|

Dechrau tymor yr aur

20 Medi 2006

Dechrau tymor yr aur!

Haf bach Mihangel yn cynnig gwledd o liwiau euraidd

Mae Coed Cadw (the Woodland Trust) yn rhagweld hydref syfrdanol eleni diolch i fis Awst gwlyb ac wedyn mis Medi poeth a sych.

Dywed Nick Collinson o Goed Cadw: “Os bydd y tywydd heulog yma’n parhau fe allwn ni edrych ymlaen at hydref syfrdanol gydag amrywiaeth o liwiau o goch tanllyd i aur llachar. Mae’r hydref gwlyb wedi adfywio coed oedd yn dioddef o sychder mis Gorffennaf, ac mae haf bach Mihangel gyda dyddiau cynnes sych a nosweithiau oer yn cynnig yr amodau gorau posibl ar gyfer lliwiau hydrefol.”

Diolch i arolwg Autumnwatch (1), a drefnir gan Goed Cadw a’r BBC, mae miloedd o wirfoddolwyr ar hyd a lled y DU yn edrych am arwyddion yr hydref. Mae pob un o’r gwirfoddolwyr yma yn gwneud cyfraniad hollbwysig i ymchwil am yr hinsawdd, ac fe gaiff pawb ymuno â’u rhengoedd. Mae bod yn gofnodwr yn ddifyr, yn hawdd ac am ddim! Fe ellir cymryd rhan mewn sawl ffordd, ond y cyfan y mae eisiau ei wneud i ddechrau cofnodi yw cerdyn post (2) neu’r cyfle i ddefnyddio cyfrifiadur gydag chysylltiad â’r we, a’r amser i gerdded mewn coedlannau, parciau, gerddi na hyd yn oed strydoedd y dref, a hynny yn eu lliwiau hydref gwych (3).

Pam fod dail yn newid eu lliw?
Yn gynnar yn y flwyddyn, pan fydd yna lawer o olau, mae dail yn cynhyrchu chlorophyll – sef y defnydd gwneud i wair staenio’n wyrdd. Defnyddir hwn i droi golau’r haul i ynni, y mae’r ddeilen wedyn yn ei storio fel siwgr. Nid chlorophyll yr unig bigment. Mae anthocyanin, sy’n goch, a charotene sy’n felyn, sef y prif bigment sydd i’w weld mewn moron. Yn union fel staen gwair, fe fydd y chlorophyll yn cuddio’r lliwiau eraill sydd yn y dail. A felly mae’r dail yn edrych yn wyrdd.

Wrth i’r tymheredd ddisgyn ddiwedd yr haf, fodd bynnag, fydd y dail yn stopio cynhyrchu chlorophyll, ac mae’r chlorophyll sydd ôl yn torri lawr, gan ddatgelu’r lliwiau eraill sydd yna. Mae dail ffawydd a masarn yn troi’n goch yn yr hydref, gan eu bod yn cynnwys mwy o anthocyanin, tra bod dail cyll a bedw yn troi’n felyn, gan eu bod yn cynnwys mwy o carotene. Mae dwysedd y lliw yn dibynnu ar faint o siwgr sydd wedi’i storio yn y dail. Mwyaf o siwgr sydd ynddyn nhw, cryfaf lliw’r dail. Yn dilyn mis Medi poeth a sych gyda nosweithiau oer, fe fydd yna lawer iawn o siwgr yn y dail, ac fe gawn ni fwynhau hydref syfrdanol.

(diwedd)

Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH

Dylid cyfeirio ymholiadau am ran y BBC yn hyn o beth at Lindsay Smith neu Beth Regan yn Adran Cyhoeddusrwydd BBC ar 0117 974 2319 neu e-bost lindsay.smith@bbc.co.uk neu beth.regan@bbc.co.uk

neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-bost
media@woodland-trust.org.uk

Nodiadau i olygyddion
1 Fe fydd rhaglenni byw Autumnwatch yn dechrau ar BBC Two ym mis hydref. Am ragor o wybodaeth ewch i www.bbc.co.uk/autumnwatch

2 Mae’r cardiau post hyn ar gael o orsafoedd radio y BBC. Neu fe allwch gofnodi recordiadau ar y we trwy fynd i: www.bbc.co.uk/autumnwatch

3 Am restr o goedlannau sydd yn edrych yn arbennig o dda yn yr hydref yn eich ardal chi, ewch i: www.woodland-trust.org.uk/news/autumnleaves/walks.htm

Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.

Rhwydwaith Ffenoleg y DU
Mae’r rhwydwaith yma’n ganlyniad i bartneriaeth rhwng Coed Cadw a’r Ganolfan dros Ecoleg a Hydroleg. Mae ganddo dros 40,000 o gofnodwyr cofrestredig, bellach, sy’n cofnodi arwyddion newidiadau’r tymor ar draws y DU.