7 Chwefror 2006
Dull newydd o blannu yn amddiffyn glasbrennau rhag defaid ar fynyddoedd Cymru, ac fe all fod yn rhan o Dir Gofal
Mae ffermwyr yn cymeradwyo dull newydd, a hynny am resymau amgylcheddol ac amaethyddol
Mae ffermwyr yn Eryri sydd yn dod i mewn i gynllun amaeth-amgylcheddol Tir Gofal, neu y mae eu contractau Tir Gofal yn cael eu hadolygu, yn cael cyfle newydd i wella’r amgylchedd lleol trwy blannu coed ar eu ffermydd, a hynny heb y gost o godi ffensys newydd.
Dyma neges taflen newydd (1) a gynhyrchwyd gan Goed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, fel rhan o’i hymgyrch newydd Coed i Bawb (2). Mae Coed Cadw wedi cydnabod potensial y dull hwn i greu tirluniau mwy amrywiol a deniadol, a hynny trwy blannu coed ar ochrau bryniau a borir gan anifeiliaid. Mae’r elusen wedi cynhyrchu taflen i’w dosbarthu gan Dir Gofal i ffermwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri (3).
Yn ogystal â darparu pren a thanwydd gwerthfawr, fe all coed gyfoethogi’r tirlun, gwella’r pridd a chynnal byd natur. Nid yw coed gwasgaredig yn lleihau gwerth tir o ran pori, ac fe all hyd yn oed grwpiau bychain o goed gysgodi da byw, sydd yn bwysig iawn, gan wella eu tyfiant a’i cyflwr.
Datblygwyd y dull o Blannu Heb Ffensys gan yr elusen leol Bugeiliaid y Coed. Mae’n efelychu’r ffordd y mae coed hunan-heuedig yn sefydlu eu hunain yn naturiol ar ffermdir sy’n cael ei bori. Gellir plannu coed o un metr o uchder, neu dipyn bach yn uwch, ar dir serth, yn pwyntio allan, yn hytrach na phwyntio’n syth i fyny, fel bod y blagur uchaf allan o gyrraedd defaid a gwartheg. Mae coed fel hyn gyda siâp sabr ac fe ellir eu gweld yn tyfu yn y rhan fwyaf o gymoedd ar hyd a lled Cymru.
Diolch i waith Bugeiliaid y Coed, a rheolwr gweithredoedd yr elusen, Steve Watson, mae plannu heb ffensys wedi cael ei gydnabod fel prosiect arbennig o fewn Tir Gofal, sy’n golygu y gellir ei ariannu trwy’r cynllun. Fe all ffermwyr gael cyngor a chefnogaeth gyda phlannu heb ffensys oddiwrth Fugeiliaid y Coed, a fe all y gwaith plannu gael ei wneud gan gontractwr, neu gan yr elusen ei hun.
Un ffermwr sydd wedi trefnu fod coed yn cael eu plannu ar ei dir gan Fugeiliaid y Coed yw Iwan Huw Jones, o Gefnfaes, Tanygrisiau. Mae’n dweud: "Mae’r syniad o blannu coed fel hyn yn apelio ataf i fel ffarmwr. Mae’r coed yn cynnig cysgod i ddefaid, mae’r dull yma o blannu yn osgoi’r gost uchel o osod ffensys ac tydi’r ffarm ddim yn colli tir pori. Mae Bugeiliaid y coed wedi plannu cannoedd o goed ar fy fferm dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, ac maen nhw goed fawr, ac yn tyfu’n iach erbyn hyn. Mi fuaswn i’n cymeradwyo’r dull yma o blannu, a Bugeiliaid y Coed, i ffermwyr eraill."
Mae Rory Francis, swyddog cyfathrebu efo Coed Cadw yn ychwanegu: "Dwi’n gwybod fod yna lawer o ffermwyr yn Eryri sy’n awyddus iawn i wneud yr hyn fedran nhw wneud i wella’r tirlun a gwerth eu ffermydd ar gyfer byd natur, o fewn cyd-destun ffermio masnachol. Y fantais fawr o blannu heb ffensys yw ei fod yn eu galluogi i wneud hynny heb y gost o ffensio, heb newid eu dulliau ffermio yn sylweddol, a gan ddefnyddio pres o Dir Gofal. Felly, dwi’n gobeithio y bydd yna dipyn go lew o amaethwyr Eryri yn manteisio ar y cyfle hwn."
Fe ddylai unrhyw amaethwr neu dirfeddiannwr sy’n dymuno cael rhagor o wybodaeth am blannu heb ffensys gysylltu â Bugeiliaid y Coed ar 01766 771565 neu treeshepherds@btopenworld.com
end
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-bost
media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau i olygyddion:
1. Yn anffodus mae’r daflen ei hun yn ffeil rhy fawr i’w yrru ar e-bost. Mae’r testun a rhai o’r lluniau, fodd bynnag, ynghlwm wrth y datganiad newydd hwn. Mae’r lluniau gan Marged Wynn. Gellir yrru copi llawn ar y ffacs neu trwy’r post os cysylltwch â Rory Francis, gweler uchod.
2. Ymgyrch plannu coed uchelgeisiol newydd yw Coed i Bawb, sy’n anelu at blannu un goeden ar gyfer pob plentyn yn y DU dros gyfnod o bum mlynedd, sef 12 miliwn o goed yn gyfangwbl, a rhoi’r cyfle i o leiaf miliwn o blant i helpu yn y dasg. I ddarganfod mwy am brosiect Coed i Bawb, ewch i www.treeforall.org.uk/ neu ffoniwch 0845 108 1428.
3. O dan reolau’r UE, ni chaiff Tir Gofal ddosbarthu taflen a gynhyrchir gan Fugeiliaid y Coed ei hun, gan fod yr elusen yn gweithredu fel contractwr hefyd, yn plannu coed ei hun.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros gant o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk/ Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw "coed cadw" a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.