23 Awst 2007
Coed Cadw yn cyhoeddi ei weledigaeth i greu coetir brodorol newydd yn nhirwedd bryniog Dyffryn Wysg
Coed Cadw yn prynu Cefn Ila, ger Brynbuga, dim ond pedair milltir o Goed Gwent
Mae Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, wedi lansio ymgyrch i ariannu pryniant Cefn Ila, sef safle 72 erw o laswelltir wedi’i wella yn bennaf yn harddwch cefn gwlad Dyffryn Wysg. Gwerthwyd y tir mewn ocsiwn ac fe gynigiodd Coed Cadw swm oedd, yn ei tyb e, yn bris rhesymol amdano fe.
Mae Coed Cadw’n gweld y prosiect fel cyfle prin i greu coetir brodorol newydd fydd yn cyfrannau at harddwch y tirwedd tra’n diogelu rhai o’r golygfeydd gwych dros gefn gwlad sydd yna’n barod. Y bwriad yw cynyddu harddwch y tirwedd, rhoi cyfle i bobl leol gymryd rhan ac ychwanegu at yr hyn y mae’r ardal yn cynnig i gerddwyr ac ymwelwyr eraill. Fel bron bob coedlan Coed Cadw, fe fydd Cefn Ila yn agored yn bawb ymweld ag e ar unrhyw adeg ac am ddim. Fe gaiff y goedlan ei dylunio mewn ymgynghoriad â’r bobl leol. Fe fydd hyn yn dechrau gyda chyfarfod cyhoeddus nos Fawrth yr 11eg Medi yng Ngholeg Gwent Brynbuga.
Dywed Gary Roberts, Swyddog Datblygu Coed Cymru ar gyfer Cymru: “Mae’r darn yma o Gymru’n cynnwys clwstwr pwysig o goetir hynafol sydd wedi goroesi trwy’r canrifoedd. Os gallwn ni adeiladu ar y rhwydwaith yma o gynefinoedd, fe wnawn ni roi help llaw i fywyd gwyllt i oroesi yn y dyfodol, ar adeg pan fydd yr hinsawdd yn newid yn sydyn. Os gallwn ni greu rhagor o goetir yng Nghefn Ila, fe wnawn ni greu rhagor o le i fyd natur a thrwy hynny cynyddu a diogelu bioamrywiaeth.
Felly, mae Coed Cadw wedi mynd ati ar frys i geisio codi £500,000 i sicrhau Cefn Ila i’r cenedlaethau a ddêl gael y cyfle i’w fwynhau, ac i greu coetir brodorol newydd yn Nyffryn Wysg. Mae’r swm yma’n cynnwys y costau angenrheidiol er mwyn creu’r coetir newydd a hefyd y costau rheoli yn ystod blynyddoedd cyntaf y prosiect.
Mae creu coetir newydd yn un o brif flaenoriaethau Coed Cadw. Felly, mae’r elusen yn gobeithio ariannu’r prosiect trwy gyfraniadau gan aelodau a chefnogwyr, trwy ddenu cefnogaeth o gwmnïau, trwy grantiau creu coetir a dulliau eraill. Ond mae’n cydnabod fod cefnogaeth leol yn arbennig o bwysig hefyd. Felly, mae’n galw ar bawb sy’n gallu cefnogi’r ymgyrch mewn unrhyw ffordd – trwy gynnig arian, awgrymiadau neu syniadau, i gysylltu â Gary Roberts ar 01844 343 877 neu garyroberts@woodland-trust.org.uk neu ymweld â’r wefan arbennig sef www.woodland-trust.org.uk/cefnila
Mae’n werth cofio fod cyfraniadau gweddol fach o unigolion yn gallu rhyddhau symiau mwy, a hynny trwy ddarparu arian cyfatebol ar gyfer ceisiadau grant o gyrff eraill. Felly, mae’n debyg fod pob punt a sy’n cael ei roi gan y gymuned leol yn a chefnogwyr Coed Cadw yn helpu i godi £10 ychwanegol.
Mae Coed Cadw wrth ei fodd fod yr Abergavenny Chronicle wedi cytuno yn barod i gefnogi’r ymgyrch i greu coetir newydd yng Nghefn Ila. Dywed Liz Davies, golygydd y papur: “Mae’r Abergavenny Chronicle wrth ei fodd i gefnogi cynllun Coed Cadw yng Nghefn Ila. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnig y newyddion diweddaraf am y prosiect i’n darllenwyr a hynny’n rheolaidd.”
Un person lleol sydd â rheswm arbennig i groesawu cynlluniau Coed Cadw yw Stephen Carter o Oakdale, ger y Coed-duon. Mae’n egluro: “Ym mis Mai 1963 fe ges i ‘ngeni yn Ysbyty Mamolaeth Cefn Ila, ac er gwaethaf y ffaith nad fues i erioed yn byw yn Llanbadog, rwyf yn wastad wedi teimlo ‘gartref’ pan oeddwn i’n cerdded neu’n teithio trwy’r ardal. Mae pryniant Cefn Ila gan Goed Cadw yn newyddion gwych i’r amgylchedd lleol a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld y prosiect yn datblygu, a phobl leol a phlant lleol yn arbennig yn cymryd rhan trwy blannu coed eu hunain.”
Mae Coed Cadw yn gofalu am dros 1000 o goedlannau ar hyd y DU yn barod, dros 100 ohonyn nhw yng Nghymru. Un ohonyn nhw, sydd dim ond tair milltir i’r de i Gefn Ila, yw Coed Gwent. Fe brynodd Coed Cadw ddarn sylweddol o’r goedwig hon yn dilyn ymgyrch egnïol yn 2005. Coed Gwent yw’r goedwig hynafol fwyaf sydd wedi goroesi yng Nghymru, ac er ei fod wedi cael ei blannu coed conwydd yn yr ugeinfed ganrif, mae e bellach yn cael ei adfer yn raddol gan Goed Cadw, a’i reoli er lles y gymuned i gyd.
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.