
Fe ddigwyddodd y lansiad gyda Jane Horocks am 10.30 bore Dydd Gwener y 5 Ionawr, ac mae lluniau cydraniad uchel wedi cael eu rhoi ar y tudalen uchod.
* Y llynedd casglodd cynllun ailgylchu cardiau Nadolig Coed Cadw 82 miliwn o gardiau Nadolig.
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
Neu Natalie Clark, Swyddog Cyhoeddusrwydd a Chyfathrebu Corfforaethol, ar 01476 581112, e-bost: natalieclark@woodland-trust.org.uk
Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121
Nodiadau i olygyddion
Cynllun Ailgylchu Cardiau Nadolig Coed Cadw
Mae’r cardiau sy’n cael eu casglu yn cael eu cludo ystorfeydd WHSmith, Tesco a TK Maxx, lle maen nhw’n cael eu casglu gan eu contractwyr ailgylchu eu hunain (SCA Recycling i WHSmith a a Severnside i TK Maxx a Tesco). Mae’r cardiau yn cael eu sortio a’u cludo i weithfeydd ailgylchu lle maen nhw’n cael eu trin a’u troi i nwyddau newydd fel hancesi papur, papur lluncopïo a chardbord.
Mae Cyngor Sir Nottingham yn cysylltu ag awdurdodau lleol ar ran Coed Cadw, ac yn helpu i gasglu’r credydau ailgylchu o’r awdurdodau hynny sydd wedi cytuno i dalu Coed Cadw am y gwastraff sydd ddim yn gorfod mynd i domennydd ysbwriel oherwydd y cynllun.
Credydau Ailgylchu
Y Credyd Ailgylchu yw’r arian sy’n cael ei arbed gan y Cyngor Sir am BEIDIO â gorfod tirlenwi gwastraff cartref sy’n cael ei ailgylchu. Mae’r Cyngor Sir yn dewis talu’r arbediad yma yn ôl i grwpiau gwirfoddol neu gymunedol sydd yn casglu gwastraff cartref i’w ailgylchu (yn yr achos yma, Cynllun Ailgylchu Cardiau Nadolig Coed Cadw) oherwydd eu bod nhw eisiau hyrwyddo ailgylchu yn yr ardal. Mae gwerth y credyd yn amrywio ar draws siroedd gwahanol oherwydd gwahaniaethau mewn costau gwaredu gwastraff, ac mae’n cael ei dalu ar gyfer pob un tunnell o wastraff cartref sy’n cael ei ailgylchu. Mae gwerth y credyd yn cynyddu bob blwyddyn gyda chwyddiant (yn ôl Mynegai’r Prisiau Manwerthu) ac unrhyw gynyddu yng nghost y Dreth Dirlenwi.
Craff am Wastraff
Ariennir Cynllun ‘Craff am Wastraff’ gan Lywodraeth y Cynulliad i hyrwyddo arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu ym mhob rhan o'r gymuned. I ddysgu mwy am sut y gallwch chi helpu, ewch i www.craffamwastraff.org.uk neu ffoniwch linell gymorth 'ailgylchu dros Gymru/recycle for Wales' Cynllun Craff am Wastraff ar 0845 330 5540.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.