2 Mai 2008
Dygnwch un dyn i gael hyd i drysorau cuddiedig y Gororau
Heliwr y coed hynafol yn cerdded o’r naill pen o Glawdd Offa i’r llall
Mae Rob McBride, gwirfoddolwr ar gyfer Coed Cadw (the Woodland Trust), yn mynd i gerdded o’r naill pen o Glawdd Offa i’r llall mewn ymgais i ddarganfod a chofnodi cymaint o goed hynafol ag y gall ar hyd gweddillion y clawdd yma, sy’n dyddio o’r wythfed ganrif.
Mae llwybr Clawdd Offa yn 177 o filltiroedd o hyd, ond mae Rob yn disgwyl cerdded dipyn yn fwy na hyn, gan ei fod yn bwriadu gwyro oddi ar y llwybr lle mae hyn yn gyfreithiol, i gael hyd i goed hynafol.
Roedd Rob gynt yn beiriannydd meddalwedd, ond fe ddaeth yn weithgar gyda Choed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y Deyrnas Unedig, yn hwyr yn 2004 ar ôl i’w feddyg awgrymu y dylai gael dipyn o awyr iach ac ymarfer corff er mwyn dod trwy gyfnod anodd yn ei fywyd.
Fe ddechreuodd Rob wneud gwaith gwirfoddol i Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Amwythig. Cyn bo hir fe glywodd am goed hynafol ac mae o heb edrych yn ôl ers hynny. Fe ddaeth yn ddilyswr gwirfoddol gyda’r Helfa Coed Hynafol, sef prosiect sy’n cael ei redeg gan Goed Cadw sydd â’i fryd ar ysgogi miloedd o bobl i helpu cael hyd i hen goed tew ar hyd y DU a chofnodi eu lleoliad. Y llynedd, fe enillodd wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn o Goed Cadw.
Mae Rob yn esbonio cefndir ei daith ar hyd Clawdd Offa: “Wrth chwilio a chofnodi coed hynafol yng ngogledd Sir Amwythig, rydan ni wedi cael hyd i nifer o goed reit drawiadol o fewn hanner milltir i Glawdd Offa. Mae pobl yn sôn am hen goed derw yn cael eu gadael i gofnodi terfynau plwyfi. Hwyrach fod y coed yma’n cofnodi’r hen ffin rhwng Cymru a Lloegr.”
Wrth i Rob ymgymryd â’i daith arwraidd ar hyd y ffin, mae’r rhai sy’n cael hyd i goed hynafol yn cael y cyfle i’w cofnodi yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, gan fod gwefan yr Helfa Coed Hynafol yn gweithio’n ddwyieithog, bellach, yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg wrth: www.helfacoedhynafol.org.uk neu www.ancienttreehunt.org.uk
Fe ellwch chi ddefnyddio’r safle hefyd i gael hyd i goed hynafol yn eich milltir sgwâr neu i ychwanegu straeon neu luniau i’r blogiau coed hynafol. Fe fydd y safle hefyd yn cynnwys newyddion am daith Rob McBride ar hyd Clawdd Offa
Mae coed hynafol yn aros i gael eu darganfod ar hyd a lled Cymru a Lloegr, llawer ohonyn nhw’n hŷn hyd yn oed na’n cestyll ac ein heglwysi cadeiriol ni. Credir fod rhai coed hynafol yn byw hyd am 5000 o flynyddoedd, sy’n golygu eu bod nhw ymhlith pethau byw hynaf y blaned. Mae’n debyg fod gan Wledydd Prydain fwy o’r trysorau hyn na’r un wlad arall yng ngogledd Ewrop, ond mae’n syndod nad ydym yn gwybod lle maen nhw!
Prosiect pum mlynedd yw’r Helfa Coed Hynafol sy’n cael ei arwain gan Goed Cadw mewn partneriaeth gyda’r Fforwm Coed Hynafol a Chofrestr Coed Ynysoedd Prydain. Mae’n cael ei ariannu gan yr Esmee Fairbairn Foundation, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Treftadaeth Naturiol yr Alban, ac mae’n cael ei gefnogi gan y Comisiwn Coedwigaeth. Fe fydd llawer o bartneriaid lleol yn cydweithio gyda’r prosiect ar hyd a lled y DU. Yn ymuno â’r Helfa y mae Cyngor y Coed, y Caravan Club, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Comisiwn Coedwigaeth, a’r Gwasanaeth Carchardai, dros 100 o grwpiau lleol ynghyd a llawer o dirfeddianwyr.
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121
1. Mae Rob McBride yn gobeithio cyfarfod â naturiaethwyr lleol ar hyd y ffordd. Fe ddylai rhywun sydd eisiau cysylltu â fo ffonio 01766 832563 neu e-bostio roryfrancis@woodlandtrust.org.uk
2. Gellir gweld fideo byr o Rob McBridge yn edrych am goed hynafol, ond nid wrth Glawdd Offa, ar youtube
3. Ymhlith coed hynafol mwyaf nodedig Cymru y mae:
Derwen Crogan
Dim ond milltir o Glawdd Offa, mae gan y goeden hon gylchfesur o 10 metr. Fe ellwch chi weld Rob McBride wrth y goeden hon ar youtube
Derwen Pontfadog, ym Mhontfadog ger y Waun, Wrecsam
Dyma dderwen ddigoes fwyaf Cymru. Cylchfesur y goeden yw 42 troedfedd 4 modfedd (12.9m). Roedd yn gymaint o eicon hyd yn oed yn y 12fed ganrif fel yr ymgasglodd byddin Owain Gwynedd o’i chwmpas a mynd ymlaen i guro Harri ll ym mrwydr Crogan ddwy filltir i ffwrdd.
Ywen Llangernwy, Llangernyw, Conwy
Credir fod yr ywen hynafol ym mynwent Eglwys Sant Digain, Llangernyw, dros 3,000 oed, sy’n golygu y byddai’r goeden yn hynafol hyd yn oed pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid Gymru. Mae’n debyg mai’r goeden hon yw’r peth byw hynaf yng Nghymru.
Onnen Abaty Talyllychau, Sir Gaerfyrddin
Mae’n debyg mai’r goeden hon yw’r onnen hynaf ym Mhrydain. Mae’n sefyll mewn perth o fewn tir Abaty prydferth Talyllychau sydd yng ngofal Cadw. Mae’r bôn mor gygnog fel ei bod yn anodd ei fesur. Mae’n debyg fod y cylchfesur tua 36 troedfedd (11m).
Ywen Betws Newydd, Sir Drefynwy
Mae yna dair hen ywen ym mynwent Betws Newydd, ond yr un fwyaf yw’r un mwyaf nodweddiadol. Fel y rhan fwyaf o goed yw o’i hoed, mae’r goeden yn gwbl wag.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.