|

Coed tan a byd natur

11 Rhagfyr 2006

Lladron coed yn ysgogi Coed Cadw i leisio pryder am fyd natur

Mae lladron coed tân yn peryglu byd natur mewn coedlan fach ger Harlech – trwy dynnu allan y coed i gyd sy’n gorwedd ar lawr y goedwig, sy’n darparu cynefin hollbwysig i fyd natur.

Mae Coed Cadw (the Woodland Trust) wedi sylwi bod coed wedi cael ei symud o Goed Aber Artro ger Llanbedr, sydd yn rhan o Brosiect Coedydd Derw Meirion – a bellach mae’n lleisio pryder.

Mae rhai o’r coed estron ar y safle wedi cael eu cwympo i roi cyfle gwell i goed brodorol fel derw ac ynn i aildyfu, i roi hwb i flodau gwyllt sy’n gysylltiedig â choetir hynafol ac i sicrhau cydbwysedd gwell rhwng coed o wahanol oedrannau. Mae Coed Aber Artro yn un o dros 50 o goedlannau ar draws 1000 o hectarau o Feirionnydd sy’n rhan o’r prosiect.

“Ac mae’r coed sydd ar y llawr wedi cael ei adael i ddarparu’r cynefin perffaith i drychfilod bychain sy’n chwarae rhan hollbwysig yn y gadwyn fwyd”, medd Rhydian Roberts o Goed Cadw, sy’n rhedeg Prosiect Coedydd Derw Meirion mewn partneriaeth gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a chyrff eraill.

"Rydan ni wedi bod yn poeni am ddiogelwch ers peth amser”, medd Rhydian, “yn enwedig taflu sbwriel yn slei bach a cherbydau’n cael eu gyrru ar y llwybrau. Lladrad y coed yma oedd y diwedd, a ‘dan ni bellach yn dechrau’n gynnar ar waith oedd wedi cael ei gynllunio ar gyfer 2007, sef gosod rhwystrau i gerbydau ar y llwybrau er mwyn atal pobl rhag gyrru i fewn i’r goedlan. "

Bellach, mae Coed Cadw yn galw ar bobl leol i gadw llygad barcud ar y goedlan a rhoi gwybod i’r elusen os byddan nhw’n gweld cerbydau wedi’u llwytho gyda choed yn gadael y safle. Fe all pobl gysylltu â’r heddlu, neu â Rhydian ei hun ar 01745 818808.

Mae Coedydd Derw Meirionnydd yn bwysig gan mai coedlannau naturiol ydyn nhw, gan gynnwys coetir brodorol sydd wedi ei niweidio. Bellach maen nhw’n cael eu rheoli i’w hadfer i’w gogoniant blaenorol.

Mae’r coedlannau hyn yn cael eu hystyried fel rhai o’r enghreifftiau gorau o goetir derw’r Iwerydd yn Ewrop, ac maen nhw wedi cael eu dynodi fel darpar Ardal o Ddiogelwch Arbennig.

Mae Coed Cadw yn bwriadu gwneud gwaith gwerth £700,000 fel rhan o’r prosiect hwn. Daw hanner yr arian o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) o dan raglen Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd, trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Codir y gweddill gan Coed Cadw ei hunan a bydd yn fuddsoddiad mawr yn harddwch naturiol a bywyd gwyllt Parc Cenedlaethol Eryri.

Diwedd

Cysylltwch â:

Rory Francis (Swyddog Cyhoeddusrwydd a Materion Cyhoeddus yng Nghymru) ar 01766 832563 neu 07760 171174
Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH
E-bost roryfrancis@woodland-trust.org.uk

Tim Gordon-Roberts o Brosiect Rheoli Cynefin Coedydd Derw Meirionnydd ar 01341 422289

Swyddfa’r Wasg Coed Cadw ar 01476 581121, e-bost media@woodland-trust.org.uk


Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw prif elusen y DU ym maes gwarchod coetiroedd. Mae gan Coed Cadw 250,000 o aelodau a chefnogwyr. Mae ganddo bedwar nod allweddol: i) Sicrhau na chaiff rhagor o goetiroedd hynafol eu colli; ii) Adfer a gwella bioamrywiaeth coetiroedd; iii) Sicrhau cynnydd mewn coetiroedd cynhenid newydd; iv) codi ymwybyddiaeth a chynyddu mwynhad pobl o’r coetiroedd. Sefydlwyd Coed Cadw ym 1972 ac erbyn hyn mae’n gofalu am dros fil o safleoedd dros tua 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros gant o safleoedd yng Nghymru, dros arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r cyhoedd yn cael mynd i’r safleoedd bron i gyd am ddim. Ceir rhagor o newyddion yn www.coed-cadw.org.uk . Cymerodd y Woodland Trust yr enw Cymraeg, Coed Cadw, yn 2000. Mae hwn yn hen derm a oedd yn cael ei ddefnyddio yng nghyfreithiau'r Oesoedd Canol i ddisgrifio coetiroedd oedd yn cael eu diogelu.

Prosiect Rheoli Cynefin Coedydd Derw Meirionnydd

Bwriad y prosiect yw gofalu am goedydd derw Meirionnydd, yn hybu eu pwysigrwydd i’r gymuned leol a’i ymwelwyr, yr economi a’r amgylchedd.

Mae Prosiect Rheoli Cynefin Coedydd Derw Meirionnydd yn ffrwyth sawl blwyddyn o waith gan bartneriaeth leol o sefydliadau llywodraethol, anllywodraethol a phreifat ym maes cadwraeth a choedwigaeth, yn cydweithio'n agos â’r Undeb Ewropeaidd.Ymhlith y partneriaid mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Coed Cadw (the Woodland Trust), Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Tilhill Forestry, Flintshire Woodlands a Rheilffordd Ffestiniog. Mae’r prosiect yn cael grant 50% sy’n werth £1,111,673.00 gan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) o dan raglen Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd, trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru. Codir y gweddill gan y partneriaid a pherchnogion tir preifat. Mae hyn yn rhoi cyfanswm o £2,223,346.00 i’w wario yn yr ardal dros bedair blynedd. Mae 58 o goetiroedd a rheilffordd yn rhan o’r prosiect, sy’n mesur 1710 hectar. Daw’r prosiect i ben ym mis Medi 2008.

Bwriad arian Amcan 1 yw “lleihau’r bwlch rhwng lefelau datblygiad y gwahanol ranbarthau”. Fel rheol, mae gan ranbarthau sy’n datblygu’n araf gynnyrch domestig crynswth (GDP) y pen sy'n llai na 75% o’r cyfartaledd ar gyfer y Gymuned. Fel rheol hefyd ceir:
• lefel isel o fuddsoddi;
• mwy o ddiweithdra nag sy'n arferol;
• diffyg gwasanaethau ar gyfer busnesau ac unigolion;
• isadeiledd sylfaenol gwael.

Nod Cronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) yw:
• Helpu i warchod y cysylltiad rhwng ffermio sydd wedi arallgyfeirio a’r tir.
• Gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol fel gweithgaredd allweddol mewn ardaloedd gwledig.
• Sicrhau bod yr economi’n arallgyfeirio mewn ardaloedd gwledig.
• Helpu i gadw cymunedau llewyrchus mewn ardaloedd gwledig.
• Gwarchod a gwella’r amgylchedd, y tirwedd a’r dreftadaeth wledig.

Mae Coedydd Derw Meirionnydd yn bwysig gan eu bod yn cynnwys coetiroedd naturiol a choetiroedd hynafol sydd wedi’u difrodi ac sy’n cael eu rheoli erbyn hyn i’w hadfer i’w cyflwr naturiol.
Cyfrifir bod y coetiroedd naturiol ymhlith y safleoedd gorau o Goetiroedd Derw’r Iwerydd yn Ewrop ac felly maent yn ymgeisydd ar gyfer dynodiad Ardal Cadwraeth Arbennig (cSAC).
Mae safleoedd a ddynodwyd yn cSACau yn rhan o “Natura 2000”, sef rhwydwaith o safleoedd cadwraeth ledled yr Undeb Ewropeaidd, a’r nod yw gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd sy’n brin, mewn perygl neu'n agored i niwed.

Ceir Coedydd Derw’r Iwerydd ar lan Môr Iwerydd yn Ewrop, o Ogledd yr Alban yr holl ffordd i Bortiwgal. Mae’r tiroedd hyn yn cael eu heffeithio’n drwm gan Lif y Gwlff, sy’n cadw’r ardal yn gynnes ond yn wlyb. Mae'r hinsawdd ar arfordiroedd Môr Iwerydd yn llaith ac felly ceir yno gymunedau unigryw o redyn, mwsoglau a llysiau’r afu, cen a ffyngau. Dyma’r unig le y ceir rhai o’r rhywogaethau hyn.

Nodyn i’r Golygydd am Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO)
A chyfrif arian cyfatebol o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, mae tua £2.75bn wedi’i fuddsoddi yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf trwy Raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewrop a reolir gan WEFO.
Mae hyn wedi creu neu ddiogelu dros 87,000 o swyddi yng Nghymru, gan wella ffyniant, cynyddu cyfleoedd a thrawsnewid cymunedau a fu’n cael eu hystyried yn rhai amddifadus iawn. Prif amcan WEFO yw sicrhau bod Cymru’n elwa cymaint ag y bo modd o'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd dros y cyfnod 2000-06. Mae’n rhan o Grŵp Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae nifer o bartneriaid yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn gweithio ar brosiectau.
Nod y Cronfeydd Strwythurol yw hybu twf economaidd cynaliadwy, cynyddu ffyniant ym mhob rhan o Gymru, lleihau gwahaniaethau yng Nghymru a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, segurdod ac allgau cymdeithasol.

Simon Jenkins, Swyddfa’r Wasg Llywodraeth Cynulliad Cymru
Ffôn: 02920 898203.
E-bost: simon.jenkins@wales.gsi.gov.uk