6 Ebrill 2006
Mae coedlan Pencoedtre mor werthfawr yn ecolegol fel bod y Cyngor Cefn Gwlad yn ystyried a ddylid ei ddynodi’n SSSI
Mae Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, wedi lansio ymgyrch funud olaf i achub Pencoedtre (1), coedlan hynafol (2) ger y Barri, rhag cael ei dinistrio gan y Jac Codi Baw i wneud lle i ddatblygu tai ac unedau busnes. Achos prawf allweddol fydd hwn i weld a fydd polisi swyddogol y Cynulliad i amddiffyn coetir hynafol yn cael ei weithredu yn ymarferol.
Cyflwynwyd cais cynllunio i ddatblygu coedlan Pencoedtre, fyddai’n dinistrio 9.4 hectar (23 erw) o’r goedlan, yn ogystal â diraddio’r 6.3 hectar (15 erw) o goetir fyddai’n goroesi, trwy ei dorri’n ddarnau bychain. Dyma’r colled mwyaf o goetir hynafol yng Nghymru, o bell, ers i’r Cynulliad ddiogelu coetir hynafol o dan y drefn gynllunio yn 2002.
Ond gan fod Cynllun Datblygu Unedol Bro Morgannwg yn dyrannu’r tir ar gyfer datblygiad, mae yna berygl go iawn y bydd y cais yn cael ei ganiatáu. A hynny yn wyneb y ffaith mai coetir hynafol yw’r tir, a felly mae ganddo werth ecolegol enfawr, nid oes modd ei ail-greu, a fod polisi cynllunio’r Cynulliad Polisi Cynllunio Cymru (3) i fod i amddiffyn pob darn o goetir hynafol yng Nghymru.
Yn awr mae Coed Cadw yn erbyn ar bobl leol i ysgrifennu at Gyngor Bro Morgannwg i leisio gwrthwynebiad i’r cynllun.
Y newyddion diweddaraf yw fod llygedyn o obaith wedi ymddangos ar y gorwel yn y mis diwethaf; ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf fe ryddhaodd Cyngor Bro Morgannwg adroddiad ecolegol am goedlan Pencoedtre, a gomisiynwyd gan y Cyngor ei hun. Mae hwn yn cadarnhau fod y goedlan yn hynafol, ac o werth ecolegol uchel iawn, gan danseilio awgrymiadau i’r gwrthwyneb gan y datblygwyr. Yn wir, mae’r adroddiad yn pwysleisio gwerth y goedlan mor glir fel bod y Cyngor Cefn Gwlad wrthi’n awr yn pwyso a mesur ei phwysigrwydd mewn cyd-destun cenedlaethol. Fe allai’r broses hon arwain at ei dynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Nid yw hyn yn digwydd yn aml y dyddiau hyn, ac mae hyn felly yn danlinelli pwysigrwydd yr achos.
Yn yr arolwg, canfuwyd dim llai 46 rhywogaeth o blanhigion a gysylltir yn arbennig â choetir hynafol, gan gynnwys tegeirian llydanwyrdd, suran y coed, a bresych y cŵn. Yn gyfangwbl, canfuwyd 126 rhywogaeth wahanol o blanhigion fasgwlaidd, yn ogystal â 71 o rywogaethau o fwsoglau a lysiau’r afu a 22 o rywogaethau o adar.
Dywed Rory Francis o Goed Cadw: “Rydan ni’n deall fod gan goedlan Pencoedtre hanes cynllunio cymhleth, ond mae’r adroddiad diweddaraf yn dangos yn glir pa mor arbennig y mae’r goedlan hon i fyd natur. Mi fuasai dinistrio’r goedlan hynafol hon i wneud lle i dai ac unedau busnes yn fandaliaeth llwyr, yn arbennig gan bod safleoedd eraill, tir brown, yn bodoli.
“Yr hyn sy’n ein poeni ni fwyaf am yr achos yma yw’r perygl y gall y Swyddogion Cynllunio deimlo nad yw pobl leol yn malu llawer am goedlan Pencoedtre. Gobeithio’n fawr y bydd ugeiniau o bobl yn mynd ati i ysgrifennu llythyr, i ddangos yn glir iddyn nhw nad yw hyn yn wir!”
diwedd
Eisiau gweithredu i helpu achub y goedlan hon?
Is-lwythwch lythyr i'w ddanfon at Gyngor Bro Morgannwg, i wrthwynebu'r cais cynllunio hwn.
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-bost
media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau i olygyddion:
1. Saif coedlan Pencoedtre dipyn i’r gogledd i’r Barri wrth gyfeirnod grid ST 126 706. Gellir is-lwytho map digidol ohoni o wefan multimap.
2. Diffinnir coetir hynafol fel tir sydd wedi bod yn goediog yn ddi-baid ers o leiaf 400 o flynyddoedd. Dyma’r cynefin cyfoethocaf i fyd natur yn y DU, y peth agosaf sy gennym i goetir glaw trofannol.
3. Datgan paragraff 5.2.8 o Bolisi Cynllunio Cymru yn glir: “Mae coetiroedd hynafol a lled-naturiol yn gynefinoedd na ellir eu hadfer sy’n werthfawr iawn am eu bioamrywiaeth a dylid eu diogelu rhag datblygiad a fyddai’n achosi difrod sylweddol.”
4. Ceir rhagor o wybodaeth am coetir am fygythiad, yn Gymraeg ar wefan www.woodland-trust.org.uk/woodsunderthreat/cymraeg.htm
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros gant o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion o Goed Cadw yng Nghymru, yn Gymraeg, ar wefan www.coedibawb.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.