|
 

Dyfodol disglair i glychau r gog

7 Tachwedd 2007

Dyfodol disglair i glychau'r gog ym Meirionnydd

Mae coedlannau hynafol sy’n gartref i glychau’r gog o dan fygythiad ledled Cymru oherwydd newid yn yr hinsawdd, rhywogaethau goresgynnol a rheolaeth wael – ond mae cynllun ar y gweill i helpu i sicrhau bod y dyfodol yn fwy llewyrchus i un goedlan ym Meirionydd.

Mae Coed Cadw (the Woodland Trust), y brif elusen yn y DU sy’n ymwneud â gwarchod coetiroedd, wedi cychwyn prosiect rheoli newydd yng Nghoed Aber Artro, Llanbedr, gyda’r nod o wella’r amgylchiadau ar gyfer clychau’r gog a’u ‘gwyllt atgofus bersawr’ a’u ‘hen lesmeiriol baent’.

Bwriedir cael gwared â rhai o’r coed ffawydd dwys sydd wedi cymryd drosodd yn y goedlan a mynd ati i greu bylchau bychan yn y canopi. Pan fydd mwy o olau’n cyrraedd llawr y goedwig, mae clychau’r gog yn tyfu’n well ac mae coed derw, ynn a bedw o bob oed yn cael gwell chwarae teg.

“Wnaethon ni ran o’r canopi’n fwy agored y llynedd a thynnu rhai o’r coed celyn a ffawydd ifanc oedd o tano. Roedd y canlyniadau’n wych. Mae clychau’r gog yn tyfu mewn mannau lle nad oedd sôn amdanynt o’r blaen,” meddai Rhydian Roberts o Coed Cadw, sy’n rhedeg Prosiect Rheoli Cynefin Coedydd Derw Meirionnydd mewn partneriaeth â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a sefydliadau eraill.

“Y broblem yng Nghoed Aber Artro yw bod y canopi trwchus iawn o goed ffawydd yn cadw’r rhan fwyaf o rywogaethau eraill rhag tyfu. Rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod ein coedlannau cynhenid amrywiol yn ffynnu os oes modd,” meddai Rhydian.

“Bydd manteision hirdymor y gwaith yn enfawr. Bydd yn annog clychau’r gog a llawer o rywogaethau cynhenid eraill y goedwig – planhigion, trychfilod, adar a mamaliaid bach,” meddai.

Ar ôl holi barn y cyngor cymuned a phobl yr ardal, mae Coed Cadw wedi llunio rhaglen deneuo hirdymor a fydd yn helpu i ddenu gwahanol fathau o greaduriaid a phlanhigion heb amharu ar yr olygfa. Hefyd, mae Coed Cadw yn gwarchod olion gardd goed sy’n cynnwys enghreifftiau da o gonwydd aeddfed – ffynidwydd Douglas, cedrwydd Japan, cochwydd a choed cas-gan-fwnci – a blannwyd pan oedd y goedwig yn rhan o stad y teulu Cooke.

“Mae rhai pobl yn poeni y bydd y cynllun rheoli yn amharu ar y goedwig ond, cyn pen dwy flynedd neu dair, fe welwn fanteision go iawn a fydd yn ei gwneud hyd yn oed yn harddach nag y mae nawr,” meddai Rhydian.

Bydd y coed sy’n cael eu clirio o’r safle yn cael eu defnyddio gan werthwyr coed tân, melinau llifio, masnachwr bio-màs (a fydd yn gwneud sglodion pren i’w llosgi i gynhyrchu trydan a gwres), gwneuthurwyr siarcol a gwneuthurwr clocsiau o’r enw Trefor Owen o Gricieth, sy’n arbenigo mewn gwneud clocsiau pren ar gyfer dawnswyr gwerin. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn defnyddio’r pren ffonio Rhydian ar 01745 818808.

Bydd effaith newid yn yr hinsawdd ar ein bywyd gwyllt yn cael cryn sylw yn ystod y mis wrth i’r BBC ddechrau dangos rhaglenni Autumnwatch. Ewch i www.bbc.co.uk/autumnwatch

Bwriad Prosiect Rheoli Cynefinoedd Coedydd Derw Meirionnydd yw gofalu am goetiroedd derw Meirionnydd a dangos pa mor bwysig ydynt i’r gymuned leol, ymwelwyr, yr economi a’r amgylchedd. Mae’n cynnwys dros 50 o goetiroedd dros fil o hectarau ym Meirionnydd.

Mae Coed Cadw yn mynd i wneud gwaith gwerth rhyw £650,000 fel rhan o’r prosiect. Daw hanner yr arian o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) o dan raglen Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru. Codir yr hanner arall gan Coed Cadw a bydd yn fuddsoddiad o bwys yn harddwch naturiol a bywyd gwyllt Parc Cenedlethol Eryri.

Diwedd

Rory Francis (Swyddog Cyhoeddusrwydd a Materion Cyhoeddus Cymru) - 01766 832563 neu 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH
E-bost: roryfrancis@woodland-trust.org.uk

Andy Watts o Brosiect Rheoli Cynefin Coedydd Derw Meirionnydd - 0845 6040845

Swyddfa’r Wasg Coed Cadw/Woodland Trust - 01476 581121, e-bost media@woodland-trust.org.uk

Coed Cadw (The Woodland Trust)

Coed Cadw yw prif elusen cadwraeth coetiroedd y DU. Mae ganddi 250,000 o aelodau a chefnogwyr. Mae gan Goed Cadw bedwar nod allweddol: i) Peidio â cholli mwy o goetiroedd hynafol; ii) Adfer a gwella bioamrywiaeth coedwigoedd; iii) Cynyddu coetiroedd cynhenid newydd; iv) Gwneud pobl yn fwy ymwybodol o goetiroedd a chynyddu eu mwynhad ohonynt.

Mae gan Coed Cadw, a sefydlwyd ym 1972, dros 1,000 o safleoedd yn ei ofal erbyn hyn, yn cynnwys rhyw 20,000 hectar (50,000 o erwau). Yn eu plith mae dros gant o safleoedd yng Nghymru yn mesur tua 1,580 hectar (3,900 o erwau). Ceir mynediad am ddim i'w safleoedd bron i gyd. Ceir rhagor o newyddion yn www.coed-cadw.org.uk . Cyflwynodd The Woodland Trust enw Cymraeg yn 2000: "Coed Cadw". Mae hwn yn hen derm, a ddefnyddid mewn cyfreithiau canoloesol i ddisgrifio coetiroedd oedd yn cael eu gwarchod neu eu cadw.

Prosiect Rheoli Cynefin Coedydd Derw Meirionnydd

Mae Prosiect Rheoli Cynefin Coedydd Derw Meirionnydd yn ffrwyth sawl blwyddyn o waith gan bartneriaeth leol o sefydliadau lIywodraethol, anllywodraethol a phreifat ym maes cadwraeth a choedwigaeth, yn cydweithio'n agos a'r Undeb Ewropeaidd. Ymhlith y partneriaid mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Tilhill Forestry, Flintshire Woodlands, Coed Cadw (the Woodland Trust), Rheilffordd Ffestiniog, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r prosiect yn cael grant 50% sy'n werth £1,111,673,00 gan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) o dan raglen Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd, trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru. Codir y gweddill gan y partneriaid a pherchnogion tir preifat. Mae hyn yn rhoi cyfanswm o £2,223,346.00 i'w wario yn yr ardal dros bedair blynedd. Mae 58 o goetiroedd a rheilffordd yn rhan o'r prosiect, sy'n mesur 1710 hectar. Daw'r prosiect i ben ym mis Medi 2008.

Sefydlwyd y prosiect i ofalu am goetiroedd derw Meirionnydd, gan hybu eu pwysigrwydd i’r gymuned leol, ymwelwyr, yr economi a’r amgylchedd

Bwriad arian Amcan 1 yw "lIeihau'r bwlch rhwng lefelau datblygiad y gwahanol ranbarthau", Fel rheol, mae gan ranbarthau sy'n datblygu'n araf gynnyrch domestig crynswth (GDP) y pen sy'n lIai na 75% o'r cyfartaledd ar gyfer y Gymuned. Fel rheol hefyd ceir:
• lefel isel o fuddsoddi;
• mwy o ddiweithdra nag sy'n arferol;
• diffyg gwasanaethau ar gyfer busnesau ac unigolion;
• isadeiledd sylfaenol gwael.

Nod Cronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) yw:
• Helpu i warchod y cysylltiad rhwng ffermio sydd wedi arallgyfeilio a'r tir.
• Gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol fel gweithgaredd allweddol mewn ardaloedd gwledig.
• Sicrhau bod yr economi'n arallgyfeirio mewn ardaloedd gwledig.
• Helpu i gadw cymunedau lIewyrchus mewn ardaloedd gwledig.
• Gwarchod a gwella'r amgylchedd, y tirwedd a'r dreftadaeth wledig.

Mae Coedydd Derw Meirionnydd yn bwysig gan eu bod yn cynnwys coetiroedd naturiol a choetiroedd hynafol sydd wedi'u difrodi ac sy'n cael eu rheoli erbyn hyn i'w hadfer i'w cyflwr naturiol. Cyfrifir bod y coetiroedd naturiol ymhlith y safleoedd gorau o Goetiroedd Derw'r Iwerydd yn Ewrop ac felly maent yn ymgeisydd ar gyfer dynodiad Ardal Cadwraeth Arbennig (cSAC). Mae safleoedd a ddynodwyd yn cSACau yn rhan o "Natura 2000", sef rhwydwaith o safleoedd cadwraeth ledled yr Undeb Ewropeaidd, a'r nod yw gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd sy'n brin, mewn perygl neu'n agored i niwed.

Ceir Coedydd Derw'r Iwerydd ar Ian Môr Iwerydd yn Ewrop, o Ogledd yr Alban yr holl ffordd i Bortiwgal. Mae'r tiroedd hyn yn cael eu heffeithio'n drwm gan Lif y Gwlff, sy'n cadw'r ardal yn gynnes ond yn wlyb. Mae'r hinsawdd ar arfordiroedd Mor Iwerydd yn lIaith ac felly ceir yno gymunedau unigryw o redyn, mwsoglau a lIysiau'r afu, cen a ffyngau. Dyma'r unig Ie y ceir rhai o'r rhywogaethau hyn.

Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru: Nodiadau i’r Golygydd

O gyfrif cyllid cyfatebol o’r sectorau cyhoeddus a phreifat hefyd, buddsoddwyd tua £2.75bn yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf trwy Raglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a reolir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.

Mae’r buddsoddiad hwn wedi creu neu ddiogelu dros 87,000 o swyddi yng Nghymru, gan wella ffyniant, creu cyfleoedd newydd a thrawsnewid cymunedau a fu’n dlawd. Prif amcan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yw sicrhau bod Cymru’n cael y budd mwyaf posibl o Gronfeydd Strwythurol Ewrop dros y cyfnod 2000-06. Mae’n rhan o Grŵp Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae nifer o bartneriaethau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn cynnal prosiectau.

Nod y Cronfeydd Strwythurol yw hybu twf economaidd cynalidwy, cynyddu ffyniant ym mhob rhan o Gymru, lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, anweithgarwch ac allgáu cymdeithasol.

Simon Jenkins, Swyddfa’r Wasg, Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Ffôn: 02920 898203.
E-bost: simon.jenkins@wales.gsi.gov.uk