|

Hydref yn dod yn wanwyn

13 Tachwedd 2007

Hydref yn dod yn wanwyn: calendr byd natur yn cael ei droi wyneb i waered

Mae’r hydref od eleni yn dangos fod newid yr hinsawdd ar waith dros Gymru

Wrth i goed ar draws Cymru ddangos lliwiau’r hydref, mae Calendr Byd Natur (1) wedi derbyn newyddion o Gymru benbaladr am blanhigion yn blodeuo yn yr hydref.

Mae’r rhyfeddod naturiol hyn yn cynnwys bysedd y cŵn yn blodeuo yn y Canolbarth. Mae yna friallu mair sydd wedi bod yn blodeuo yn Llandogo yn Sir Drefynwy ers diwedd mis hydref, ysgorpionllys a phrimula yn eu blodau yng Nghaerydd, a mefus gwyllt yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin.

Mae’r rhain i gyd wedi cael eu gweld fel digwyddiadau a gysylltir â’r gwanwyn. Yr unig gwestiwn yw, ydyn nhw’n dod yn hwyr, neu’n gynnar?

Mae Dr Kate Lewthwaite o Goed Cadw yn egluro: “Mae’n ymddangos fod yr hydref yn ymestyn rhwng yr haf a’r Nadolig, bellach. Mi gawson ni lwyth o fwyar. Gyda gwanwyn mor fwyn, mae’n ymddangos fod rhai planhigion wedi cael eu twyllo i flodeuo am yr eildro. Yn anffodus nid yw’n debyg y bydd y planhigion yn dwyn ffrwyth eto gan ei bod hi’n rhy oer. Mae planhigion yn ymateb i’r hinsawdd, a felly, dydyn nhw ddim yn sylweddoli fod y gaeaf ar fin cyrraedd. O ran penbyliaid a gwas y neidr, mae’r amgylchiadau mwyn wedi eu helpu i oroesi.”

Mae Kate Lewthwaite yn parhau: “Mae’n ymddangos fod yr hydref yn ymestyn rhwng yr haf a’r Nadolig, bellach. Mi gawson ni gnwd da o fwyar duon mor gynnar â mis gorffennaf, a mewn llawer o lefydd dan ni’n dal i aros i’r coed fynd yn goch llachar. Mae Calendr Byd Natur hyd yn oed wedi clywed am ddrain gwynion yn dangos dail hydrefol ynghyd a blodau ar yr un pryd, a choed ysgaw yn dal i flodeuo yn y gwrychoedd.”

Yr hydref yw ffordd byd natur i’n diddanu ni gyda lliwiau llachar cyn i oerfel y gaeaf ddechrau. Mae coed ar draws Gwledydd Prydain yn newid eu lliw gan ddangos lliwiau melyn, aur a choch i bawb eu gweld. Mae bobl ar draws y byd yn heidio i’w mwynhau, o Japan i’r Unol Daleithiau. Ac mae’r lliwiau hyn yma ar stepen ein drws ni.

Tra’ch bod chi allan yn mwynhau lliwiau’r hydref, fe allech chi helpu i gymryd rhan ym mhrosiect Calendr Byd Natur, sy’n cael ei drefnu gan Goed Cadw. Dyma’r prosiect mwyaf yn y byd ynghyn â ffenoleg (3) a’r bwriad yw ymchwilio sut y mae newid yr hinsawdd yn effeithio ar y tymhorau a byd natur a hynny trwy ddadansoddi gwybodaeth a gasglwyd o filoedd o wirfoddolwyr ar draws y DU.

I weld y rhyfeddod naturiol yma, neu os ydych chi dim ond eisiau mynd i fwynhau lliwiau trawiadol yr hydref lle rydych chi’n byw, neu os ydych chi eisiau dod yn gofnodwr, ewch i wefan www.naturescalendar.org.uk a dilynwch y ddolen autumn woods i gael hyd i goedlan yn eich ardal chi. Beth am fynd allan yn awr cyn i’r gwaith o ysgubo’r dail i gyd ddechrau?

Fe all y cyfryngau gysylltu â:

Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH

Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121

Nodiadau i olygyddion

1. Calendr Byd Natur / Rhwydwaith Ffenoleg y DU: Dyma bartneriaeth a grëwyd rhwng Coed Cadw a’r Ganolfan dros Ecoleg a Hydroleg. Bellach mae ganddi dros 40,000 o gofnodwyr cofrestredig yn nodi arwyddion y tymhorau’n newid ar draws y DU.

2. Danfonir llun o fysedd y cŵn yn blodeuo, a hynny gyda chopi diweddar o’r Shropshire Star, ynghlwm wrth yr e-bost yma.

3. Ffenoleg: Dyma astudiaeth amseriad digwyddiadau’r tymhorau, yn enwedig yng nghyd-destun newid yr hinsawdd. Adwaenir amseriad digwyddiadau naturiol weithiau fel ‘Calendr Byd Natur’.

Coed Cadw (The Woodland Trust)

Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.