26 Ionawr 2007
Archaeolegwyr gwirfoddol yn cloddio yng ngorffennol Coed Gwent
Selogion hanes Cas-gwent yn chwilio am y dystiolaeth allai gadarnhau pryd y gwnaed y golosg diwethaf
Os ewch chi i lawr i Goed Gwent y gaeaf yma, peidiwch â synnu os gwelwch chi grŵp o 6-12 o archeolegwyr selog, ar eu pen-gliniau, wedi torchi llewys, yn cloddio er mwyn casglu gwybodaeth am orffennol diwydiannol y goedwig.
Mae’r grŵp yn aelodau o Gymdeithas Archeolegol Cas-gwent, sydd yn cloddio un o ryw gant o aelwydydd golosg yr ydym yn gwybod amdanyn nhw yng Nghoed Gwent, mewn cydweithrediad â Choed Cadw, prif elusen gwarchod coetir y DU. Mae gwblhaodd yr mudiad bryniant 352 o hectarau (870 o erwau) o’r safle y llynedd yn dilyn ymgyrch cyhoeddus egnïol i godi’r arian angenrheidiol.
Fel coedwig hynafol (1) fwyaf Cymru, mae Coed Gwent wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer ei coed trwy’r canrifoedd. Trwy’r oesoedd canol, llosgwyd coed o’r goedwig mewn aelwydydd golosg i gynhyrchu i’r golosg roedd y diwydiant haearn yn ddibynnu arno. Dyma’r broses a ddisgrifiodd Arthur Ransome yn Swallows and Amazons, clasur o lyfr a gyhoeddwyd yn 1930.
Ond does neb yn sicr pa mor hir y goroesodd y diwydiant yng Nghoed Gwent, ac i pa raddau roedd yr aelwydydd sydd i’w gweld heddiw yn ganlyniad i ymgyrch unigol dros gyfnod byr, neu ddiwydiant cynaladwy a barodd dros ddegawdau (2). I geisio ateb y cwestiynau hyn, fe ofynnodd Jon Winder, sydd yn rheoli’r safle ar gyfer Coed Cadw, i Gymdeithas Archeolegol Cas-gwent gloddio un o’r aelwydydd hyn, yn rhan orllewinol y goedwig.
Dywed Felicity Taylor o Gymdeithas Archeolegol Cas-gwent: “Rydyn ni hoffi meddwl mai grŵp archeolegol ydyn ni sy’n gwneud gwaith ymarferol. Rydyn ni’n wastad yn edrych am gloddfeydd diddorol, felly roedd cloddio yng Nghoed Gwent yn gyfle gwych inni.
“Roedd tua 12 o wirfoddolwyr gyda ni ar y diwrnod cyntaf, pobl o bob oed. Fe fyddwn ni’n mynd i’r safle Dydd Sadwrn ac yn mynd â phicnic. Rydyn ni’n cloddio mewn aelwyd 10 metr o faint ac erbyn hyn rydyn ni wedi cyrraedd y haenen uchaf, a adawodd y bobl y wnaeth y golosg olaf ar y safle. Gobeithio y cawn ni hyd i rywbeth i’w ddyddio, ond rydyn ni’n bwriadu cloddio’n is hefyd, er mwyn gweld a gafodd y safle ei ddefnyddio’n gynharach.
“Mae’n gwaith yn llawn hwyl. Os oes rhywun sydd eisiau ymuno â’r grŵp, mae croeso iddyn nhw gysylltu â fi ar 01600 775656 neu fynd i’n gwefan ni sef www.chepstow.org.uk”.
Mae Coed Cadw’n ddiolchgar i bawb a helpodd gyda’r ymgyrch i brynu Coed Gwent. I brynu’r safle a dechrau’r gwaith adfer, roedd rhaid i Goed Cadw godi o leiaf £1.5 miliwn. Mae’r gefnogaeth hon yn cynnwys cyfraniadau oddi wrth The Tubney Charitable Trust, GrantScape, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, the Hickinbotham Charitable Trust, the Oak Foundation, a nifer o ymddiriedolaethau eraill ac yn wir yr holl unigolion a gefnogodd yr ymgyrch, llawer ohonyn nhw o’r gymuned leol.
Mae tir Coed Cadw yng Nghoed Gwent yn agored i bawb ymweld â fe ar unrhyw adeg, a hynny am ddim. Mae Coed Cadw’n cynhyrchu cylchlythyr rheolaeth am y gwaith adfer ar y safle, sydd ar gael o wefan ddwyieithog arbennig y goedwig sef: www.wentwoodforest.org.uk
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
neu John Winder o Goed Cadw ar 01600 719281
neu FelicityTaylor o Gymdeithas Archeolegol Cas-newydd ar 01600 775656
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121
Nodiadau i olygyddion
1. Mae coetir hynafol dir sydd wedi bod yn goediog yn ddi-baid ers o leiaf 400 o flynyddoedd. Dyma un o ‘n cynefinoedd cyfoethocaf i fyd natur, y peth agosaf sydd gennym i goedwig drofannol. Mae Coed Gwent yn gartref i rywogaethau sydd sy’n cael eu gwarchod yn arbennig, fel y pathew, a miloedd o rywogaethau eraill gan gynnwys 23 rhywogaeth o adar. Coed Gwent yw’r hyn sydd ar ôl o’r goedwig oedd unwaith yn ymestyn o afon Wysg i Ddyffyn Gwy.
2. Fe ymwelodd Oliver Rackham, sy’n cael ei gydnabod fel arbenigwr ar archeoleg coetir, â Choed Gwent yn 2005, gan alw hefyd yn y swyddfa gofnodion leol. Fe ddaeth e o hyd i’r dyfyniad canlynol gan H J Massingtham o 1952, sy’n tanlinelli sut y defnyddiwyd Coed Gwent mewn dull anghynaladwy yn y gorffennol: “The last of Wentwood was felled in the war of 1939-45 ….. all has now been so savagely cut that hardly a tree is to be seen except the conifers of the Forestry Commission, themselves soon to be clear felled. Elsewhere I saw the voids where trees once stood, filled in with a litter of bramble, willow herb and tussocky whitegrass….. the whole area is a dismal derelict waste, an upland hell and the bleakest of monuments to man’s suicidal folly and cupidity ….. the acts of seventeenth century and contemporary man have transformed Wentwood from beauty and use to barrenness.”
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.