4 Awst 2006
Coed y Bobol yn ennill y cwpan!
Grŵp coetir cymuned Pontarfynach yn ennill deirgwaith yn Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru!
Mae Ymddiriedolaeth Coed y Bobol, sef grŵp coetir cymunedol o Bontarfynach, wedi ennill deirgwaith yng Nghystadleuaeth Coetir Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru. Mae’r grŵp wedi cipio’r wobr am y Coetir Cymunedol Gorau yn y gystadleuaeth ranbarthol ar gyfer hen siroedd Brycheiniog, Abertiefi a Maesyfed, a adweinir fel Cwpan Sialens Parhaol Meirion Davies. Ar ben hynny fe roddodd y beirniaid fedal arian i’r grŵp ar gyfer coetir aml-fudd (dosbarth 10) am ‘ddarparu mynediad cyhoeddus a manteision amgylcheddol a chymdeithas’. Yn olaf, fe ennillodd y grŵp fedal aur (dosbarth 14) am ‘greu a rheoli coedlan leol er lles a diddordeb y gymuned leol’.
Cyflwynwyd y gwobrau yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yr wythnos ddiwethaf. Fe fydd y goedlan, ynghyd â’i gwirfoddolwyr, yn mynd ymlaen i gynrychioli’r rhanbarth yn y gystadleuaeth genedlaethol yn 2009.
Grŵp cymunedol yw Ymddiriedolaeth Coed y Bobol, sydd erbyn hyn wedi cymryd drosodd rheolaeth Coed y Bobol1, sef coedlan Coed Cadw (the Woodland Trust) ar ochr ddeheuol Pontarfynach. Dyma’r grŵp cymunedol cyntaf yng Nghymru sydd wedi gwneud hyn.
Mae’r grŵp wedi bod yn weithgar ers saith mlynedd bellach, ac fe weithion nhw’n agos gyda Choed Cadw, prif elusen gwarchod coetir y DU, i helpu’r mudiad i brynu’r safle yn ôl yn 2000. Roedd hyn yn rhan o brosiect Coedlannau i’ch Bro, i greu 250 o goedlannau cymunedol newydd ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i ddathlu’r mileniwm. Wedi’i gefnogi gan Gomisiwn y Mileniwm gyda dyraniad o £10.5m, Coedlannau i’ch Bro oedd un o sialensau plannu coed mwyaf uchelgeisiol a welwyd erioed ym Mhrydain. Cefnogwyd y prosiect gan Ymddiriedolaethau Elusennol Teulu Sainsbury a’r Comisiwn Coedwigaeth, hefyd.
Fe dderbyniodd Ymddiriedolaeth Coed y Bobol Wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn Coed Cadw yn 2002, ac yn gynharach eleni fe gymerodd y grŵp drosodd y gwaith cynnal a chadw ar y goedlan, yn gweithio’n agos gyda Choed Cadw.
Mae Steve Wigfall, sy’n aelod o’r grŵp, yn egluro: “Mewn saith mlynedd yn unig, trwy waith caled a dyfalbarhad, mae’r gwirfoddolwyr wedi trawsnewid safle lle cwympwyd coed conwydd gynt i warchodfa natur sy’n dod yn fwyfwy cyfoethog i fywyd gwyllt. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf cofnodwyd 12 rhywogaeth o was y neidr a mursen ar y safle, a gwelwyd dros hanner cant o rhywogaethau o adar yna yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae yna lu o rywogaethau o famaliaid bychain ar y safle hefyd, ac maen nhw’n denu amrediad eang o adar ysglyfaethus. Mae’r goedlan yn lleoliad gwych i wylio’r barcud coch. Yn gynharach eleni gwelwyd pâr yn cofleidio, yn syrthio o’r awyr gyda’u gilydd ac wedyn yn cymharu - profiad unigryw i’w weld.”
Saif Coed y Bobol ar ochr orllewinol y B4242 i’r de i ganol Pontarfynach1. Fel bron pob coedlan sy’n eiddo i Goed Cadw, mae hi ar agor i bawb ymweld â hi ar unrhyw adeg a hynny am ddim. Mae ganddi hi ei gwefan ei hun bellach, sy’n cynnwys pob maeth o wybodaeth ddiddorol ynghyd â map rhyngweithiol, wrth:
www.wt-woods.org.uk/coedybobol
(diwedd)
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk
Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
neu Steve Wigfall ar 01970 890371
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-bost
media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau i olygyddion
1. Saif Coed y Bobol wrth gyfeirnod grid SN 736 762. Gellir is-lwytho map digidol o’r safle o multimap yma
2. Danfonir llun o Lorett Wigfall yn derbyn un o’r gwobrau hyn o Ian Forshaw, Cyfarwyddwr Comisiwn Coedwigaeth Cymru.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.