5 Mehefin 2006
Gwirfoddolwyr coetir yn dathlu creu coedlan newydd yng Nghoed Green Castle, ger Caerfyrddin
Coed Cadw’n cynnig mefus a hufen i bawb sy’n helpu tynnu’r llewys amddiffynnol o’r coed bach
Dydd Sul y 25 Mehefin 2-6 o’r gloch y prynhawn, cyfarfod ym maes parcio coedlan Green Castle (ar y B3412 rhwng Caerfyrddin a Llansteffan). A wnewch chi rannu car os oes modd gan bod y lleoedd parcio’n gyfyngedig
Bron i ddeng mlynedd ar ôl creu 7.8 hectar (19 erw) o goetir brasddeiliog newydd yng nghoedlan Green Castle ger Caerfyrddin, mae Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen coetir y DU, yn gwahodd pobl leol i helpu dathlu llwyddiant creu coedlan newydd, trwy dynnu i ffwrdd y llewys amddiffynnol plastig.
Ac, yn awyddus i annog pobl i ddod i estyn help llaw, mae Coed Cadw yn cynnig mefus a hufen ffres, yn ogystal â thaith gerdded trwy’r goedlan, i bawb sy’n helpu.
Dywed Hannah Scrase, sy’n rheoli’r safle ar gyfer Coed Cadw: “Dwi’n gwybod bod yna lawer o frwdfrydedd pan grëwyd y darn yma o goetir newydd ddiwedd y 1990au, a bod llawer o bobl leol wedi helpu i blannu’r coed. Dwi’n gobeithio y bydd llawer o’r bobl yma’n gallu dod i’r achlysur yma i weld sut y mae’r coed a blannon nhw bellach yn dechrau edrych fel coedlan go iawn. Fe fyddai’n wych hefyd pe gallai’r rhai sy’n ymweld Green Castle Wood yn gyson ymuno â ni hefyd, er mwyn eu helpu nhw i gymryd rhan fwy yn rheolaeth y safle.”
“Dewch â’ch teulu, eich ffrindiau a hwyrach picnic”, meddai hi. “Ymunwch â ni ar unrhyw adeg rhwng 2 a 6 o’r gloch y prynhawn. Fe gawn ni hwyl!”.
Rhoddir llewys plastig amddiffynnol o gwmpas coed sydd newydd eu plannu yn aml i’w hamddiffyn o ddefaid, ceirw a chwningod. Ond mae’r coed wedi tyfu’n rhy fawr i’r llewys, bellach, ac mae arnyn nhw angen rhagor o le i dyfu. Mae Coed Cadw’n estyn gwahoddiad i’r bobl a blannodd yn wreiddiol yn ogystal â’r rhai sy’n dod i’r safle yn gyson, i ddod yn ôl i ddathlu eu coedlan newydd nhw ac i helpu i edrych ar ôl y safle am prynhawn – neu am awr o leiaf. Mae’r dasg yn un hawdd – does dim angen taclau arbennig, ond fe fyddai menig garddio a throwsus hir yn help.
Mae Coedydd Green Castle yn cynnwys tair coedlan wahanol, a lan orllewinol aber Afon Tywi, gyda dolydd gyda blodau gwyllt, ardaloedd lle plannwyd coed yn ddiweddar, rhyngddynt. Gyda’i gilydd, maent yn ffurfio clytwaith amrywiol berthi hynafol, ardaloedd sych, ardaloedd corsiog, hen chwarel, tir gwastad a gelltydd, rhai ohonynt yn raddol a rhai’n serth. Maent yn sefyll mewn tirwedd donnog, a gellir mwynhau golygfeydd trawiadol o hardd ohonynt. Fe’u prynwyd gan Goed Cadw yn 1993, oherwydd eu pwysigrwydd i fywyd gwyllt a’r cyfleoedd y maent yn gynnig am hamdden dawel yn yr awyr agored. Dyma un o’r ychydig o ddarnau o gefn gwlad gyda mynediad agored i’r cyhoedd o fewn rhai milltiroedd o Gaerfyrddin, ac maent wedi dod yn boblogaeth iawn. Ers 1998 mae llwybr troed pellter hir Caerfyrddin yn croesi’r safle.
Enwir Coed Green Castle ar ôl plasty o’r 15fed ganrif, y gellir gweld ei adfeilion ger Fferm Greencastle, yn edrych dros Afon Tywi. Mae grŵp brwdfrydig o wirfoddolwyr, o’r enw the Greencastle Woodlanders, wedi bod wrthi’n gwneud gwaith diwyd yn helpu Coed Cadw i ofalu am y goedlan, a hynny ers 1994. Mae’r grŵp wedi gwneud llawer o waith ar y llwybrau, yn arbennig.
Mae Green Castle Wood ar agor i’r cyhoedd ymweld â hi ar unrhyw adeg a hynny am ddim. Mae gan y goedlan ei gwefan ei hun erbyn hyn, sy’n cynnwys llawer o wybodaeth am y safle ynghyd â map rhyngweithiol, wrth gyfeiriad: www.wt-woods.org.uk/greencastlewoods
(diwedd)
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 171174 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
Hannah Scrase ar 01686 412534 neu hannahscase@woodland-trust.org.uk
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-bost
media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau i olygyddion
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.