25 Ebrill 2006
Grwpiau coetir Cymreig yn cael y gyfle i fanteisio ar wrth £10,000 o grantiau
Grantiau ar gael ar gyfer grwpiau cymunedol yng Nghymru am y tro cyntaf
Wrth i’r tymor plannu coed ddirwyn i ben, mae Coed Cadw (the Woodland Trust) wedi cyhoeddi cynllun grantiau newydd gwerth £10,000 i grwpiau coetir cymunedol. A thra bod y grantiau hyn wedi bod ar gael yn Lloegr yn unig hyd yn hyd, maen nhw ar gaeli grwpiau Cymreig hefyd, bellach.
Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae Coed Cadw wedi dosbarthu bron i £100,000 mewn grantiau bychain i ugeiniau o brosiectau coetir yn Lloegr. Nid oedd y grantiau hyn ar gael yng Nghymru, a hynny oherwydd fod y prosiect wedi’i ariannu gan DEFRA (1) yn Lloegr. Ond gan nad yw hyn yn wir, bellach, a bod Coed Cadw yn dal i redeg y prosiect gyda’i adnoddau ei hunain, mae’r mudiad yn rhydd i ddosbarthu grantiau i grwpiau Cymreig yn ogystal â rhai Seisnig.
Mae grantiau rhwng £500 a £1,000 ar gael fesul prosiect, i helpu talu am unrhyw beth: taclau, hyfforddiant, adnoddau neu gynlluniau neu weithgareddau i hyrwyddo gwaith y grŵp. Rhaid i geisiadau gyrraedd Coed Cadw erbyn diwedd mis Gorffennaf eleni.
Dywed rheolwr y prosiect, Paul Bunton: “Roedd yn cynllun grantiau’n llwyddiannus dros ben yn Lloegr. Dwi wrth fy mod ein bod ni bellach yn cael y cyfle i’w ymestyn i grwpiau Cymreig hefyd. Mae arian ar gyfer grwpiau gwirfoddol ar hyd a lled Cymru a Lloegr i’w helpu nhw i ddatblygu eu safleoedd.
”Yn bwysicach na hyn, hyd yn oed, fe allwn ni helpu grwpiau coetir cymunedol trwy’r Rhwydwaith Coetir Cymunedol a’i wefan www.yourwoods.org.uk Fe all hon ddarparu cyngor a chefnogaeth i’r grwpiau ‘ma, gan eu galluogi i rannu profiadau a gwybodaeth gyda’i gilydd.”
Mae Coed Cadw yn gwybod am o leiaf lawer o grwpiau cymunedol ar hyd a lled Cymru sydd wrthi’n edrych ar ôl coedlan leol, a mewn rhai achosion yn gwneud cyfraniad enfawr tuag at wella ansawdd eu hamgylchedd lleol. Rhestrir 23 ohonyn nhw ar wefan y Rhwydwaith Coetir Cymunedol (2).
Mae gwefan y Rhwydwaith Coetir Cymunedol ar gael i helpu grwpiau i roi ceisiadau at ei gilydd. Yn ogystal â ffurflenni cais a chyngor ar sut i’w llenwi, mae’r wefan yn cynnwys pob math o wybodaeth a chyngor ar ddatblygu coedlan gymunedol. I ddysgu mwy, beth am fynd i: www.yourwoods.org.uk
(diwedd)
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-bost
media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau i olygyddion:
1. The Department of the Environment, Food and Rural Affairs, sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol dros gefn gwlad a materion gwledig yn Lloegr, ond nid yn Lloegr.
2. Rhestrir y grwpiau isod. Mae yna lawer mwy o wybodaeth ddiddorol ar wefan y Rhwydwaith Coetir Cymunedol wrth: www.yourwoods.org.uk
Enw’r Grwp Sir
Fforestwr - Sir Gaerfyrddin
Friends of Pobl y Fforest - Brechfa Forest - Sir Gaerfyrddin
Cil-y-cwm Community Association - Ceredigion
The Coed y Bobol Group - Ceredigion
Hafod Conservation Partnership - Ceredigion
Nanteos Woodland Group - Ceredigion
Old Colwyn Environment Federation - Conwy
Deeside Urban Wildlife Group - Sir y Fflint
The Lower Arael View Tenants & Residents Association - Gwent
Coetir Mynydd - Gwynedd
Ffaldau2000 - Merthyr Tydfil
Friends of Mynydd Dinas - Merthyr Tydfil
Caerwent Community Council - Casnewydd
Friends of Nant Fawr Community Woodlands - Casnewydd
Growing Space - Casnewydd
The Caerphilly Woodland Trust - Casnewydd
Sardis Parks & Gardens - Sir Benfro
Woodhouse Wood Community Co-operative - Sir Benfro
Conservation in Action Forest School - Powys
Old Chapel Co-operative - Powys
Yscir Community Council - Powys
Cwmtalwg Woodlands Residents Grou - Bro Morgannwg
Caia Park Environmental Group - Wrecsam
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros gant o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion o Goed Cadw yng Nghymru, yn Gymraeg, ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.