|

Mes Coed Gwent

29 Tachwedd 2006

Tyfir coed derw tal o fes bach - yng Nghoed Gwent

Plant yn efelychu byd natur wrth helpu i adfer Coed Gwent

Mae dros 250 o blant o saith (1) ysgol gynradd leol yn torchi llewys yr wythnos hon i gymryd rhan yng ngwaith Coed Cadw (the Woodland Trust) i adfer Coed Gwent. Maen nhw’n ymweld â’r safle ac yn plannu mes fydd, gyda lwc, yn tyfu i fod yn goed derw anferth fydd yn y pendraw yn cymryd lle’r coed conwydd sy’n gorchuddio’r goedwig ar hyn o bryd.

Mae’r ymweliadau yn rhan o Goed i Bawb (2), ymgyrch uchelgeisiol Coed Cadw, sydd â’i fryd ar blannu coeden ar gyfer pob plentyn yn y DU dros gyfnod o bum mlynedd, sef 12 miliwn yn gyfangwbl, a rhoi cyfle i filiwn o blant gymryd rhan yn y gwaith yma. Y bwriad yw helpu cenhedlaeth newydd o blant i ailgysylltu â byd natur a chael hwyl yn gwella eu hamgylchedd lleol nhw.

Mae’r coed derw newydd eu plannu yn manteisio ar fylchau bychain yng ngorchudd y coed conwydd grëwyd gan fyfyrwyr o Goleg Brynbuga, a gafodd y cyfle i ddefnyddio eu sgiliau gyda’r llif gadwyn, a ddygwyd yn ddiweddar, yn gynharach eleni. Fe wnaeth y fyfyrwyr yr hyn a elwir yn “deneuo eurgylch”; sef tynnu allan y conwydd sy’n taflu cysgod trwchus dros yr ychydig o goed brasddeiliog a’r ardaloedd o lystyfiant coetir hynafol sydd wedi goroesi ar lawr y goedwig.

Dywed Mr Gareth Atwell, prifathro Ysgol Gynradd Magwyr: “Rydyn ni’n awyddus iawn i wneud gwaith i ddiogelu’r amgylchedd a hybu datblygiad cynaladwy, ac mae’n cysylltiadau ni gyda Choed Cadw yn hollbwysig yn hyn o beth. Mae’r plant yn edrych ymlaen yn fawr at ymweld â Choed Gwent, dysgu mwy am y goedwig a hefyd chwarae rhan yn y gwaith o adfer y goedwig i’w gogoniant blaenorol.”

Fe gwblhaodd Coed Cadw bryniant 352 hectar (870 erw) o Goed Gwent ym mis Ionawr eleni, yn dilyn ymgyrch lwyddiannus i Achub Coed Gwent a lansiwyd ym mis Mehefin y llynedd. Mae Coed Cadw wedi talu teyrnged i bobl leol am yr ymateb llethol i’r ymgyrch. Fe gododd yr ymgyrch codi arian lleol dros £100,000, tra bod dros 30,000 o roddion unigol wedi cael eu derbyn oddi wrth bobl ar hyd a lled Gwledydd Prydain a’r byd.

Roedd yn rhaid i Goed Cadw godi o leiaf £1.5 miliwn i sicrhau pryniant y goedwig a dechrau’r gwaith adfer. Mae’r gefnogaeth hon yn cynnwys cyfraniadau a grantiau o Tubney Charitable Trust, GrantScape, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, the Hickinbotham Charitable Trust, yr Oak Foundation a nifer o ymddiriedolaethau eraill.

Er mai Coed Gwent yw coedwig hynafol mwyaf Cymru (3), fe gafodd y rhan fwyaf o’r coed conwydd eu cwympo yn y ganrif ddiwethaf, gan fygwth y bywyd gwyllt prin a gysylltir â choetir hynafol. Bwriad Coed Cadw yn awr yw adfer Coed Gwent ac er bod hyn yn dasg enfawr, mae’r achlysur plannu hwn yn dangos fod yr elusen yn benderfynol o roi cyfle i’r gymuned leol gymryd rhan yn y prosiect.

Fel bron pob un o goedlannau Coed Cadw, mae Coed Gwent ar agor i cyhoedd ymweld â fe ar unrhyw adeg, ac am ddim. Mae Coed Cadw wedi sefydlu gwefan ddwyieithog arbennig ar gyfer y safle wrth: www.wentwoodforest.org.uk Mae hon yn cynnwys amrediad eang o wybodaeth am y safle a’r ymgyrch i’w ddiogelu, gan gynnwys cynlluniau Coed Cadw i’w adfer, ei hanes, sut i gyrraedd y lle a map.
(diwedd)

Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH

Jon Winder, sy’n rheoli’r safle i Goed Cadw, ar 01600 719281

Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121

Nodiadau i olygyddion

1. Dyma restr o’r ysgolion sy’n cymryd rhan yn yr wythnos blannu mes: Ysgol Gynradd Magwyr, Casnewydd; Ysgol Gynradd Fairwater, Torfaen; Ysgol Gynradd St Peter’s, Torfaen; Ysgol Gynradd Garnteg, Torfaen; Ysgol Gynradd Trellech, Sir Trefynwy ac Ysgol Gynradd Clytha, Casnewydd. Trefnir yr ymweliadau gan Goed Cadw, yn gweithio gyda Cambium Sustainable Landscapes, sydd yn arbenigo mewn trefnu digwyddiadau addysg fel hyn.

2. Mae rhagor o wybodaeth am Goed i Bawb ar gael o wefan www.treeforall.org.uk/cymru

3. Mae coetir hynafol yn un o’r cynefinoedd cyfoethocaf i fyd natur sy’n bodoli yn y DU. Dyma’r peth agosaf sydd gennym i goedwig law drofannol. Mae Coed Gwent yn gartref i rywogaethau a amddiffynnir fel y pathew, a miloedd o rywogaethau eraill gan gynnwys 23 rhywogaeth o loÿnnod byw a 75 o rywogaeth o adar. Coed Gwent yw’r hyn sydd ar ôl o’r goedwig anferth oedd unwaith yn ymestyn o Afon Wysg i Afon Gwy.

Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.