23 Tachwedd 2007
Coeden hynafol newydd yn cael ei gweld - yn y Senedd ym Mae Caerdydd!
Cerflun o goeden hynafol wedi’i gwneud o wiail helyg yn ymddangos yn y Cynulliad i ddathlu Wythnos Genedlaethol y Coed, ac i dynnu sylw at yr Helfa Coed Hynafol
Fe ymddangosodd cerflun o goeden hynafol, bron mor fawr â choeden go iawn, a grëwyd gan yr artist Beryl Smith o Lanidloes, yn Senedd y Cynulliad rhwng y 22 a’r 26 o Dachwedd. Mae hyn yn digwydd i ddathlu Wythnos Genedlaethol y Coed (1), ac i annog pawb i gymryd rhan yn yr Helfa Coed Hynafol, a hynny trwy gofnodi o leiaf un goeden hynafol.
Mae hyn yn cael ei noddi gan Lywydd y Cynulliad, Dafydd Elis Thomas, a’i drefnu gan Goed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, fel rhan o’r Helfa Coed Hynafol, sef prosiect sydd â’i fryd ar ysgogi miloedd o bobl i helpu cael hyd i hen goed tew ar hyd y DU a chofnodi eu lleoliad.
Dywed Dafydd Elis Thomas: “Dwi wedi byw mewn ymysg coetiroedd hynafol trwy gydol fy oes, ac yn enwedig rŵan dwi’n cael y cyfle i gerdded a rhedeg ynddyn nhw bob wythnos. Maen nhw mor bwysig fel cynefin ar gyfer pob rhan o’r gadwyn fwyd, yn enwedig adar. Ger Betws y coed fydd gwybedwyr brith yn cyrraedd y derw a’r ffawydd bob blwyddyn i ymborthi ar y trychfilod uwchben ceunant Afon Conwy. Ac o’r coetir hynafol o eiddo Coed Cadw yn Ninas Powys bydd cnocellau gwyrddion yn dod i wledda ar twmpathau morgrug yn yr ardd gefn. Dwi’n hapus iawn mai fel hyn y mae pethau ac mae’n rhaid inni i gyd helpu i warchod cynefinoedd coetir.”
Dywed Beryl Smith, y cerflunydd pren a helyg o Lanidloes a greodd y goeden: “Mae fy ysbrydoliaeth yn deillio o gariad at goed, ac yn enwedig coed hynafol. Roedd yn gyfle gwych i gael fy nghomisiynu i wneud prosiect fel hwn i Goed Cadw. Dwi wrth fy modd fod pobl ledled y wlad yn cael cyfle i weld y goeden. Dwi ‘mond yn gobeithio y bydd hi’n gwneud i bobl feddwl dipyn bach mwy am goed a pha mor bwysig maen nhw inni i gyd.”
Mae gan Wledydd Prydain fwy goed hynafol na’r un wlad arall yng ngogledd Ewrop, ond mae’n syndod nad ydym yn gwybod lle maen nhw! Mae Coed Cadw (the Woodland Trust) yn gofyn i bawb ymuno yn yr Helfa Coed Hynafol, gan gofnodi’r coed maen nhw cael hyd iddyn nhw a’r straeon sy’n gysylltiedig â nhw ar-lein wrth www.helfacoedhynafol.org.uk
Fe all unrhyw un gymryd rhan, boed yn blentyn neu’n oedolyn, trwy gael hyd i ddarn o hanes yn eu parciau a gerddi a helpu Coed Cadw i greu’r map rhyngweithiol cyntaf o’n coed hynafol ni, fel cam pwysig tuag at warchod y trysorau hyn. Mae’n hawdd gwneud, hefyd. Y cyfan sydd eisiau ei wneud yw cael hyd i goeden a’i chofleidio wedyn, i weld pa mor dew y mae hi! Tewaf y goeden, hynaf y bydd hi.
Mae Lea Hughes o Goed Cadw yn ychwanegu: “Rydan ni’n gofyn i bobl sy’n cofnodi coed i ddweud wrthon ni pa mor dew maen nhw, achos mae yna gysylltiad rhwng oed coeden a chylchfesur ei bôn. Os nad oes gennych dâp mesur, fe allwch amcangyfrif cylchfesur bôn coeden yn ôl faint o oedolion sydd eu hangen i’w chofleidio, yn cyffwrdd blaen bysedd ei gilydd. Os oes angen tri o bobl neu fwy, mae’r goeden yn hen dros ben!”
Mae coed hynafol yn gartref i filoedd o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys llawer o rywogaethau sy ddim yn byw mewn llefydd eraill. Wrth iddyn nhw ddod yn hŷn, mae coed yn datblygu tyllau a chorneli ac mae darnau ohonyn nhw’n pydru, gan ddarparu cartrefi i lawer o drychfilod. Mae grwpiau goed hynafol sy’n tyfu gyda’i gilydd yn pwysicach byth gan bod y tyllau ynddyn creu cymuned anhygoel o fywyd gwyllt.
Prosiect pum mlynedd yw’r Helfa Coed Hynafol sy’n cael ei arwain gan Goed Cadw mewn partneriaeth gyda’r Fforwm Coed Hynafol a Chofrestr Coed Ynysoedd Prydain. Mae’n cael ei ariannu gan yr Esmee Fairbairn Foundation, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Treftadaeth Naturiol yr Alban, ac mae’n cael ei gefnogi gan y Comisiwn Coedwigaeth. Fe fydd llawer o bartneriaid lleol yn cydweithio gyda’r prosiect ar hyd a lled y DU. Yn ymuno â’r Helfa y mae Cyngor y Coed, y Caravan Club, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Comisiwn Coedwigaeth, a’r Gwasanaeth Carchardai, dros 100 o grwpiau lleol ynghyd a llawer o dirfeddianwyr.
Lluniau
Gellir dadlwytho fersiwn mwy o'r llun yma
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121
Nodiadau i olygyddion
1. Cynhelir Wythnos Genedlaethol y Coed rhwng 21 Tachwedd a 3 Rhagfyr. Dyma ddathliad plannu coed blynyddol Cyngor y Coed. Fe ddechreuodd yn 1975 ac ers hynny plannwyd dros 20 miliwn o goed. Dyma gyfle gwych i wneud un peth dros yr amgylchedd – i blannu coeden – gan sicrhau llwyth o fanteision amgylcheddol, llawer ohonyn nhw’n rhai tymor hir ar adeg lle mae yna ansicrwydd am yr hinsawdd.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.