9 Rhagfyr 2005
Plant Llanfair-ym-Muallt yn mynd ati i blannu coed ar faes Sioe Frenhinol Cymru
Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn nodi ei chanmlwyddiant trwy blannu coed
Fe fydd plant o ddwy ysgol leol yn mynd ati Dydd Gwener yma, fel rhan o’r dathliadau i nodi canmlwyddiant Sioe Frenhinol Amaethyddol y llynedd.
Fe gysylltodd Coed Cadw (the Woodland Trust) â Sioe Frenhinol Amaethyddol y llynedd i awgrymu y gellid nodi’r pen-blwydd pwysig yma trwy blannu 100 o goed brodorol ar faes y Sioe. Fe fydd yr syniad yma’n dwyn ffrwyth Dydd Gwener yma, ond fe gaiff cyfanswm 340 o goed eu plannu, a hynny gan blant o ddwy ysgol gynradd leol, sef Llanelwedd a Llanfair-ym-Muallt.
.
Mae’r plannu yma’n rhan o rhan o ymgyrch uchelgeisiol Coed i Bawb1, sydd a’i fryd ar blannu coeden ar gyfer pob un plentyn yn y DU dros gyfnod o bum mlynedd, sef 12 miliwn o goed, ac i sicrhau fod miliwn o blant yn helpu i wneud hyn. Y bwriad sicrhau fod y genhedlaeth newydd o bobl ifainc yn gael y cyfle i ailgysylltu â byd natur a chael hwyl yn gwella eu hamgylchedd lleol.
Mae Roger Nock yn Gyfarwyddwr Anrhydeddus – Coedwigaeth Cymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru. Mae’n dweud: “Mae coedwigaeth a choed yn rhan allweddol o economi gwledig Cymru yn ogystal â thirlun Cymru. Roeddwn i’n arbennig o awyddus roi’r cyfle i blant blannu’r coed yma oherwydd, yn anffodus, fe drodd cenedlaethau diweddar gryn dipyn o goetir hynafol yn dir fferm. Fe all coed fod yn ffynhonnell o incwm, tanwydd a chysgod i dda byw, ac mae ffermydd sydd heb goetir ar eu colled.”
I wneud yn siŵr fod pob ysgol a grŵp ieuenctid yn cael y cyfle i gymryd rhan yn ymgyrch Coed i Bawb, mae Coed Cadw’n cynnig pecynnau am ddim o 30 o goed bach i’w defnyddio i blannu darn bach o berth neu brysglwyn. Fe ddylai ysgolion a grwpiau ieuenctid sydd eisiau manteisio ar y cyfle hwn fynd i wefan:
www.woodland-trust.org.uk/hedge a llenwi’r ffurflen ar-lein. Mae’r pecynnau hyn yn dod gyda cyfarwyddyd ar sut i blannu a chynnal y coed, yn ogystal â gweithgareddau dwyieithog sy’n cysylltu â’r cwricwlwm cenedlaethol. Gellir is-lwytho’r dogfennau hyn yn syth o’r we wrth gyfeiriad: www.wild-about-woods.org.uk
diwedd
Dylai’r cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis (Swyddog Cyfathrebu) ar 01766 832563 neu 07760 171174
Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3RH
E-bost roryfrancis@woodland-trust.org.uk
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-mail media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau ar gyfer olygyddion:
1. Am ragor o wybodaeth am Goed i Bawb ewch i: www.treeforall.org.uk
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.
Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Cyf
Mae’r Gymdeithas yn elusen gofrestredig. Ei hamcanion yw hybu amaeth, garddwriaeth, coedwigaeth a chadwraeth. Cynhelir Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ar safle parhaol yn Llanelwedd ger Llanfair-ym-Muallt, a hi yw’r prif ffenestr siop ar gyfer amaeth yng Nghymru. Mae’n denu dros 200,000 o ymwelwyr, hyd at 7,000 o geisiadau yn y cystadlaethau da byw a thros 1000 o stondinau masnach ynghyd ag adrannau sy’n ymhél â phob agwedd ar amaethyddiaeth a bywyd gwledig yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o wefan: www.rwas.co.uk