|

Cardiau Nadolig

4 Ionawr 2006

Coed Cadw yn herio pobl Cymru i ailgylchu 5 miliwn o gardiau

Carwyn Jones AC, Gweinidog yr Amgylchedd yn rhoi sêl bendith i’r cynllun

Wrth i deuluoedd Cymru dacluso i ffwrdd yr addurniadau Nadolig, mae Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir Gwledydd Prydain, wedi herio pobl Cymru i ddechrau 2006 mewn ffordd werdd a hynny trwy ailgylchu hyd yn oed mwy o gardiau Nadolig nag y gwnaethon nhw y llynedd, trwy ddefnyddio Cynllun Ailgylchu Cardiau Nadolig Coed Cadw, mewn siopau Tesco a WHSmith ar hyd a lled Cymru. Y llynedd fe gasglodd y cynllun 4,633,000 o gardiau yng Nghymru, sef 91.863 o dunelli ohonyn nhw (1).

Trwy ailgylchu cardiau, gan ddefnyddio Cynllun Coed Cadw, fe all pobl nid yn unig lleihau maint y gwastraff y mae angen ei gladdu mewn tomennydd sbwriel ac arbed coed, ond hefyd cefnogi’r gwaith y Coed Cadw yn ei wneud yn gofalu am goetir brodorol, a hynny oherwydd fod awdurdodau lleol yn talu credyd ailgylchu (2) ar gyfer pob tunnell o gardiau sy’n cael eu hailgylchu. Mae Coed Cadw yn gofalu am dros 1000 o goedlannau ar draws y DU, dros 100 ohonyn nhw yma yng Nghymru. Mae bron pob un o’r rhain ar agor i’r cyhoedd ymweld â nhw ar unrhyw adeg ac am ddim. Mae yna restr lawn o’r coedlannau hyn wrth: www.woodland-trust.org.uk/woods

Mae’n cynllun wedi ennill sêl bendith Carwyn Jones AC, Gweinidog yr Amgylchedd Cynllunio a Chefn Gwlad yn Llywodraeth y Cynulliad. Dywed Mr Jones: “Mae’n debyg fod pobl Cymru wedi derbyn tua 50 miliwn o gardiau y Nadolig yma. Felly, rwyf yn erfyn ar bobl i ddefnyddio Cynllun Ailgylchu Cardiau Nadolig Coed Cadw, i helpu sicrhau fod y dathliadau yn gadael llai o gur pen amgylcheddol pam fydd y wyl drosodd.”

Mae’r Cynllun Ailgylchu Cardiau Nadolig yn hawdd i’w ddefnyddio: fe all unigolion fynd â chardiau Nadolig i unrhyw siop WHSmith ar y stryd fawr, neu unrhyw siop Tesco Extra neu archfarchnad (3) ar hyd a lled Cymru.

Mae Coed Cadw, yn trefnu’r Cynllun Ailgylchu Cardiau Nadolig 2006 mewn partneriaeth gyda WHSmith a Tesco. Mae’r Cynllun yn rhedeg rhwng y 2 – 31 Ionawr, ac mae’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Craff am Wastraff. Mae Cyngor Sir Swydd Nottingham yn gweinyddu’r gefnogaeth i’r cynllun o’r awdurdodau lleol. Mae cwmnïau SCA Recycling a Severnside Recycling yn casglu ac yn ailgylchu’r cardiau.

Dywed Y Cyng. Richard Parry-Hughes, Cadeirydd Craff am Wastraff: “Mae Craff am Wastraff yn hapus i gefnogi cynllun Coed Cadw unwaith eto eleni. Mae’r Cynllun Ailgylchu Cardiau Nadolig wedi bod yn llwyddiant mawr bob blwyddyn, a dyma ffordd wych i ailgylchu mwy o’r gwastraff ychwanegol sy’n cael ei gynhyrchu yn ystod tymor y Nadolig.”

Dylai’r cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis (Swyddog Cyfathrebu) ar 01766 832563 neu 07760 171174
Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH
E-bost roryfrancis@woodland-trust.org.uk

neu Ioan Reed-Aspley Swyddog Cyhoeddusrwydd a Chyfathrebu Corfforaethol ar 01476 581112, e-bost: ioanreedaspley@woodland-trust.org.uk

neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-mail media@woodland-trust.org.uk

Nodiadau i olygyddion

1. Ar draws y DU casglwyd 58 miliwn o gardiau sef 1,150 o dunelli o wastraff.
2. Nid yw hwn yn cynnwys siopau Tesco Express na siopau Metro llai.
3. Credydau Ailgylchu: dyma’r arian y mae Awdurdodau Lleol yn ei arbed trwy BEIDIO â thirlenwi unrhyw wastraff sy’n cael ei ailgylchu. Fe fydd y Cyngor yn talu’r arian yma yn ôl i grwpiau gwirfoddol neu gymunedol sy’n casglu gwastraff cartrefol i’w ailgylchu (sef Cynllun Ailgylchu Cardiau Nadolig Coed Cadw yn yr achos yma) oherwydd eu bod yn dymuno hybu ailgylchu yn eu hardal nhw. Mae gwerth y credyd yma’n amrywio o ardal i ardal, gan ei fod yn dibynnu ar gostau gwaredu. Mae’r swm yn cael ei dalu ar gyfer pob tunnell o wastraff cartrefol sy’n cael ei ailgylchu. Mae gwrth y credyd yn cynyddu bob blwyddyn, i gyd-fynd â’r Mynegai Prisiau Mânwerthu ac unrhyw godiadau yn y Dreth Dirlenwi.

Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.


Craff am Wastraff
Mae Craff am Wastraff yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo lleihau gwastraff, ailddefnyddio ac ailgylchu ar draws pob sector o’r gymuned.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.craffamwastraff.org.uk