|
 

Jane Davidson a Rupert Bear

24 Gorffennaf 2007

Mae'r ymdrech i gael hyd i goed hynafol Cymru yn dod â Jane Davidson, Gweinidog yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai, a Rupert Bear at ei gilydd!

Bellach mae’r ras wedi dechrau i gael hyd i goed eraill megis Derwen Pontfadog, Ywen Llangernyw ac Onnen Abaty Talyllychau

Fe fu Jane Davidson AC, sydd wedi cael ei phenodi’n ddiweddar fel Gweinidog yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai yn Llywodraeth y Cynulliad, yn rhannu llwyfan gyda Rupert Bear yn Sioe Llanelwedd Dydd Mawrth. Ac fe ymddangosodd y ddau ohonyn nhw wrth ochr cerflun o goeden hynafol, wedi’i weu gyda gwiail helyg! Roedden nhw'n lansio'r Helfa Coed Hynafol yng Nghymru, sef prosiect sydd â’i fryd ar ysgogi miloedd o bobl i helpu cael hyd i hen goed tew ar hyd y DU a chofnodi eu lleoliad.

Mae trysorau o’r oes a fu yn aros i gael eu darganfod ar hyd a lled Cymru. Rhai sydd yn hŷn hyd yn oed na’n cestyll ac eglwysi cadeiriol ni. Beth ydyn nhw? Coed hynafol, sy’n gallu byw hyd am 5000 o flynyddoedd, sy’n golygu eu bod nhw ymhlith pethau byw hynaf y blaned. Mae gan Wledydd Prydain fwy o’r trysorau hyn na’r un wlad arall yng ngogledd Ewrop, ond mae’n syndod nad ydym yn gwybod lle maen nhw! Mae Coed Cadw (the Woodland Trust) yn gofyn i bawb ymuno yn yr Helfa Coed Hynafol, gan gofnodi’r coed maen nhw cael hyd iddyn nhw a’r straeon sy’n gysylltiedig â nhw ar-lein wrth www.helfacoedhynafol.org.uk Rupert Bear sy’n arwain yr helfa ymhlith plant iau ac fe fydd yntau’n dod i’r lansiad.

Fe ddywedodd Jane Davidson: “Dwi wrth fy modd fod Coed Cadw wedi llwyddo i sefydlu’r Helfa Coed Hynafol, er mwyn sefydlu cofrestr gynhwysfawr o ble mae’n coed hynafol ni, fel y cam cyntaf tuag at eu diogelu a’u gwarchod nhw. Dwi’n falch hefyd fod y Cyngor Cefn Gwlad a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn cefnogi’r prosiect mewn ffyrdd gwahanol, ac yn arbennig fod cefnogaeth y Cyngor Cefn Gwlad yn galluogi Coed Cadw i wneud gwefan y prosiect yn ddwyieithog, yn Cymraeg ac yn Saesneg.”

Fe ddyweododd Jerry Langford, Cyfarwyddwr Coed Cadw yng Nghymru: “Rydan ni wrth ein bodd fod Jane Davidson yn gallu mynychu lansiad yr Helfa Coed Hynafol yma yng Nghymru, a dan ni’n ddiolchgar am gefnogaeth y WCVA, y Cyngor Cefn Gwlad a’r Comisiwn Coedwigaeth. Dwi eisiau herio pawb sydd yma heddiw, fodd bynnag, i ymuno â’r miloedd o bobl eraill sy’n chwilio am hen goed, trwy gael hyd i un goeden hynafol o leiaf a’i chofrestru ar y wefan. Mae hawdd i wneud, ac fe fyddwch chi’n cymryd rhan mewn prosiect sydd yn wir bwysig ar gyfer dyfodol ein coed hynafol ni.”

Fe all unrhyw un gymryd rhan, boed yn blentyn neu’n oedolyn, trwy gael hyd i ddarn o hanes yn eu parciau a gerddi a helpu Coed Cadw i greu’r map rhyngweithiol cyntaf o’n coed hynafol ni, fel cam pwysig tuag at warchod y trysorau hyn. Mae’n hawdd gwneud, hefyd. Y cyfan sydd eisiau ei wneud yw cael hyd i goeden a’i chofleidio wedyn, i weld pa mor dew y mae hi! Tewaf y goeden, hynaf y bydd hi.

Does gan y rhan fwyaf o’r coed yma ddim amddiffyniad ond ewyllys da y tirfeddianwyr. Felly, mae Coed Cadw yn awyddus iawn i gydweithio â’r tirfeddianwyr hyn.

Mae coed hynafol yn gartref i filoedd o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys llawer o rywogaethau sy ddim yn byw mewn llefydd eraill. Wrth iddyn nhw ddod yn hŷn, mae coed yn datblygu tyllau a chorneli ac mae darnau ohonyn nhw’n pydru, gan ddarparu cartrefi i lawer o drychfilod. Mae grwpiau goed hynafol sy’n tyfu gyda’i gilydd yn pwysicach byth gan bod y tyllau ynddyn creu cymuned anhygoel o fywyd gwyllt.

Prosiect pum mlynedd yw’r Helfa Coed Hynafol sy’n cael ei arwain gan Goed Cadw mewn partneriaeth gyda’r Fforwm Coed Hynafol a Chofrestr Coed Ynysoedd Prydain. Mae’n cael ei ariannu gan yr Esmee Fairbairn Foundation, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Treftadaeth Naturiol yr Alban, ac mae’n cael ei gefnogi gan y Comisiwn Coedwigaeth. Fe fydd llawer o bartneriaid lleol yn cydweithio gyda’r prosiect ar hyd a lled y DU. Yn ymuno â’r Helfa y mae Cyngor y Coed, y Caravan Club, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Comisiwn Coedwigaeth, a’r Gwasanaeth Carchardai, dros 100 o grwpiau lleol ynghyd a llawer o dirfeddianwyr.

Diwedd

Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH

Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121

Nodiadau i olygyddion

Ymhlith coed hynafol mwyaf nodweddiadol Cymru y mae:

Derwen Pontfadog, ym Mhontfadog ger y Waun, Wrecsam
Dyma dderwen ddigoes fwyaf Cymru. Cylchfesur y goeden yw 42 troedfedd 4 modfedd (12.9m). Roedd yn gymaint o eicon hyd yn oed yn y 12fed ganrif fel yr ymgasglodd byddin Owain Gwynedd o’i chwmpas a mynd ymlaen i guro Harri ll ym mrwydr Crogan ddwy filltir i ffwrdd.

Ywen Llangernwy, Llangernyw, Conwy
Credir fod yr ywen hynafol ym mynwent Eglwys Sant Digain, Llangernyw, dros 3,000 oed, sy’n golygu y byddai’r goeden yn hynafol hyd yn oed pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid Gymru. Mae’n debyg mai’r goeden hon yw’r peth byw hynaf yng Nghymru.

Onnen Abaty Talyllychau, Sir Gaerfyrddin
Mae’n debyg mai’r goeden hon yw’r onnen hynaf ym Mhrydain. Mae’n sefyll mewn perth o fewn tir Abaty prydferth Talyllychau sydd yng ngofal Cadw. Mae’r bôn mor gygnog fel ei bod yn anodd ei fesur. Mae’n debyg fod y cylchfesur tua 36 troedfedd (11m).

Ywen Betws Newydd, Sir Drefynwy
Mae yna dair hen ywen ym mynwent Betws Newydd, ond yr un fwyaf yw’r un mwyaf nodweddiadol. Fel y rhan fwyaf o goed yw o’i hoed, mae’r goeden yn gwbl wag.

Ewch i www.helfacoedhynafol.org.uk
- i gael hyd i goeden hynafol yn agos i lle rydych chi’n byw
- i gofnodi coeden hynafol neu ychwanegu straeon a lluniau o’r goeden i’r blogiau
- i ddilyn y llwybr hud i Barth Rupert the Bear ar y wefan, ar gyfer plant

RUPERT BEAR
Mae Rupert Bear yn arwain yr helfa am hen goed tew ymhlith plant cyn oed ysgol a’u teuluoedd. Fe fydd nifer y “cofleidiadau arthog” yw cylchfesur coeden yn dangos ei oed. Tewaf y goeden, mwyaf ei hoed. Mae Rupert yn gadwraethwr brwdfrydig, ac fe fydd e’n cael llawer o anturiaethau hudol gyda’i ffrindiau yn eu tŷ mewn coeden, sydd yn y goeden hynaf a dewach yn Nutwood. Sbïwch allan am Rupert Bear ar raglen Milkshake ar Sianel Pump bob dydd. Dilynwch yr hud a lledrith i logio ymlaen i www.rupertbear.com i gofrestru eich “cofleidiad arthog” a chael pecyn meithrin cyn-ysgol sydd yn llawn gweithgareddau a theithiau natur. Fe all plant greu anturiaethau eu hunain yn Nutwood gyda chasgliad o deganau fydd ar gael o’r siopau o fis Medi ymlaen.

Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.

PARTNERIAID A CHEFNOGWYR

FFORWM Y COED HYNAFOL
Nod y Fforwm Coed Hynafol yw sicrhau dyfodol tymor hir i goed hynafol trwy alw am ddim colledion pellach o goed hynafol, rheolaeth dda o goed hynafol a datblygu dilyniant o goed hynafol y dyfodol. Yn ogystal â hynny mae’r Fforwm ynghyd â’i aelodau yn ceisio codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am werth a phwysigrwydd coed hynafol.

ESMEE FAIRBAIRN FOUNDATION
Mae Esmée Fairbairn Foundation yn un o’r sefydliadau annibynnol mwyaf sy’n gwneud grantiau yn y DU. Mae’r rhoi grantiau mewn pedwar maes: Celf ac Etifeddiaeth, Addysg, Yr Amgylchedd a Newid Cymdiethas: Menter ac Annibyniaeth. Mae’r sefydliad yn lansio mentrau ei hun hefyd, lle mae’n credu fod yna gyfleoedd sydd heb dderbyn sylw. Yn 2007 mae’n disgwyl gwneud grantiau o £29 ar draws y DU. Am ragor o wybodaeth a fyddech cystal â mynd at www.esmeefairbairn.org.uk

CRONFA DREFTADAETH Y LOTERI
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn galluogi cymunedau i ddathlu, gwarchod a dysgu mwy am eu diwylliant amrywiol. Mae’n ariannu’r amrediad llawn o dreftadaeth – gan gynnwys adeiladau, amgueddfeydd, treftadaeth naturiol a threftadaeth traddodiadol a iaith.

Ers 1994 mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyrannu mwy na £3.6 biliwn i dros 22,500 o brosiectau ar draws Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, gan helpu i agor ein treftadaeth i bawb ei fwynhau.

COFRESTR COED YNYSOEDD PRYDAIN
Mae’r gofrestr goed yn elusen gofrestredig sy’n casglu ac yn diweddaru bas data o goed nodweddiadol ar hyd a lled Prydain ac Iwerddon. Mae’n darparu gwybodaeth am faint a thwf coed sydd ddim ar gael o’r un ffynhonnell arall. Mae hyn yn cynnwys cofnodion hanesyddol o lyfrau sy’n dyddio yn ôl dros 200 o flynyddoedd. Mae’r Gofrestr Goed yn trefnu rhwydwaith o dros 50 o bobl sy’n mesur coed, yn diweddaru cofnodion hanesyddol ac yn darganfod dros 2,000 o goed newydd sydd yn werth eu cynnwys bob blwyddyn. Eu noddwr nhw yw Ei Fawrhydi Tywysog Cymru. Dysgwch fwy o www.treeregister.org