11 Hydref 2006
“Fe allai Cynlluniau Cydgyfeirio fod yn hunan-drechol onid ydyn nhw'n cydnabod pwysigrwydd yr amgylchedd", medd Coed Cadw
Mae’n bosibl fod y Cynulliad yn colli cyfle gwerthfawr i sicrhau canlyniadau ei Strategaeth Amgylcheddol ei hun tra’n dod â arian ychwanegol i mewn i’r economi Cymreig.
Mae Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, wedi lleisio pryder y gallai rhaglenni cydgyfeirio, sydd yn cymryd lle y rhaglen amcan 1 bresennol, fod yn hunan-drechol os nad ydyn nhw’n sicrhau na fydd gwelliannau economaidd yn tanseilio un o gaffaeliadau pennaf Cymru, sef ei amgylchedd naturiol rhagorol.
Mae’r rhybudd yn rhan o ymateb (1) yr elusen i ymgynghoriad y Cynulliad ar y rhaglenni Cydcyfeirio, a ddaeth i ben Dydd Gwener.
Mae dogfen ymgynghoriad y Cynulliad yn datgan yn glir fod y rhaglen amcan 1 bresennol ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn llwyddo, gyda chynnyrch mewnwladol crynswth y pen yn symud i cyfeiriad y cyfartaledd Ewropeaidd. Yn wahanol i raglen Amcan 1 bresennol, fodd bynnag, nid yw’r rhaglenni cydgyfeirio yn gwneud darpariaeth i brosiectau sydd yn cryfhau’r economi trwy sicrhau fod safleoedd natur (2) a ddynodwyd ar y lefel Ewropeaidd mewn cyflwr ffafriol. Ymhlith y safleoedd hyn y mae lleoedd sydd yn eiconaidd yng Nghymru, fel canol Eryri, Ynysoedd Sgogwm a Sgomer a Choedydd Derw Meirion.
Yn ei ymateb i’r ymgynghoriad, mae Coed Cadw, a nifer o gyrff amgylcheddol eraill, wedi awgrymu os nad fydd y Cynulliad yn cynnwys yr opsiwn yma, y bydd yn colli’r cyfle gwerthfawr yma i sicrhau canlyniadau ei Strategaethau Amgylcheddol ei hun tra’n tynnu i mewn arian allanol ychwanegol i’r economi Cymreig. At hynny, ymddengys fod y penderfyniad yma yn tynnu’n groes i ddogfen ddiweddar yr EU (3) sy’n datgan “y dylid darparu digon o arian i edrych ar ôl safloedd Natura 2000 a hynny trwy raglenni cyd-ariannu (Y Polisi Amaethyddol Cyffredin, Datblygiad Gwledig, Cronfeydd Strwythurol a LIFE+) rhwng yr EU a’r gwledydd sy’n aelodau.”
Er hynny, mae Coed Cadw wedi rhoi croeso gwyliadwrus i agweddau eraill ar y cynlluniau, yn enwedig y bwriad i wneud cynalwydaeth amgylcheddol yn thema sy’n traws-dorri’r cynlluniau i gyd. Y bwriad yw helpu’r economi Cymreig i ddatblygu mewn ffyrdd sy’n gwneud llai o niwed i’r amgylchedd lleol; trwy ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon, cynhyrchu llai o wastraff a chynhyrchu llai o lygredd. Serch hynny, mae’r elusen wedi gofyn y cwestiwn sut y bydd y Cynulliad yn sicrhau fod y thema traws-dorri yma’n cael ei droi’n realiti mewn gwirionedd. A oes gan WEFO (4) neu Llywodraeth y Cynulliad system o’r fath mewn bodolaeth?
Yn drydydd, mae Coed Cadw wedi gofyn a fydd y bwyslais ar wella cysylltiadau trafnidiaeth yn tanseilio bwriad y Llywodraeth, a amlinellir yn y ddogfen, ei leihau effaith tyfiant economaidd ar yr amgylchedd. Mae’n hamgylchedd cyfan gan gynnwys ein safleoedd pwysicaf i fyd natur o dan fygythiad yn wyneb newid yr hinsawdd allai dod yn sgîl allyriannau carbon deuocsid. Fel y dywed Coed Cadw: “Tra y gall prosiectau trafnidiaeth greu ‘marchnadoedd mwy, a mwy cystadleuol’ (dyfyniad o’r ddogfen yw hwnnw), y perygl yw y bydd nwyddau yn cael eu cludo trwy ardal fwy, gan gynyddu’r milltiroedd sy’n cael eu teithio, y defnydd o danwydd a ‘food-miles’ (ys dywedir yn yr iaith fain), a trwy wneud hynny tanseilio’r bwriad i ddatgysylltu tyfiant economaidd o’r baich a roddir ar yr amgylchedd.”
(diwedd)
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-bost
media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau i olygyddion
1. Gellir is-lwytho copi o ymateb llawn Coed Cadw yma
2. Mae hyn yn golygu naill ai Ardaloedd o Gadwraeth Arbennig a ddynodir i helpu cynnal amrywiaeth gyfoethog byd natur Ewropeaidd trwy amddiffyn cynefinoedd sydd mewn perygl a’r planhigion ac anifeiliaid y maen nhw yn eu cefnogi, ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a sefydlwyd i warchod adar prin neu o dan fygythiad a’r safleoedd a ddefnyddir gan rywogaethau mudol. Gyda’u gilydd, adwaenir y safleoedd hyn fel rhai Natura 2000.
3. ‘Halting the Loss of Biodiversity by 2010 and Beyond’ COM(2006) 216 final
4. Welsh European Funding Office
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.