|

Gwobr gwirfoddoli

2 Mai 2006

Bryn Jacob yn ennill Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn ar ol 30 o flynyddoedd o waith yng Nghoed Tregib

Fe fydd Bryn yn derbyn copi o lyfr clasurol Jean Giono ‘Y dyn a blannai goed’, sydd newydd ei gyhoeddi yn Gymraeg am y tro cyntaf erioed

Mae Bryn Jacob o Salem, ger Llandeilo, wedi ennill Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn Coed Cadw, am wneud gwaith fel warden gwirfoddol ar safle Coed Tregib, sy’n eiddo i Goed Cadw (the Woodland Trust), am fwy na 30 o flynyddoedd! Cyflwynir y wobr, sef copi o’r llyfr clasurol Y dyn a blannai goed gan Jean Giono, y mae Coed Cadw newydd ei gyhoeddi yn Gymraeg am y tro cyntaf erioed, gan Rhydian Roberts o Goed Cadw, sydd yn rheoli Coed Tregib bellach, ac a enwebodd Bryn ar gyfer y wobr.

Roedd Coed Tregib yn un o’r safleoedd cyntaf a brynodd Coed Cadw yng Nghymru, nôl yn 1982, ac mae Bryn wedi bod yn warden gwirfoddol yn y safle ers yn fuan ar ôl hynny.

Dywed Rhydian Roberts, sydd yn rheoli’r Coed Tregib, bellach: “Mae Bryn wedi bod yn andros o help i fi tra ‘mod i wedi bod yn edrych ar ôl y safle. Mae o’n cerdded yn y goedlan yn rheolaidd a fydd o’n rhoi caniad i fi oes bydd ‘na broblem. Mae o wedi bod yn andros o helpu hefyd wrth drefnu digwyddiadau a gweithgareddau yn Llandeilo, gan ei fod o’n nabod pawb yn yr ardal, bron, sydd yn help mawr.”

Dywed Bryn Jacob: “Roedd yn syndod llwyr i fi i gael ‘yn enwebi ar gyfer y wobr. Dwi wedi mwynhau ‘yn amser yn gweithio i Goed Cadw. Mae e wedi rhoid esgus gwych i fi dreulio amser yng Nghoed Tregib, ac roeddwn i’n arbennig o falch i gael helpu’r mudiad i brynu estyniad i’r safle yn 2004, sydd wedi gwneud y goedlan yn haws ei chyrraedd o’r dref. Mae pawb wedi gweithio’n galed iawn i brynu’r safle. Dwi’n wrth ‘ym modd ein bod ni wedi llwyddo, ac mae’n wych o gyfle i bobl ddod i’w gweld.”

Yn ystod 2005, fe wnaeth gwirfoddolwyr brwdfrydig Coed Cadw 252,000 o oriau o waith i Goed Cadw. Yn ogystal â wardeiniaid gwirfoddol, mae hyn yn cynnwys siaradwyr gwirfoddol, sydd yn mynd allan i ledaeni’r neges am waith y mudaid, ffotograffwyr, pobl sy’n gwneud gwaith ymarferol a chofnodwyr ffenoleg, sy’n recordio newidiadau yng nghalendr byd natur. Mae mwy o fanylion am waith gwirfoddol gyda Choed Cadw ar gael wrth: http://www.woodland-trust.org.uk/getinvolved/index.htm

Yn dilyn ymgyrch i ymestyn y safle yn 2004, mae Coed Cadw yn creu 12 hectar (32 erw) o goetir newydd ar y safle, fel estyniad i Goed Tregib. Gwnaed gwaith plannu yn ystod gaeafau 2004-5 a 2005-6, gyda miloedd o wirfoddolwyr, plant ysgol, Girlguides a chadetiaid yn plannu miloedd o goed, sef coed gwern, helyg, derw, onn ac amrywiaeth o brysgwydd. Fe fydd hyn yn dod â Choed Tregib yn nes at dref Llandeilo, gan ei gwneud hi’n haws i’w gyrraedd gan bobl leol. Fe fydd e hefyd yn creu cynefin newydd i fywyd gwyllt, yn arbennig dyfrgwn, gan fod y tir mewn cwestiwn yn gorwedd rhwng coedwig bresennol Coed Tregib ac Afon Tywi.

Mae Coed Cadw yn ddiolchgar i’r holl gefnogwyr a helpodd i wneud y prosiect yn bosibl, yn enwedig: The David and Christopher Lewis Foundation, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, Yr Undeb Ewropeaidd Amcan 1, Girl Guiding Cymru, y Carmarthen Journal a Chadetiaid y Fyddin Dyfed.

Fel y rhan fwyaf o safleoedd Coed Cadw, mae Coed Tregib ar agor i bawb ymweld â fe a hynny ar unrhyw adeg ac am ddim. Erbyn hyn mae ganddo fe wefan ei hun sef: www.wt-woods.org.uk/coedtregib Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth am y goedlan a’i rheolaeth, gan gynnwys map rhyngweithiol.
(diwedd)

Dylai’r cyfryngau gysylltu :
Rory Francis (Swyddog Cyfathrebu) ar 01766 832563 neu 07760 171174
Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH
E-bost roryfrancis@woodland-trust.org.uk

neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-mail media@woodland-trust.org.uk

Nodiadau ar gyfer olygyddion:

Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.