22 Tachwedd 2005
Coed Cadw yn apelio am hen luniau o lecyn hardd yn Nyffryn Gwy
Fe fydd gwaith ymchwil newydd yn ceisio datguddio mwy am orffennol pictiwrésg Beaulieu Wood
Mae Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, yn erfyn ar bobl leol Trefynwy a’r cyffiniau i chwilota trwy eu hen gypyrddau a droriau i geisio cael hyd i hen luniau teulu a allai daflu golau ar hanes swynol Beaulieu Wood a safle’r Kymin, drws nesaf, a sut yr oedden nhw unwaith yn ffurfio tirlun pictiwrésg oedd wedi cael ei gynllunio’n fanwl.
Yn y 1790au fe danysgrifiodd nifer o ffrindiau cefnog, oedd arfer mynd am bicnic yng nghefn gwlad, i godi lle cyfarfod parhaol yn amgylchiadau prydferth y Kymin, yn Nyffryn Gwy, ar dir oedd yn perthyn i Ddug a Duges Beaufort. Gosodwyd sylfeini’r Twr Crwn, neu Bafiliwn, yn 1794, ac adnabuwyd y grŵp fel clwb Kymin.
I gynyddu harddwch yr amgylchiadau, fe roddodd Thomas Swinnerton, oedd biau Beaulieu Wood gerllaw, ganiatâd i’r clwb i wneud ei goedlan e’n rhan o’r tirlun cynlluniedig, gyda llwybrau, seddi a safbwyntiau i ymwelwyr fwynhau’r golygfeydd (1). Wedyn, yn 1800, codwyd teml lyngesol yn y Kymin, i goffáu buddugoliaeth enwog yr Arglwydd Nelson ym Mrwydr y Nîl. Fe ddaeth Nelson ei hun i’r safle yn 1802 yn ystod ymweliad â Threfynwy, mewn cwch o’r Rhosan ar Wy.
Ymddengys, fod bynnag, nad yw defnydd y tir hwn gan Glwb y Kymin wedi para’n hir, o bosibl. Yn 1811 fe adroddodd y Cambrian Weekly Advertiser fel a ganlyn:
“All the seats between the town and the hill, placed for the purpose of rest have been taken away. The sun-dial at the Naval Temple, as also the stone tables in the Beaulieu Grove are broken into pieces; and, with the seats which surround them, torn up, and thrown into the wood beneath.”
Yn awr, mewn ymgais i ddatguddio mwy am y cyfnod rhamantaidd hwn yn hanes yr ardal, mae Coed Cadw wedi comisiynu Ken Murphy of Cambrian Archaeology i wneud prosiect ymchwil ar Beaulieu Wood, sydd yng ngofal Coed Cadw bellach, yn ogystal â’r Kymin, sydd yn nwylo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Dywed Jon Winder, sydd yn rheoli Beaulieu Wood ar ran Coed Cadw: “Mewn sawl ffordd, mae hanes wedi troi mewn cylch ers y 1790, gan bod Beaulieu Wood a’r Kymin ill dau yng ngofal mudiadau cadwraeth erbyn hyn, sydd yn gweithio gyda’i gilydd i warchod a chynyddu harddwch y tirlun, nid i ryw grŵp dethol o bobl ond i bawb.
“I wneud hyn yn fwy effeithiol, fe hoffem ni ddarganfod mwy am orffennol pictiwrésg yr ardal. Er enghraifft, lle yn union oedd y llwybrau, y seddi a’r safbwyntiau oedd yn bodoli gynt? Os oes gan rywun hen luniau a allai daflu golau ar hwn, fe fyddwn i’n ddiolchgar iawn pe gallen nhw gysylltu â fi ar 01600 719281 neu jonwinder@woodland-trust.org.uk ”
Lleolir Beaulieu Wood rhyw filltir i’r dwyrain i Drefynwy, ym mhen draw Good Neighbours Lane, wrth gyfeirnod grid SO 528 128. Fe brynodd Coed cadw y goedlan hon, sydd yn 16.62 ha (41.07 erw) o ran maint, yn 2001 gyda chefnogaeth Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac apêl codi arian lleol llwyddiannus. Fel bron pob un o goedlannau Coed Cadw mae Beaulieu Wood ar agor i bawb ymweld â fe unrhyw bryd, a hynny yn rhad ac am ddim. Erbyn hyn mae ganddo fe wefan ei hun sef:
www.wt-woods.org.uk/beaulieuwood Mae hon yn cynnwys amrediad eang o wybodaeth am y safle a’i reolaeth, gan gynnwys map rhyngweithiol.
Dylai’r cyfryngau gysylltu :
Rory Francis (Swyddog Cyfathrebu) ar 01766 832563 neu 07760 171174
Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH
E-bost roryfrancis@woodland-trust.org.uk
neu Jon Winder ar 01600 719281
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-mail media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau ar gyfer olygyddion:
1. Yn ei ddisgrifiad o’r Kymin, (Heath, C., 1880), mae Charles Heath, argraffwr o Drefynwy, yn talu teyrnged i Thomas Swinnerton, perchennog Beaulieu Grove, fel a ganlyn: “It would be wronging the public obligations were we to omit to mention the very liberal behaviour of Thomas Swinnerton esq. the proprietor of Beaulieu Grove in permitting the walks to be made through it, in any manner that would increase the public pleasure – which may be deemed equal, in point of interesting scenery, to any part of the surrounding grounds.”
2. Casglwyd cryn dipyn o’r gwybodaeth hanesyddol sydd yn y datganiad hwn o asesiad archeolegol o’r safle a wnaed yn 2004 gan y cwmni Engineering Archaeological Services Ltd.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yn galluogi cymunedau i ddathlu, gwarchod a dysgu mwy am ein treftadaeth amrywiol. O’n hamgueddfeydd mawreddog i’n hadeiladau hanesyddol, parciau lleol a llecynnau hardd, a thrwy gofnodi a dathlu traddodiadau arferion a hanes, mae grantiau CDL yn agor treftadaeth ein cenedl i bawb ei fwynhau. Rydym wedi cefnogi mwy na 16,600 o brosiectau, gan ddyrannu mwy na £3.3 biliwn ar draws y DU.