Dathliadau yn Llandeilo Wrth I Coed Cadw wrthio'r cwch i'r dwr yhglyn sialens Coed I Bawb
Ymgyrch gan y gymuned leol yn galluogi Coed Cadw (the Woodland Trust) i greu coedlan newydd ar gyffiniau Llandeilo
Fe ddechreuodd Coed i Bawb, sialens plannu coed newydd Coed Cadw (the Woodland Trust), yn arbennig o dda yng Nghymru, yr wythnos ddiwethaf pan lwyddodd yr elusen i brynu estyniad1 12 hectar (32 erw) i goedlan hynafol bresennol Coed Tregib2 ger Llandeilo. Fe fydd hyn yn galluogi Coed Cadw i:
- Rhoi cyfle i gannoedd o blant lleol i helpu i blannu 4,000 o goed ar y safle, sef coed gwern, helyg, onn a gwahanol rywogaethau o brysgwydd, a hynny fel rhan o sialens Coed i Bawb.
- Ymestyn coedlan Coed Tregib, fel y mae hi yn awr, i gyfeiriad tref Llandeilo, gan ei gwneud hi’n haws ei chyrraedd i bobl leol, ac, am y tro cyntaf, i ddarparu mynediad ar lwybrau o’r dref ac ar hyd Afon Tywi.
- Creu cynefin newydd 12 hectar (32 erw) i fyd natur, ac yn enwedig dyfrgwn, gan fod y tir mewn cwestiwn rhwng y goedlan bresennol ac Afon Tywi. Mae pwysigrwydd y tir hwn i fywyd gwyllt yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith fod coedlan Coed Tregib bresennol wedi cael ei dynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Dywed Rhydian Roberts o Goed Cadw: “Mae hyn yn newyddion gwych i bobl Llandeilo ac i’r amgylchedd lleol. Mae Coed Cadw wedi bod yn trefnu ymgyrch bywiog, ar y cyd â’r gymuned leol, i godi’r arian angenrheidiol i brynu’r tir yma. Er ein bod ni ddim cweit wedi cyrraedd y targed uchelgeisiol o £193,000 sydd yn angenrheidiol i gwrdd â chostau llawn y prosiect yn y tymor hir, roedd modd inni cyfnewid cytundebau yr wythnos ddiwethaf, ac erbyn hyn mae’r pryniant wedi’i gwblhau. Rydym ni’n diolch o galon i bawb i bawb, ac i bob
mudiad, sydd wedi cefnogi’r prosiect, gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Yr Undeb Ewropeaidd trwy Amcan 1, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a channoedd o unigolion a mudiadau lleol.
Yn awr fod y pryniant wedi cael ei gwblhau, fe fydd Coed Cadw yn trefnu’r llwyddiant hwn trwy drefnu digwyddiad plannu coed cyhoeddus yng Nghoed Tregib Dydd Sul y 21 Tachwedd ar y safle rhwng 10 o’r gloch y bore a 4 o’r gloch yn prynhawn fel rhan o benwythnos Coed i Bawb3. Mae croeso i bawb ddod i gymryd rhan, ac i gael hwyl wrth blannu coeden. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael oddiwrth Ben Earl ar 01903 505169.
Yng ngwanwyn 2005 fe fydd Coed Cadw yn gweithio gydag ysgolion lleol i roi’r cyfle i gannoedd o blant i helpu i blannu’r coed hyn.
Coed i Bawb yw’r sialens plannu coed i blant mwyaf, a mwyaf cyffrous, a welwyd erioed yn y DU. Bwriad yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd i ailgysylltu â byd natur. Fe fydd Coed i Bawb yn rhoi cyfle i o leiaf miliwn o blant fynd i’r afael â byd natur a chael hwyl yn plannu coed. Gweledigaeth yr ymgyrch yw y dylai pob plentyn gael y cyfle i blannu coed. Fel rhan o’r ymgyrch, plannir 12 miliwn o goed brodorol dros gyfnod i bum mlynedd – sef un ar gyfer pob plentyn o dan 16 oed. Yma yng Nghymru, mae Coed Cadw yn bwriadu plannu 600,000 o goed, sef un ar gyfer pob plentyn o dan 16 oed, ac yn fwy uchelgeisiol, rhoddir cyfle i o leiaf 50,000 o blant eu plannu nhw.
diwedd
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
Ben Earl (Swyddog Datblygu Rhanbarthol, Coed Cadw) ar 01903 505169
Rhydian Roberts (Swyddog Coedlannau, Coed Cadw) ar 01745 818808
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-bost
media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau i olygyddion:
1. Saif yr estyniad newydd i’r gorllewin i goedlan bresennol Coed Tregib, ac i’r dwyrain i Ysgol Tregib, tua hanner milltir i’r de-ddwyrain i Landeilo, wrth gyfeirnod grid SN 634 217, ar fap Landranger yr Arolwg Ordnans rhif 159.
2. Coedlan bresennol Coed Tregib oedd un o’r coedlannau cyntaf a brynodd Coed Cadw yng Nghymru, yn 1983. Mae’n rhan o’r ardal fwyaf o goetir yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin, ac mae hi o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r goedlan yn sefyll ar rediad graddol yn wynebu tua’r gogledd, a groesir gan gwm bas gyda nant yn llifo tua’r gorllewin. Mae llawer o’r safle yn wastad yn wlyb, gyda phriddoedd clai trwm. Mae’r coetir hynafol yn goetir derw ac onn yn bennaf gyda choed coll wedi’u prysgoedio, wedi’i gymysgu â choetir gwlyb gyda choed gwern. Mae’r goedlan yn amrywiol yn fotanegol gyda thros 100 o rywogaethau gwahanol wedi’u cofnodi. Cofnodwyd pathewod ar y safle hefyd. Mae gwerth bioamrywiaeth y safle yn fwy byth gan fod yna fignen o fewn y safle, sy’n cynnal amrediad o blanhigion y gors. Fel y rhan fwyaf o safleoedd Coed Cadw, mae Coed Tregib ar agor i bawb ymweld â fe a hynny ar unrhyw adeg ac am ddim.
3. Fe all teuluoedd, ysgolion a phlant ddysgu mwy a pharatoi am benwythnos Coed i Bawb sydd yn digwydd rhwng 18-23 Tachwedd. Os nad oes modd i chi fynychu digwyddiad plannu coed fe allwch chi wneud gwahaniaeth trwy blannu coeden gartref, yn yr ysgol, yn y gymdogaeth neu hyd yn oed ar-lein. I ddarganfod mwy am Goed i Bawb, cysylltwch â www.treeforall.org.uk neu ffoniwch 0845 108 1428.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys 129 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.