|
 

Dathlu coetir Dyffryn Gwy

28 Mehefin 2007

Coetir hynafol yn cael ei ddathlu mewn geiriau a phrint

Mae ETIFEDDIAETH ac adfywio coetiroedd hynafol unigryw Dyffryn Gŵy yn cael ei ddathlu trwy gyhoeddi llyfr newydd, a threfnu seminar arbenigol yr wythnos hon (28 Mehefin)

Mae llyfr newydd gan Dr George Peterken, un o arbenigwyr pennaf Prydain ar goetir, yn tanlinelli hanes ac ecoleg unigryw coetiroedd Dyffryn Gŵy, tra bydd seminar a drefnir gan Goed Cadw (the Woodland Trust) yn denu perchnogion ac arbenigwyr coetir i drafod beth yw’r ffyrdd gorau i adfer y coetir yma.

Mae’r coed Dyffryn Gŵy yn gallu tyfu am filoedd o flynyddoedd. Henebion byw ydyn nhw sydd wedi darparu pŵer ar gyfer y chwildro diwydiannol, ysbrydoli beirdd a theithwyr a helpu u lunio’r tirwedd. Mae Dr Peterken yn pwysleisio gwerth y coedlannau hynny sydd wedi goroesi. Mae’r ysgrifennu: “Maen nhw cael eu gweld bellach fel un o glystyrau pwysicaf o goetir hynafol a lled-naturiol ym Mhrydain.”

Yn ogystal â bod yn gymysgedd unigryw o goed, mae ceunentydd coediog Dyffryn Gŵy yn drawiadol o drwchus, gan orchuddio bron i hanner y tirwedd a gan wneud Dyffryn Gŵy yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, un o lefydd mwyaf coediog y wlad.

“Os cerddwch chi o Goodrich i ochrau Cas-gwent fyddwch chi ddim yn gadael coetir, bron, heblaw cwpl o lefydd lle mae rhaid croeso afonydd, neu gerdded ar hyd ochr perthi o goed”, y mae Dr Peterken yn ysgrifennu (ond yn Saesneg) yn y llyfr ‘Woodlands of the Lower Wye’ a gyhoeddir gan prosiect Ravine Woodlife.

Mae’n syndod hefyd pa mor hir y mae’r coedlannau wedi goroesi, llawer ohonyn nhw wedi bodoli’n di-baid ers oes yr iâ ddiwethaf, er gwaethaf cael eu cwympo i wneud cychod, cael eu cynaeafu ar gyfer golosg a chael plicio eu rhisgl am ganrifoedd. Heb y coed, ni fyddai diwydiannau cynnar Dyffryn Gŵy, yn dechrau gyda pres a weiar haearn yn y 16 ganrif, wedi datblygu o gwbl.

Os cerddwch chi drwy goetir hynafol heddiw, fe allwch weld cannoedd i rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid yn ffynnu yn y tirwedd gwerthfawr yma, yn ogystal â synhwyro sut y mae’r coedlannau wedi newid trwy’r canrifoedd.

Yn ogystal â’r llyfr ‘Woodlands of the Lower Wye’, sydd hefyd yn amlinelli tarddiad, hanes a rheolaeth y coedlannau, mae Coed Cadw a Swyddfa’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn trefnu seminar yn Nyffryn Gŵy. Fe fydd hwn yn edrych ar y ffordd orau i adfer coetir hynafol sydd wedi cael ei blannu gyda chonwydd yn ystod yr 20fed ganrif. Mae cryn dipyn o’r rhain yn rhan isaf Dyffryn Gŵy.

Fe fydd Tim Hodges o Goed Cadw, sydd yn arbenigwr ar adfer y safleoedd hyn, ymysg y rhai fydd yn annerch y seminar. Mae’n dweud: “Rhwng y 1930au a’r 1980au, fe gafodd cannoedd i filoedd o goetir hynafol eu hailblannu, y rhan fwyaf ohonyn nhw gyda chonwydd masnachol, neu gymysgedd o gonwydd a choed collddail. Dengys ymchwil y bydd y rhan fwyaf o’r conwydd a blannwyd ar goetir hynafol yn dod yn aeddfed dros y 10 mlynedd nesaf. Os cân nhw eu cwympo a chonwydd yn cael eu plannu yn eu lle, ni fydd y bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnyn nhw yn goroesi.”

Mae adfer coetir hynafol a blannwyd gyda chonwydd yn brif flaenoriaeth i Goed Cadw, bellach. Mae’r mudiad newydd lansio llawlyfr am adfer y safleoedd hyn, y gellir ei ddadlwytho yma Un enghraifft o’r gwaith adfer sylweddol yma yw Cadora Wood, rhwng Bigsweir Bridge a Redbrook, lle mae hen goed palalwyf yn cael eu rhyddhau o gysgod trwm y conwydd.

Rhywbeth arall sy’n cael ei ddathlu yw’r gwaith adfer coetir hynafol tymor hir sydd wedi cael ei wneud gan Goed Cadw yn Cadora Woods dros y saith mlynedd ddiwethaf, gyda chefnogaeth Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Ac ar ben hynny mae Ravine WoodLIFE, sef prosiect gwrth £1.3m a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, sydd wedi galluogi’r Comisiwn Coedwigaeth, Coed Cadw, English Nature/Natural England a Chyngor Cefn Gwlad Cymru i adfywio coetiroedd Dyffryn Gŵy. Mae’r gwaith a wnaed wedi golygu mwy o reolaeth o boblogaeth y ceirw, gan gynnwys codi miloedd i fetrau o ffensys i amddiffyn y coed rhag y ceirw yn y tymor canol. Gwnaed arolwg o boblogaeth y pathewod, rheolwyd rhywogaethau sydd ddim yn frodorol, a chodwyd traciau, i alluogi coed i gael eu teneuo, tynnwyd conwydd allan ac adferwyd erwau o goetir a reolir trwy brysgoedio coed.

Fe all y cyfryngau gysylltu â:

Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH

Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121

Nodiadau i olygyddion

Mae’r llyfr Woodlands of the Lower Wye, Origins, History and Management, ar gael o Uned AONB Dyffryn Gŵy. Fe gafodd ei gyhoeddi ar ran prosiect Ravine WoodLIFE gydag arian cyfatebol o’r Undeb Ewropeaidd mewn partneriaeth â’r WWF, Natural England, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gŵy, y Derbyshire Wildlife Trust a Choed Cadw.

Mae’r ddogfen ‘Gwarchod ac adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol - Arweiniad i berchenogion a rheolwyr coetir’, ar gael trwy Goed Cadw. Cefnogwyd y ddogfen gan y Comisiwn Coedwigaeth a’i noddi gan UPM Tilhill.

Coed Cadw (The Woodland Trust)

Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.