18 Rhagfyr 2007
Lansio cynllun coeden i bob plentyn
Heddiw, cyhoeddodd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, y bydd y cynllun arloesol i blannu coeden am bob baban newydd a phob plentyn a gaiff ei fabwysiadu yng Nghymru yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd, gan greu cysylltiad cryf rhwng plant a’u hamgylchedd.
Cyhoeddwyd y cynllun, Plant!, ym mis Chwefror eleni yn wreiddiol, ac mae’n un o ymrwymiadau rhaglen Cymru’n Un fel rhan o ymgyrch Llywodraeth y Cynulliad i gael amgylchedd cynaliadwy. Drwy blannu hyd at 30 hectar o goetir newydd bob blwyddyn, bydd y cynllun yn cyfrannu’n sylweddol at greu Coedwig Genedlaethol o goed brodorol yng Nghymru.
Mae tua 35,000 o blant yn cael eu geni neu eu mabwysiadu yng Nghymru bob blwyddyn, a phan gaiff Plant! ei roi ar waith, bydd teulu pob plentyn a gaiff ei eni neu ei fabwysiadu yn derbyn tystysgrif yn dweud wrthynt lle mae coeden eu plentyn wedi’i phlannu a sut y gallant fynd i ymweld â’r safle. Mae’r cynllun wedi’i sefydlu ar ran Llywodraeth y Cynulliad gan Goed Cadw a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Natalie Vaughan, merch ysgol o Gaerdydd, gafodd y syniad yn wreiddiol ac ymunodd â’r Prif Weinidog heddiw ar safle Coed Cadw, Cefn Ila ger Brynbuga, sef un o’r safleoedd dynodedig cyntaf ar gyfer Plant! Aeth y ddau ati i blannu coeden gyda chymorth disgyblion Ysgol Llanfair Cilgedin.
Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae’r cynllun hwn o fudd inni i gyd, gan ei fod nid yn unig yn cyfrannu i’r broses o adfywio ein coetiroedd brodorol ond hefyd yn cysylltu plant â’r amgylchedd naturiol. Wrth iddynt dyfu’n hŷn, fe fyddan nhw’n gallu dilyn hynt safle eu coeden eu hunain a gwerthfawrogi pwysigrwydd gwarchod a chefnogi ein rhywogaethau o blanhigion a bywyd gwyllt brodorol.
“Bydd Plant! yn cysylltu pobl ifanc â byd natur, a bydd hefyd yn dangos sut y gallan nhw gymryd camau drostyn nhw’u hunain er mwyn gwneud eu cymunedau lleol yn well llefydd yn amgylcheddol.”
Dywedodd Jerry Langford o Goed Cadw: “Mae symboliaeth plannu coeden pan gaiff plentyn ei eni yn nodi dechrau ei fywyd â gweithred amgylcheddol gadarnhaol. Bydd yn ysbrydoli pob teulu sy’n rhan o’r prosiect i gymryd camau cadarnhaol pellach.”
O 1 Ionawr, 2008, bydd rhieni pob plentyn a gaiff ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru yn derbyn tystysgrif yn nodi bod coeden wedi’i phlannu ar ei gyfer. Caiff mwy o wybodaeth am sut i ymweld â’r safle ac am fod yn rhan o’r prosiect ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth y Cynulliad: www.cymru.gov.uk/plannwchgoeden Bydd digwyddiadau plannu yn cael eu trefnu’n lleol gan gymunedau ac ysgolion i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r prosiect a’i amcanion.
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
Neu Lea Hughes ar 02920 232242
Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121
Lluniau
Gellir dadlwytho lluniau cydraniad canolog o'r digwyddiad isod:
Rhodri Morgan yn plannu coeden gyda Natalie Vaughan (canol)
Rhodri Morgan yn lansio'r cynllun gyda phlant Ysgol Llanfair Cilgedin
Rhodri Morgan yn lansio'r cynllun gyda phlant Ysgol Llanfair Cilgedin
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.