20 Hydref 2006
Wrth i ddydd y farn nesau, Mae Coed Cadw (the Woodland Trust) yn cryfhau ei ymgyrch i achub Coed Hafod Heulog
Mae’n bosibl mai’r cais cynllunio hwn fydd yr achos prawf cyntaf i bolisi clir y Cynulliad i amddiffyn coetir hynafol
Fe gaiff Coed Hafod Heulog (1), sef coedlan hynafol (2) sy’n sefyll ar lannau Afon Cynffig ger Penybont-ar-Ogwr, ei ddinistrio gan y llif gadwyn, oni fydd cynghorwyr lleol yn gwneud penderfyniad egwyddorol i’w amddiffyn.
O fewn llai na mis, fe fydd cynghorwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot yn pleidleisio ar gais cynllunio i ymestyn safle glo brig presennol ger Mynydd Cynffig, ger Penybont-ar-Ogwr. Os caiff y cais ei gymeradwyo, fe fydd rhaid dinistrio 4.5 hectar (11 erw) o Goed Hafod Heulog, sef coedlan hynafol lled-naturiol sy’n sefyll ar ddwy lan Afon Cynffig. Mae coetir hynafol o leiaf 400 o flynyddoedd oed, ac mae’n debyg ei bod yn dyddio ‘nôl miloedd o flynyddoedd i’r cyfnod a ddilynodd oes yr iâ ddiwethaf.
Gan fod y cais yn croesi’r ffin rhwng Castell Nedd Port Talbot a Phenybont-ar-Ogwr, mae ef wedi cael ei gyflwyno i’r ddau Gyngor. Mae’n debyg mai Castell Nedd Port Talbot fydd y cyntaf i bleidleisio arno fe.
Fe fydd y cais yn achos prawf hollbwysig ar gyfer y polisi a fabwysiadodd y Cynulliad Cymreig yn 2002 i amddiffyn y darnau bychain o goetir hynafol sydd wedi goroesi rhag cael eu niweidio’n sylweddol gan geisiadau cynllunio. Dim ond rhyw 2 y cant o Gymru sy’n cael ei orchuddio gan goetir hynafol. Mae paragraff 5.2.9 o Bolisi Cynllunio Cymru yn datgan yn glir:
“Mae coetiroedd hynafol a lled-naturiol yn gynefinoedd na ellir eu hadfer sy’n werthfawr iawn am eu bioamrywiaeth a dylid eu diogelu rhag datblygiad a fyddai’n achosi difrod sylweddol.”
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, wedi bod yn gweithio i gefnogi’r grŵp ymgyrchu lleol PACT (3) (sy’n sefyll am ‘Protecting and Conserving Together’) sydd wedi trefnu ymgyrch brwdfrydig yn erbyn cynlluniau Celtic Energy. Mae’r grŵp wedi bod yn cydweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i ymgymryd ag Asesiad Effaith Iechyd ar y datblygiad, i geisio adnabod beth fydd effaith y cynllun glo brig ar iechyd y gymuned leol.
Bellach mae Coed Cadw wedi danfon llythyr ychwanegol at gynghorau Castell Nedd Port Talbot a Phenybont-ar-Ogwr, yn amlinelli ei wrthwynebiad i’r cynlluniau, ac yn ymateb i’r wybodaeth ddiweddaraf a gyflwynwyd gan y datblygwyr.
Danfonir copi o un o’r llythyrau ynghlwm wrth y datganiad hwn. Yn ogystal ag amlinelli gwrthwynebiad Coed Cadw i ddinistrio’r coetir, gan ddyfynnu polisi’r Cynulliad, mae’r llythyr yn cyfeirio’n arbennig at fwriad y cwmni i blannu coed ychwanegol ar hyd yr afon, ar ôl iddi hi gael ei gwyro o’i chwrs presennol, “so that the overall loss of Woodland would be minimal”. Mae llythyr yr elusen yn pwysleisio fod Polisi Cynllunio Cymru yn datgan yn glir na ellir ail-greu coetir hynafol, a hynny oherwydd ei oed, ei gymhlethdod ecolegol a’i gefndir hanesyddol. “Felly, ni all coetir newydd gwneud yn iawn am colli coetir hynafol sydd wedi datblygu ac aeddfedu dros filoedd o flynyddoedd, ac sydd â chyfoeth biolegol i brofi hynny.”
Mae’r llythyr yn cyfeirio hefyd at y wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan y datblygwr i gefnogi’r cais: “Mae’r wybodaeth hon i gyd yn cadarnhau fod Coed Hafod Heulog o werth cadwriaethol uchel, a’i fod yn safle clwydo i ystlumod. Mae’r canopi yn goed derw ac onn yn bennaf, gyda choed ffawydd, cerddin a chelyn. Mae’r goedlan yn gyfoethog o ran blodau sydd yn gysylltiedig â choetir hynafold, gan gynnwys clychau’r gog, suran y coed, bresych y cŵn, a blodau’r gwynt, ac mae’n bwysig hefyd fel cynefin i ystlumod lleiaf, natterer a chlustiog.”
Dywed Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus Coed Cadw: “Mae yna gyn lleied o goetir hynafol ar ôl yng Nghymru fel na allwn fforddio ei golli. Er clod mawr i’w haelodau, mae’r Cynulliad wedi mabwysiadu polisi cadarn i amddiffyn coedlannau hynafol fel Coed Hafod Heulog. Rydyn ni’n disgwyl nawr y bydd y ddau Gyngor yn gweithredu’r polisi yma.”
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-bost
media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau i olygyddion
1. Saif Coed Hafod Heulog wrth gyfeirnod grid SS 843 842. Mae’r estyniad glo brig arfaethedig yn cynnwys y goedlan i gyd, ond y ddau hectar mwyaf i’r gogledd, ac mae’n ymestyn i’r de a’r gorllewin. I weld lleoliad y goedlan ar safle we multimap ewch i wefan multimap
2. Diffinnir coetir hynafol fel tir sydd wedi bod yn goediog yn ddi-baid ers o leiaf 400 o flynyddoedd. Mae’r cynefin cyfoethocaf i fyd natur yn y DU, y peth agosaf sydd gennym i goetir glaw trofannol.
3. Mae gan PACT wefan eu hun sef: http://pactwales.blogspot.com/
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.