|

Byddwch yn wych Gymry

21 Rhagfyr 2007

Byddwch yn wych, Gymry!

Joanna Lumley yn annog pawb i helpu ailgylchu 100 miliwn o gardiau

Mae’r actores Joanna Lumley yn annog Cymry i ailgylchu eu cardiau Nadolig i helpu ariannu plannu 24,000 o goed brodorol newydd!

Mi fydd yna finiau ailgylchu arbennig yn siopau WH Smith, Tesco (1) TK Maxx a Marks & Spencer (2) trwy fis Ionawr (o’r ail tan y 31ain). Mae’r elusen wedi gosod targed uchelgeisiol o ailgylchu 100 miliwn o gardiau, fydd yn eu galluogi nhw i blannu 24,000 o goed – dyna goedlan fyddai’r un faint â 48 o caeau pêl-droed.

Yn ystod mis Ionawr 2007, casglwyd 151 o dunelli o gardiau yng Nghymru, dyna 7,650,000 o gardiau! Fe helpodd hyn yr elusen i dorri’r targed roedd wedi’i osod i ailgylchu 90 miliwn o gardiau trwy gydol y DU, o ryw 3 miliwn! Mae Joanna Lumley yn gobeithio y cawn ni’r un fath o gefnogaeth o Gymru unwaith eto yn ystod y Flwyddyn Newydd.

Dywedodd yr actores, sy’n ymddangos yn y rhaglen Absolutely Fabulous: “Mae’r Nadolig yn amser gwych i fod gyda’n teuluoedd, ond yn y pendraw rydym ni’n creu rhagor o wastraff. Un ffordd hawdd i leihau’r gwastraff hwn a helpu i leihau newid yr hinsawdd ar yr un pryd yw ailgylchu cymaint â phosib. Ac mae cardiau Nadolig yn un o’r eitemau hawsaf i gadw allan o’n biniau.”

Mae casglu cardiau yn creu incwm ar gyfer yr elusen trwy gredydau ailgylchu – sef yr arian sy’n cael ei dalu gan awdurdodau lleol i’r gwastraff nad oes rhaid ei gladdu mewn tomennydd sbwriel. Felly, mwyaf o gardiau sy’n cael eu hailgylchu, gorau yn y byd!

Dywed Sue Holden, Prif Weithredwraig Coed Cadw: “Diolch i chi, Gymru! Mae’ch ymdrechion wedi lleihau nifer y cardiau sy’n cael eu claddu, sy’n cynhyrchu nwy ty gwydr, gan ein helpu ni hefyd i blannu miloedd o goed. Mae’r DU ymysg gwledydd lleiaf coediog Ewrop. Dim ond 12 y cant o dirwedd yr DU sydd wedi’i orchuddio â choed, o’i gymharu â’r cyfartaledd Ewropeaidd o 44 y cant. Trwy ailgylchu eu cardiau, fe allwch chi’n helpu ni i blannu miloedd yn fwy o goed trwy gydol y DU.”

Am ragor o wybodaeth am y cynllun neu ragor o gyngor, ewch at
www.woodland-trust.org.uk/cards neu www.wasteawarenesswales.org.uk


Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH

Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121

Lluniau
Gellir dadlwytho lluniau digidol o Joanna Lumley yma

Nodiadau i olygyddion

1. Gan gynnwys y rhan fwyaf o siopau Tesco Express

2. Gan gynnwys nifer o siopau M&S Simply Food

Coed Cadw (The Woodland Trust)

Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.

Cynllun Ailgylchu Cardiau Nadolig Coed Cadw

Mae’r cardiau sy’n cael eu casglu yn cael eu cludo i ystorfeydd WHSmith, Tesco, TK Maxx ac M&S. Maen nhw’n cael eu cludo o fan ‘na gan gwmnïau ailgylchu (Severnside ar gyfer Tesco, SCA Recycling ar gyfer WHSmith a TK Maxx a GSS ar gyfer M&S). Mae’r cardiau’n cael eu graddio wedyn cyn cael eu symud i weithfeydd ailgylchu lle maen nhw’n cael eu trin a’u troi wedyn yn nwyddau newydd fel hancesi papur, papur llungopïo neu gardbord.

Credydau ailgylchu

Mae Coed Cadw yn codi arian trwy gredydau ailgylchu. Credydau ailgylchu yw’r arian y mae awdurdodau lleol yn arbed trwy beidio â gorfod claddu gwastraff cartref sydd yn cael ei ailgylchu. Mae’r awdurdod lleol yn dewis talu’r arian yma yn ôl i’r grwpiau gwirfoddol neu gymunedol sy’n casglu gwastraff cartref ar gyfer ei ailgylchu (yn yr achos yma, Cynllun Ailgylchu Cardiau Nadolig Coed Cadw) oherwydd eu bod nhw eisiau hybu ailgylchu yn y cylch. Mae gwerth y credyd yn amrywio ar draws awdurdodau gwahanol oherwydd gwahaniaethau mewn costau gwaredu gwastraff, ac mae’n cael ei dalu am bod tunnell o wastraff cartref a ailgylchir. Mae e hefyd yn codi bob blwyddyn gyda’r RPI (Retial Price Index) a chydag unrhyw gynnydd yn y dreth ailgylchu.