28 Rhagfyr 2007
Y Gweinidog yn atgoffa plant i ailgylchu eu cardiau
Mae ailgylchu eich cardiau Nadolig yn ffordd o ddechrau Blwyddyn Newydd o ailgylchu, meddai’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai.
Ymunodd Jane Davidson â phlant ysgol o Gaerffili dros gyfnod y Nadolig i weld sut yr oeddynt yn ailgylchu cardiau.
Meddai’r Gweinidog yn ystod ymweliad ag Ysgol Gynradd Tŷ’n Y Wern: "Mae Cymru’n defnyddio gwerth tri planed o adnoddau’r ddaear, felly mae’n hanfodol ein bod yn ailgylchu mwy.
"Mae lleihau gwastraff yn allweddol er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae lleihau gwastraff wrth gynhyrchu, a chynyddu’r gyfran sy’n cael ei hailgylchu yn dda i’r blaned ac yn dda i Gymru. Mae’n arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod hwn, pan fydd llawer o gardiau ar ôl wedi’r Nadolig, ein bod yn cofio eu hailgylchu."
O’r 2-31 Ionawr 2008, bydd Coed Cadw yn casglu cardiau o WHSmith, Tesco, TK Maxx a Marks and Spencer er mwyn eu hailgylchu.
Mae casglu cardiau yn creu incwm i Coed Cadw trwy gredydau ailgylchu – incwm sy’n cael ei dalu gan awdurdodau lleol am wastraff nad oes angen ei roi mewn safleoedd tirlenwi. Felly, gorau po fwyaf o gardiau sy’n cael eu hailgylchu! Eleni, mae’r elusen yn anelu at ailgylchu 100 miliwn o gardiau, a fyddai’n golygu bod modd plannu 24,000 o goed brodorol – sy’n goedwig o’r un maint â 48 o gaeau pêl droed!
Meddai Sue Holden, prif weithredwr Coed Cadw, sydd wedi casglu 443 miliwn o gardiau ers i’r cynllun ddechrau 10 mlynedd yn ôl: “Mae pawb sy’n cefnogi’r ymddiriedolaeth trwy ailgylchu eu cardiau yn helpu inni blannu miloedd o goed newydd ledled y DU.”
I ddysgu mwy am sut y gellwch chi helpu cenedlaethau a ddêl trwy leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff, cofiwch ymweld â’r gwefannau hyn: www.woodland-trust.org.uk/cards neu www.craffamwastraff.org.uk
Cysylltwch â:
Rory Francis (Swyddog Cyhoeddusrwydd a Materion Cyhoeddus Cymru) - 01766 832563 neu 07760 171174 Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH
E-bost: roryfrancis@woodland-trust.org.uk
Swyddfa’r Wasg Coed Cadw/Woodland Trust - 01476 581121, e-bost media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw prif elusen cadwraeth coetiroedd y DU. Mae ganddi 250,000 o aelodau a chefnogwyr. Mae gan Goed Cadw bedwar nod allweddol: i) Peidio â cholli mwy o goetiroedd hynafol; ii) Adfer a gwella bioamrywiaeth coedwigoedd; iii) Cynyddu coetiroedd cynhenid newydd; iv) Gwneud pobl yn fwy ymwybodol o goetiroedd a chynyddu eu mwynhad ohonynt.
Mae gan Coed Cadw, a sefydlwyd ym 1972, dros 1,000 o safleoedd yn ei ofal erbyn hyn, yn cynnwys rhyw 20,000 hectar (50,000 o erwau). Yn eu plith mae dros gant o safleoedd yng Nghymru yn mesur tua 1,580 hectar (3,900 o erwau). Ceir mynediad am ddim i'w safleoedd bron i gyd. Ceir rhagor o newyddion yn www.coed-cadw.org.uk . Cyflwynodd The Woodland Trust enw Cymraeg yn 2000: "Coed Cadw". Mae hwn yn hen derm, a ddefnyddid mewn cyfreithiau canoloesol i ddisgrifio coetiroedd oedd yn cael eu gwarchod neu eu cadw.
Craff am Wastraff
Ymgyrch yw Craff am Wastraff a sefydlwyd i hybu lleihau gwastraff, ailddefnyddio defnyddiau ac ailgylchu, a hynny trwy bob rhan o’r gymuned. Mae’r ymgyrch yn gael ei chydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac ymgyrch Cadw Gymru’n Daclus, a’i hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.