1 Tachwedd 2006
Cwympwyd gyda thoriad y wawr!
Mae’r hyn a ddigwyddodd i dderwen ym Mhenmaenmawr oedd rhwng 200 a 300 mlwydd oed yn tanlinelli sut mae’r drefn gynllunio yn methu amddiffyn coed hynafol a nodweddiadol Cymru
Yn dilyn y digwyddiadau ym Mhenmaenmawr (1) Ddydd Sadwrn diwethaf pan gafodd dwy dderwen (2) eu cwympo, un ohonyn nhw rhwng 200 a 300 mlwydd oed, ar adeg pan na ellid cysylltu â’r Cyngor Lleol, mae Coed Cadw (the Woodland Trust) wrthi’n ysgrifennu at bob aelod o’r Cynulliad Cymreig yn eu hannog nhw i ddefnyddio eu pwerau newydd i ddeddfu i dynhau’r amddiffyniad dros goed hynafol a nodweddiadol Cymru, a hynny yn dilyn yr etholiad ym mis Mai.
Cwympwyd y coed gan gontractwyr Ddydd Sadwrn y 28 Hydref. Nid oedd trigolion lleol yn gallu cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ofyn am Orchymyn Gwarchod Coeden (4), er gwaetha’r ffaith eu bod nhw wedi cysylltu â Chynghorydd Lleol a bod yr heddlu wedi dod i’r safle. Rhybuddiwyd y contractwyr eu bod, o bosibl, yn torri’r gyfraith trwy ddinistrio lle allai gael eu defnyddio fel lle clwydo gan ystlumod, a hynny heb wneud arolwg ymlaen llaw, ond fe fwrion ymlaen beth bynnag.
Mae Cyngor Conwy wedi gwrthod un cais cynllunio i godi tai ar y safle eisoes. Mae trigolion lleol yn ofni fod cwympo’r coed yn ystryw i ddileu rhwystr allweddol i gais cynllunio newydd. Nid yw’n eglur pwy sy biau’r tir mewn cwestiwn, a ni all Coed Cadw ond dyfalu pwy sy’n gyfrifol yn y pendraw am yrru’r contractwyr i fewn i gwympo’r coed hyn.
Mae’r ddogfen Tree Preservation Orders: a guide to the law and good practice sy’n rhoi arweiniad i awdurdodau lleol yn Lloegr yn awgrymu fod awdurdodau yn galluogi’r cyhoedd i ffonio y tu allan i oriau gwaith arferol er mwyn delio gyda sefyllfaoedd fel hyn (3), ond nid yw’r ddogfen hon yn ddilys yng Nghymru a nid yw’r ddogfen Gymreig gyfatebol agosaf, TAN 5, yn cynnwys y cyngor hwn.
Ymddengys fod y ddwy goeden hon, gyda’i gilydd, yn cynnwys dros 5 metr ciwbig o goed. O dan y Ddeddf Goedwigaeth, mae’n anghyfreithlon i gwympo dros 5 metr ciwbig o goed o fewn tri mis heb drwydded o’r Comisiwn Coedwigaeth. Doedd gan y contractwyr ddim trwydded. Fe fydd penderfyniad y Comisiwn, i ddwyn achos yn erbyn y contractwyr neu i beidio â gwneud hynny, yn brawf bwysig o pa mor effeithiol y mae’r gyfraith yn gwarchod coed aeddfed yng Nghymru heddiw.
Dywed Mr Michael Lewis King, sy’n rhedeg y siop ddodrefn gyferbyn â’r safle ac a geisiodd atal y gwaith rhag mynd yn ei flaen Dydd Sadwrn: “Mae hyn yn fethiant mawr gan y Cyngor. Rhywsut, mi fethon nhw amddiffyn yr hen goed bendigedig yma gyda Gorchymyn Gwarchod Coed. Faswn i’n hoffi gwybod lle oedden nhw Ddydd Sadwrn. Mae yna nifer o goed eraill ar y safle, ac ar ôl yr hyn a ddigwyddodd Ddydd Sadwrn, fe ddylai’r Cyngor roi Gorchymyn Gwarchod Coed ar y rheini rŵan.”
Ychwanega Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus Coed Cadw (the Woodland Trust): “Dwi wedi siarad efo trigolion sydd wedi torri eu calon am golled y coed yma. Mae’n debyg fod yr hynaf ohonyn nhw’n sefyll eisoes pan ddatganodd yr Unol Daleithiau eu hannibyniaeth a trwy’r Chwyldro Diwydiannol a Rhyfeloedd Napoleon.
“Mae’r ffordd y cafodd y coed hyn eu colli yn tanlinelli sut y mae’r system yn methu amddiffyn coed ar hyn o bryd a pha mor fregus y byddai coed hynaf a mwyaf gwerthfawr Cymru yn yr un sefyllfa. Mae’r Cynulliad yn cael pwerau newydd i ddeddfu ac fe fuaswn i’n hoffi eu gweld nhw’n defnyddio’r pwerau hynny i ddiogelu coed Cymru, ac yn enwedig rhai hynafol a nodweddiadol, ac yn eu gwneud nhw’n ‘henebion gwyrdd’ fel sy’n digwydd yn Sweden yn barod.”
Gweithredwch yn awr i wneud gwahaniaeth!
Cefnogwch ymgyrch Coed Cadw i ddiogelu coed Cymru’n iawn trwy ddanfon e-bost at eich Aelod o’r Cynulliad yn awr!
(diwedd)
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-bost
media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau i olygyddion
1. Roedd y coed yn sefyll wrth gyfeirnod grid SH 714 762. Gellir gweld y lleol ar multimap
2. Roedd bôn y mwyaf o’r ddwy goeden yn mesur 1m ar draws, a’r lleiaf 80cm. Mae rhai o’r cylchoedd tyfiant yn annelwig ac yn anodd eu cyfrif, ond credir fod y goeden fwyaf rhwng 200 a 300 o flynyddoedd oed.
3. Mae’r ddogfen Tree Preservation Orders: a guide to the law and good practice (paragraff 3.6) yn awgrymu: “Because TPOs are often made at a time when trees may soon be cut down or destroyed, many LPAs find it convenient to delegate the function of making a TPO to an officer or officers of the Council, and to put in place arrangements to act at short notice during and outside normal office hours.”
4. Chafodd llinell brys y Cyngor (01492 515777) mo’i ateb Ddydd Sadwrn, a methwyd â chysylltu â staff unigol o’r adran gynllunio.
5. Mae Coed Cadw yn gweithio ar y cyd a Fforwm y Coed Hynafol a Chyngor y Coed i geisio sicrhau gwarchodaeth well i goed yng Nghymru.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r oesoedd canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.