|

Cynhadledd Ieuenctid

14eg Mawrth 2006

Cynhadledd Ieuenctid i ddarganfod ei ‘ôl-troed’ amgylcheddol ac i blannu coed yng Nghoed Tregib

Mae Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW) yn cynnal eu Cynhadledd Ieuenctid preswyl poblogaidd ym Mharc Cenedlaethol Bannau’r Brycheiniog yr wythnos hon. Bydd yr achlysur pedwar diwrnod, a gynhelir yng Nghanolfan Astudio Parc Cenedlaethol Danywenallt yn archwilio newidiadau amgylcheddol posibl sy’n wynebu’r Parc Cenedlaethol ac effaith ein gweithgareddau dyddiol ar yr ardal. Bydd y cynrychiolwyr yn cael eu gwneud yn ymwybodol o’u ‘ôl-troed’ amgylcheddol ac yn cymryd rhan mewn gweithgaredd plannu coed ar safle Ymddiriedolaeth Coedlan yng Nghoed Tregib.

Dwedodd Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus Coed Cadw: “Rydym yn falch bod YDCW wedi ymgorffori plannu coed yn eu rhaglen cynhadledd. Os mai’r amcan yw helpu i roi rhywbeth yn ôl i amgylchedd arbennig iawn y Parc Cenedlaethol, nid oes gwell ffordd o wneud hyn na phlannu coed cynhenid. Bydd y cynrychiolwyr yn helpu i greu cynefin gwerthfawr newydd ar gyfer bywyd gwyllt, byddant yn helpu’r Ymddiriedolaeth Coedlan i greu ardal newydd o ofod gwyrdd ar gael i’r cyhoedd sydd o fewn pellter cerdded o Llandeilo, a bydd y coed a fyddant yn eu plannu hefyd yn cyfrannu tuag at leihau gollyngiadau carbon deuocsid y gynhadledd ei hun.”

Cefnogir y gynhadledd gan Gronfa Datblygiad Gynaliadwy BBNP a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Yn ystod y gynhadledd, bydd y cynrychiolwyr yn cydweithio gyda Cheidwaid y Parc Cenedlaethol, Coed Cadw/Ymddiriedolaeth Coedlan, Ymddiriedolaeth John Muir, Fforwm Ieuenctid Llanwrtyd a Cadw’ch Cymru’n Daclus. Bydd y grŵp yn cymryd rhan mewn cyfres o dasgau amgylcheddol allanol ac yn ymweld â phrosiectau lleol i edrych ar gynhyrchu ynni amgen, ymarferion adeiladu cynaliadwy, lleihau gwastraff a hybu bwyd lleol. Bydd y myfyrwyr yn cyflwyno eu darganfyddiadau a’u gweledigaeth ar gyfer dyfodol y Parc Cenedlaethol yn Neuadd Urdd Aberhonddu ar Ddydd Gwener 17eg Mawrth.

Bydd croeso i ffotograffwyr a swyddogion y wasg yn yr achlysur plannu coed ar 16eg Mawrth, 2.00yp yng Nghoed Tregib neu’r cyflwyniad yn Neuadd Urdd Aberhonddu ar Ddydd Gwener 17eg Mawrth am 10.30yb – 12.30yp.

Diwedd

Enthusiastic tree planter