|

Drama mewn coedwig

4 Gorffennaf 2008

Plant yn edrych yn ol fil o flynyddoedd i ddod a'r Mabinogi'n fyw mewn coedwig

Bydd plant yn cyflwyno chwedlau’r Mabinogi mewn coedwig sy’n cael ei henwi yn un o’r chwedlau mwyaf adnabyddus – Coed Felinrhyd, Maentwrog.

Casgliad o straeon a gofnodwyd mewn llawysgrifau yn yr Oesoedd Canol yw’r Mabinogi ond mae’r chwedlau eu hunain yn hŷn o lawer na’r llawysgrifau. Mae eu gwreiddiau mewn mytholeg Geltaidd gyn-Gristnogol a thraddodiadau hanesyddol o’r Canoloesoedd cynnar sy’n golygu bod Coed Felinrhyd mor hen â’r chwedlau eu hunain.

Nos Wener yr 11 Gorffennaf, bydd plant o Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog ac aelodau o grŵp drama o Ysgol y Moelwyn yn difyrru pobl yr ardal â chyfres o ddramâu byrion yn y coed.

“Roedd Prosiect Rheoli Cynefinoedd Derw Meirionnydd yn canolbwyntio ar ail-greu’r coed fel yr oeddent yn nyddiau’r Mabinogi,” meddai Rhydian Roberts o Coed Cadw. “Felly, roedd yn naturiol ein bod yn dewis dathlu diwedd y prosiect trwy gyflwyno’r chwedlau yn yr union goedydd hynny. Mae’n ffordd o ddod â hanes yr ardal yn fyw.”

“Trwy helpu pobl Meirionnydd i ddeall ein hanes, gobeithio y byddan nhw’n dechrau deall pwysigrwydd coetiroedd hynafol yn ein dyfodol,” meddai.

Mae’r diwrnod arbennig i’r plant yn cael ei drefnu gan Coed Cadw (Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetiroedd Prydain, fel rhan o Brosiect Rheoli Cynefinoedd Coedydd Derw Meirionnydd, partneriaeth sy’n gwarchod coedydd derw ar gyefr yr oesoedd a ddêl.

Meddai Sara Rhiannon Ashton, sydd wedi creu’r cynhyrchiad: “Mae Coed Felinrhyd yn lle arbennig iawn. Yn ôl y Mabinogi, dyma lle y bu’r ddau arweinydd nerthol, Gwydion a Phryderi, yn ymladd,” meddai.

Dywed y chwedl fod y ddau arweinydd mawr wedi penderfynu arbed bywydau eu dynion trwy iddyn nhw ymladd â’i gilydd. Lladdwyd Pryderi ac mae wedi’i gladdu yn y goedwig mewn bedd di-nod nad oes neb wedi dod o hyd iddo.

“Mae awyrgylch arbennig yn y lle ac felly bydd ail-gread y plant o’r storïau hyn sy’n rhan mor bwysig o’n treftadaeth yn llawn teimlad. Bydd cyfres o ddramâu byrion yn cael eu cyflwyno mewn gwahanol rannau o’r coed,” meddai Sara.

Bydd bysiau mini’n gadael Blaenau Ffestiniog rhwng 6 a 7 o’r gloch ar nos Wener yr 11 Gorffennaf i fynd â phobl i’r coed. Bydd y bws cyntaf yn gadael Sgwâr Diffwys, Blaenau Ffestinog am 6 o’r gloch. Bydd un am 7.00 ac un am 7.30 hefyd. Does dim angen talu i fynd ar y bws ond mae angen rhoi eich enw i Rory Francis (Swyddog Cyhoeddusrwydd a Materion Cyhoeddus Cymru) ar 01766 832563 neu 07760 171174. Bydd y profiad cyfan yn cymryd tua 2.5 awr.

Mae Prosiect Rheoli Cynefinoedd Derw Meirionnydd yn bartneriaeth rhwng wyth sefydliad, sy’n cynrychioli’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, ac mae’n cynnwys dros 50 o goedwigoedd dros fil hectar ym Meirionnydd. Mae’n brosiect llwyddiannus sy’n gwarchod, yn adfer ac yn ehangu’r pocedi bychain o goetiroedd hynafol sydd ar ôl.

Mae’r gwaith yng Nghoed Felinrhyd wedi cynnwys mynd ati’n ofalus i deneuo’r conwydd gan roi gwell cyfle i’r coed derw – olynwyr yr union goed a oedd yn dystion i’r frwydr rhwng Gwydion a Phryderi fil o flynyddoedd yn ôl.

Llun
Am fersiwn mwy o'r llun, dilynwch y ddolen hon

Cysylltwch â:
Rory Francis (Swyddog Cyhoeddusrwydd a Materion Cyhoeddus Cymru) - 01766 832563 neu 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH
E-bost: roryfrancis@woodland-trust.org.uk

Swyddfa’r Wasg Coed Cadw - 01476 581121, e-bost media@woodland-trust.org.uk

Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw prif elusen cadwraeth coetiroedd y DU. Mae ganddi 250,000 o aelodau a chefnogwyr. Mae gan Goed Cadw bedwar nod allweddol: i) Peidio â cholli mwy o goetiroedd hynafol; ii) Adfer a gwella bioamrywiaeth coedwigoedd; iii) Cynyddu coetiroedd cynhenid newydd; iv) Gwneud pobl yn fwy ymwybodol o goetiroedd a chynyddu eu mwynhad ohonynt.

Mae gan Coed Cadw, a sefydlwyd ym 1972, dros 1,000 o safleoedd yn ei ofal erbyn hyn, yn cynnwys rhyw 20,000 hectar (50,000 o erwau). Yn eu plith mae dros gant o safleoedd yng Nghymru yn mesur tua 1,580 hectar (3,900 o erwau). Ceir mynediad am ddim i'w safleoedd bron i gyd. Ceir rhagor o newyddion yn www.coed-cadw.org.uk . Cyflwynodd The Woodland Trust enw Cymraeg yn 2000: "Coed Cadw". Mae hwn yn hen derm, a ddefnyddid mewn cyfreithiau canoloesol i ddisgrifio coetiroedd oedd yn cael eu gwarchod neu eu cadw.

Prosiect Rheoli Cynefin Coedydd Derw Meirionnydd

Sefydlwyd y prosiect i ofalu am goetiroedd derw Meirionnydd, gan hybu eu pwysigrwydd i’r gymuned leol, ymwelwyr, yr economi a’r amgylchedd

Bwriad arian Amcan 1 yw "lIeihau'r bwlch rhwng lefelau datblygiad y gwahanol ranbarthau", Fel rheol, mae gan ranbarthau sy'n datblygu'n araf gynnyrch domestig crynswth (GDP) y pen sy'n lIai na 75% o'r cyfartaledd ar gyfer y Gymuned. Fel rheol hefyd ceir:
• lefel isel o fuddsoddi;
• mwy o ddiweithdra nag sy'n arferol;
• diffyg gwasanaethau ar gyfer busnesau ac unigolion;
• isadeiledd sylfaenol gwael.

Nod Cronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) yw:
• Helpu i warchod y cysylltiad rhwng ffermio sydd wedi arallgyfeilio a'r tir.
• Gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol fel gweithgaredd allweddol mewn ardaloedd gwledig.
• Sicrhau bod yr economi'n arallgyfeirio mewn ardaloedd gwledig.
• Helpu i gadw cymunedau lIewyrchus mewn ardaloedd gwledig.
• Gwarchod a gwella'r amgylchedd, y tirwedd a'r dreftadaeth wledig.

Mae Coedydd Derw Meirionnydd yn bwysig gan eu bod yn cynnwys coetiroedd naturiol a choetiroedd hynafol sydd wedi'u difrodi ac sy'n cael eu rheoli erbyn hyn i'w hadfer i'w cyflwr naturiol. Cyfrifir bod y coetiroedd naturiol ymhlith y safleoedd gorau o Goetiroedd Derw'r Iwerydd yn Ewrop ac felly maent yn ymgeisydd ar gyfer dynodiad Ardal Cadwraeth Arbennig (cSAC). Mae safleoedd a ddynodwyd yn cSACau yn rhan o "Natura 2000", sef rhwydwaith o safleoedd cadwraeth ledled yr Undeb Ewropeaidd, a'r nod yw gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd sy'n brin, mewn perygl neu'n agored i niwed.

Ceir Coedydd Derw'r Iwerydd ar Ian Môr Iwerydd yn Ewrop, o Ogledd yr Alban yr holl ffordd i Bortiwgal. Mae'r tiroedd hyn yn cael eu heffeithio'n drwm gan Lif y Gwlff, sy'n cadw'r ardal yn gynnes ond yn wlyb. Mae'r hinsawdd ar arfordiroedd Mor Iwerydd yn lIaith ac felly ceir yno gymunedau unigryw o redyn, mwsoglau a lIysiau'r afu, cen a ffyngau. Dyma'r unig Ie y ceir rhai o'r rhywogaethau hyn.

Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru: Nodiadau i’r Golygydd
O gyfrif cyllid cyfatebol o’r sectorau cyhoeddus a phreifat hefyd, buddsoddwyd tua £2.75bn yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf trwy Raglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a reolir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.

Mae’r buddsoddiad hwn wedi creu neu ddiogelu dros 87,000 o swyddi yng Nghymru, gan wella ffyniant, creu cyfleoedd newydd a thrawsnewid cymunedau a fu’n dlawd. Prif amcan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yw sicrhau bod Cymru’n cael y budd mwyaf posibl o Gronfeydd Strwythurol Ewrop dros y cyfnod 2000-06. Mae’n rhan o Grŵp Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae nifer o bartneriaethau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn cynnal prosiectau.

Nod y Cronfeydd Strwythurol yw hybu twf economaidd cynalidwy, cynyddu ffyniant ym mhob rhan o Gymru, lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, anweithgarwch ac allgáu cymdeithasol.