|

Codi waliau sych

18 Mawrth 2008

Adfer hen grefft ym Meirionnydd ... ond wal-godwyr newydd sydd ar yr hen fynyddoedd hyn

Bu cenedlaethau o grefftwyr medrus wrthi’n ddyfal yn creu pensaernïaeth cefn gwlad Meirionnydd – yn enwedig y waliau cerrig sych sy’n troi’r bryniau a’r dyffrynoedd yn glytwaith o wahanol wyrdd.

Erbyn hyn, mae cenhedlaeth newydd o ddarpar-walwyr yn dysgu’r grefft, diolch i Brosiect Rheoli Cynefinoedd Derw Meirionnydd sy’n gweithio i adfer coetiroedd derw ledled y sir i’w hen ogoniant.

Mae Coed Cadw (Woodland Trust), Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac aelodau eraill o’r bartneriaeth, yn cynnal cyfres o gyrsiau walio cerrig sych yng Nghoed Cymerau, ger Blaenau Ffestiniog.

Mae hyn yn rhan o gynllun Prosiect Rheoli Cynefin Coedydd Derw Meirionnydd i ail-greu’r dirwedd fel y mae wedi bod ers dros dair canrif.

“Mae waliau cerrig sych Meirionnydd yn rhan hanfodol o’r golygfeydd ac, er bod y waliau’n para’n hir, mae angen gwaith cynnal a chadw arnyn nhw o dro i dro,” meddai Nicky Maysmor o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, partner arweiniol y prosiect.

“Mae’r waliau’n rhwystr cadarn a hardd sy’n cadw anifeiliaid fferm allan o’r coetiroedd sy’n cael eu teneuo a’u trin i annog coed derw, ynn a bedw i ail-dyfu,” meddai Nicky.

Mae pobl o bob oed wedi trefn i ddod ar y cwrs dau ddiwrnod yn y coed.

“Mae pob math o bobl o bob math o gefndiroedd wedi bod ar y cyrsiau a’n gobaith ni yw y bydd rhai ohonyn nhw’n dal ati i ddysgu ac yn ein helpu i warchod yr ardal arbennig hon,” meddai Rhydian Roberts o Coed Cadw.

Mae Coedydd Derw Meirionnydd yn ardal gadwraeth bwysig. Mae coetiroedd naturiol a choetiroedd hynafol sydd wedi’u difrodi yn cael eu rheoli i’w hadfer i’w hen ogoniant.

Cânt eu cyfrif ymhlith yr ardaloedd gorau o Goetiroedd Derw Iwerydd yn Ewrop ac fe’u dynodwyd yn ddarpar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (dACA).

Mae Coed Cadw am wneud gwaith gwerth £700,000 fel rhan o’r prosiect, gyda hanner yr arian yn dod o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) o dan raglen Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Coed Cadw ei hunan fydd yn codi’r hanner arall. Mae’r cyfanswm yn fuddsoddiad sylweddol yn harddwch naturiol a bywyd gwyllt Parc Cenedlaethol Eryri.

Fe all y cyfryngau gysylltu a:

Rory Francis (Swyddog Cyhoeddusrwydd a Materion Cyhoeddus Cymru) ar 01766 832563 neu 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH E-bost roryfrancis@woodland-trust.org.uk

neu Rhydian Roberts, Swyddog Prosiectau Coed Cadw ar 01745 818808


Swyddfa’r Wasg The Woodland Trust ar 01476 581121, e-bost media@woodland-trust.org.uk

Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw prif elusen cadwraeth coetiroedd y DU. Mae ganddi 250,000 o aelodau a chefnogwyr. Mae gan Goed Cadw bedwar nod allweddol: i) Peidio â cholli mwy o goetiroedd hynafol; ii) Adfer a gwella bioamrywiaeth coedwigoedd; iii) Cynyddu coetiroedd cynhenid newydd; iv) Gwneud pobl yn fwy ymwybodol o goetiroedd a chynyddu eu mwynhad ohonynt.

Mae gan Coed Cadw, a sefydlwyd ym 1972, dros 1,000 o safleoedd yn ei ofal erbyn hyn, yn cynnwys rhyw 20,000 hectar (50,000 o erwau). Yn eu plith mae dros gant o safleoedd yng Nghymru yn mesur tua 1,580 hectar (3,900 o erwau). Ceir mynediad am ddim i'w safleoedd bron i gyd. Ceir rhagor o newyddion yn www.coed-cadw.org.uk . Cyflwynodd The Woodland Trust enw Cymraeg yn 2000: "Coed Cadw". Mae hwn yn hen derm, a ddefnyddid mewn cyfreithiau canoloesol i ddisgrifio coetiroedd oedd yn cael eu gwarchod neu eu cadw.

Mae Prosiect Rheoli Cynefin Coedydd Derw Meirionnydd yn ffrwyth sawl blwyddyn o waith gan bartneriaeth leol o sefydliadau lIywodraethol, anllywodraethol a phreifat ym maes cadwraeth a choedwigaeth, yn cydweithio'n agos a'r Undeb Ewropeaidd. Ymhlith y partneriaid mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Tilhill Forestry, Flintshire Woodlands, Coed Cadw (the Woodland Trust), Rheilffordd Ffestiniog, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r prosiect yn cael grant 50% sy'n werth £1,111,673,00 gan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) o dan raglen Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd, trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru. Codir y gweddill gan y partneriaid a pherchnogion tir preifat. Mae hyn yn rhoi cyfanswm o £2,223,346.00 i'w wario yn yr ardal dros bedair blynedd. Mae 58 o goetiroedd a rheilffordd yn rhan o'r prosiect, sy'n mesur 1710 hectar. Daw'r prosiect i ben ym mis Medi 2008.

Sefydlwyd y prosiect i ofalu am goetiroedd derw Meirionnydd, gan hybu eu pwysigrwydd i’r gymuned leol, ymwelwyr, yr economi a’r amgylchedd

Bwriad arian Amcan 1 yw "lIeihau'r bwlch rhwng lefelau datblygiad y gwahanol ranbarthau", Fel rheol, mae gan ranbarthau sy'n datblygu'n araf gynnyrch domestig crynswth (GDP) y pen sy'n lIai na 75% o'r cyfartaledd ar gyfer y Gymuned. Fel rheol hefyd ceir:
• lefel isel o fuddsoddi;
• mwy o ddiweithdra nag sy'n arferol;
• diffyg gwasanaethau ar gyfer busnesau ac unigolion;
• isadeiledd sylfaenol gwael.

Nod Cronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) yw:
• Helpu i warchod y cysylltiad rhwng ffermio sydd wedi arallgyfeilio a'r tir.
• Gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol fel gweithgaredd allweddol mewn ardaloedd gwledig.
• Sicrhau bod yr economi'n arallgyfeirio mewn ardaloedd gwledig.
• Helpu i gadw cymunedau lIewyrchus mewn ardaloedd gwledig.
• Gwarchod a gwella'r amgylchedd, y tirwedd a'r dreftadaeth wledig.

Mae Coedydd Derw Meirionnydd yn bwysig gan eu bod yn cynnwys coetiroedd naturiol a choetiroedd hynafol sydd wedi'u difrodi ac sy'n cael eu rheoli erbyn hyn i'w hadfer i'w cyflwr naturiol. Cyfrifir bod y coetiroedd naturiol ymhlith y safleoedd gorau o Goetiroedd Derw'r Iwerydd yn Ewrop ac felly maent yn ymgeisydd ar gyfer dynodiad Ardal Cadwraeth Arbennig (cSAC). Mae safleoedd a ddynodwyd yn cSACau yn rhan o "Natura 2000", sef rhwydwaith o safleoedd cadwraeth ledled yr Undeb Ewropeaidd, a'r nod yw gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd sy'n brin, mewn perygl neu'n agored i niwed.

Ceir Coedydd Derw'r Iwerydd ar Ian Môr Iwerydd yn Ewrop, o Ogledd yr Alban yr holl ffordd i Bortiwgal. Mae'r tiroedd hyn yn cael eu heffeithio'n drwm gan Lif y Gwlff, sy'n cadw'r ardal yn gynnes ond yn wlyb. Mae'r hinsawdd ar arfordiroedd Mor Iwerydd yn lIaith ac felly ceir yno gymunedau unigryw o redyn, mwsoglau a lIysiau'r afu, cen a ffyngau. Dyma'r unig Ie y ceir rhai o'r rhywogaethau hyn.

Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru: Nodiadau i’r Golygydd
O gyfrif cyllid cyfatebol o’r sectorau cyhoeddus a phreifat hefyd, buddsoddwyd tua £2.75bn yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf trwy Raglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a reolir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.
Mae’r buddsoddiad hwn wedi creu neu ddiogelu dros 87,000 o swyddi yng Nghymru, gan wella ffyniant, creu cyfleoedd newydd a thrawsnewid cymunedau a fu’n dlawd. Prif amcan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yw sicrhau bod Cymru’n cael y budd mwyaf posibl o Gronfeydd Strwythurol Ewrop dros y cyfnod 2000-06. Mae’n rhan o Grŵp Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae nifer o bartneriaethau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn cynnal prosiectau.
Nod y Cronfeydd Strwythurol yw hybu twf economaidd cynalidwy, cynyddu ffyniant ym mhob rhan o Gymru, lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, anweithgarwch ac allgáu cymdeithasol.