19 Tachwedd 2005
Pobl leol yn dod yn fwdlyd dros amgylchedd gwell!Chris Needs, y DJ o Radio Wales yn dod i Landeilo i gefnogi’r ymgyrch plannu coed yng Nghoed Tregib
Mae Coed Cadw (the Woodland Trust) yn annog pobl Llandeilo a’r cyffiniau i ddod yn llu Dydd Sadwrn y 19 Tachwedd i gefnogi’r ymgyrch i wella’r amgylchedd yn lleol trwy greu coetir brodorol newydd yng Nghoed Tregib, rhyw hanner milltir i’r de-ddwyrain i’r dref.
Mae’r elusen yn gwahodd pobl i ddod i blannu coeden ar y safle, unrhyw amser rhwng 10 o’r gloch y bore a 2 o’r gloch y prynhawn. Ymhlith y rhai fydd yn gwneud hyn bydd Chris Needs, DJ sy’n cyflwyno rhaglen Chris Needs Garden, yn hwyr y nos ar BBC Radio Wales. Mae Chris wedi bod yn annog ei wrandawyr i blannu a chyflwyno coed ar y safle1 ac mae’r coed hyn yn mynd i gael eu plannu mewn clwstwr i greu gelli arbennig i Radio Wales.
Mae’r digwyddiad cyhoeddus Dydd Sadwrn yn rhan o ymgyrch plannu coed ehangach yng Nghoed Tregib mis Tachwedd yma. Fe fydd tua 400 o blant o 9 ysgol yn plannu coed ar y safle yr wythnos hon, tra bydd Girlguiding Cymru yn cynnal digwyddiad eu hunain, hefyd.
Wedi’i drefnu gan Goed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, mae hyn yn rhan o Coed i Bawb2, sef ymgyrch plannu coed uchelgeisiol sy’n anelu at blannu un goeden ar gyfer pob plentyn yn y DU dros gyfnod o bum mlynedd, sef 12 miliwn yn gyfangwbl, ac i roi cyfle i filiwn o blant gymryd rhan yn hyn eu hunain.
Mae’r gwaith plannu yng Nghoed Tregib yn rhan o ymgyrch Coed Cadw i goffáu dau ganmlwyddiant Brwydr Trafalgar3 trwy greu 33 o goedlannau newydd ar draws y DU, sef un ar gyfer pob llong o lynges Nelson. Mewn cydnabyddiaeth i hyn, fe fydd rhan o’r coetir newydd yng Nghoed Tregib wedi’i ddynodi fel Gelli Spartiate, wedi’i enwi ar ôl HMS Spartiate, sef llong gyda 33 o gynnau oedd yn bresennol yn Trafalgar o dan y Capten Sir Francis Laforey.
Crëir 12 hectar (32 erw) o goetir newydd ar y safle, fel estyniad i Goed Tregib, un o goedlannau Coed Cadw sy’n bodoli eisoes. Gwnaed rhywfaint o waith plannu ym mis Tachwedd 2004 ac yn gynnar ym 2005, gyda phlant lleol yn plannu 4,000 o goed brodorol, sef coed gwern, helyg, derw, onn ac amrywiaeth o brysgwydd. Fe fydd hyn yn dod â Choed Tregib yn nes at dref Llandeilo, gan ei gwneud hi’n haws i’w gyrraedd gan bobl leol, a hynny trwy hwyluso darpariaeth llwybr rhwng y dref a’r goedlan, ac ar hyd Afon Tywi, am y tro cyntaf erioed. Fe fydd e hefyd yn creu cynefin newydd i fywyd gwyllt, yn arbennig dyfrgwn, gan fod y tir mewn cwestiwn yn gorwedd rhwng coedwig bresennol Coed Tregib ac Afon Tywi. Mae pwysigrwydd y tir hwn i fywyd gwyllt yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith fod coedlan Coed Tregib bresennol wedi cael ei dynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Dywed Kavita Heyn o Goed Cadw: “Ar ôl yr holl waith a wnaed yn codi’r arian i brynu’r safle i wneud plannu coed yn bosibl, mae’r wych i gael gwahodd pobl leol i ddod i rannu’r gwaith mwdlyd, a dathlu’r llwyddiant! Dwi eisiau diolch i bawb a gefnogodd yr ymgyrch. Fe allwn ni fod yn sicr ein bod ni wedi helpu, gyda’n gilydd, i greu amgylchedd gwell ar gyfer Llandeilo, i fywyd gwyllt ac i bobl.”
Mae Coed Cadw yn ddiolchgar i’r holl gefnogwyr a helpodd i wneud y prosiect yn bosibl, yn enwedig: The David and Christopher Lewis Foundation, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, Yr Undeb Ewropeaidd Amcan 1, Girl Guiding Cymru, y Carmarthen Journal a Chadetiaid y Fyddin Dyfed, fydd yn darparu lluniaeth ar y diwernod.
Fe brynodd Coed Cadw estyniad 12 hectar (32 erw) o Goed Tregib yn 2004, yn dilyn ymgyrch egnïol yn y gymuned leol. Mae gweddill Coed Tregib wedi bod yng ngofal Coed Cadw ers 1983. Mae’n rhan o’r ardal fwyaf o goetir yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin, ac mae hi o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r coetir hynafol yn goetir derw ac onn yn bennaf gyda choed coll wedi’u prysgoedio, wedi’i gymysgu â choetir gwlyb gyda choed gwern. Mae’r goedlan yn amrywiol yn fotanegol gyda thros 100 o rywogaethau gwahanol yn bresennol. Cofnodwyd pathewod ar y safle hefyd. Fel y rhan fwyaf o safleoedd Coed Cadw, mae Coed Tregib ar agor i bawb ymweld â fe a hynny ar unrhyw adeg ac am ddim. Erbyn hyn mae ganddo fe wefan ei hun sef:
www.wt-woods.org.uk/coedtregib Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth am y goedlan a’i rheolaeth, gan gynnwys map rhyngweithiol.
diwedd
Dylai’r cyfryngau gysylltu:
Rory Francis (Swyddog Cyfathrebu) ar 01766 832563 neu 07760 171174
Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH
E-bost roryfrancis@woodland-trust.org.uk
neu Kavita Heyn ar: 0117 927 2337
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-mail media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau ar gyfer olygyddion:
1. Am ragor o fanylion am gefnogaeth Radio Wales am y cynllun ewch i: http://www.bbc.co.uk/wales/.
2.I ddarganfod mwy am ymgyrch Coed i Bawb, ewch i: www.treeforall.org.uk
3. Ceir rhagor o fanylion am brosiect Coed Trafalgar ar wefan: www.treeforall.org.uk/trafalgar
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.