23 Hydref 2007
Plant lleol yn mynd yn wyllt i blannu coed
Plant y Barri yn cael y cyfle i gwrdd â’r awdur lleol Richard Berry, wrth iddyn nhw blannu coed eu hunain i ddathlu sialens ddarllen yr haf - y Big Wild Read
Trwy’r haf mae plant ar hyd a lled Cymru wedi bod yn brysur yn ennill ‘tocynnau coed’ a hynny trwy gymryd rhan yn y Big Wild Read trwy eu llyfrgelloedd lleol. Mae pob llyfr maen nhw wedi ei ddarllen wedi ennill tocyn sy’n cyfrannau at blannu 20,000 o goed mewn coedlannau ar draws y DU yr hydref yma.
Yn y Barri, fodd bynnag, fe gafodd plant o Ysgol Gynradd Holton Road y cyfle bellach i blannu coed eu hunain fel rhan o’r Big Wild Read. Fe wnaethon nhw hyn ym Mharc Gwledig Porthceri lle mae Coed Cadw (the Woodland Trust) wedi ymuno â Chyngor Bro Morgannwg, sy biau’r tir, i blannu 16,400 o goed gyda 2,500 o blant i greu 37 erw (15 hectar) o goetir brodorol newydd.
Mae Sialens Ddarllen yr haf yn cael ei redeg gan yr Asiantaeth Ddarllen, a’r nod yw annog plant ar hyd a lled Prydain i fynd ati i ddarllen. Mae sialens y flwyddyn hon, y Big Wild Read, yn cael ei gefnogi gan ymgyrch Coed i Bawb sy’n cael ei redeg gan Goed Cadw. Dyma’r fenter plannu coed i blant fwyaf a welwyd erioed yn y DU, a’r nod yw plannu 12 miliwn o goed.
“Mae mwy o blant wedi cymryd rhan yn y Big Wild Read, i ‘newid dy fyd’ nag erioed o’r blaen. Maen nhw’n wedi cael eu hysbrydoli i wneud gwahaniaeth i’w hamgylchedd, gan gynnwys trwy helpu i blannu coed”, medd Lynne Taylor o’r Asiantaeth Ddarllen.
Mae’r Big Wild Read yn cysylltiedig â menter amgylcheddol y BBC ‘Llefydd i Natur’, www.bbc.co.uk/breathingplaces sy’n annog pobl i gysylltu â byd natur. Mae’n rhan o bartneriaeth newydd rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus a BBC Vision Learning, sy’n cael ei arwain gan yr Asiantaeth Ddarllen.
Mae Meriel Robson o Goed Cadw yn ychwanegu: “Rydyn ni wrth ein bodd i allu roi cyfle i’r plant i blannu coed trwy Coed i Bawb a’r Big Wild Read. Rydym ni’n falch hefyd fod Porthceri wedi cael ei ddewis fel un o’r coedlannau ar gyfer y prosiect. Mae llawer o blant wedi mwynhau’r sialens ddarllen trwy’r haf; dyma gyfle inni ysbrydoli rhai ohonyn nhw ymhellach trwy roi’r cyfle iddyn nhw blannu coed eu hunain.”
Cafwyd croeso i’r ffaith fod pobl ifanc a phlant yn cael y cyfle i helpu creu coetir cymunedol newydd Mhorthceri gan y Cynghorydd Gwyn John, sydd yn aelod o’r cabinet ar gyfer twristiaeth a hamdden. “Ein pobl ifanc fydd gwarchodwyr yr amgylchedd yn y dyfodol a dwi’n awyddus iawn i’w gweld nhw yn cymryd rhan mewn cynlluniau arloesol fel hwn.”
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121
Andrew Reece o’r Asiantaeth Ddarllen ar 020 8889 1292 neu ebost: andrea.reece@zen.co.uk
Nodiadau i olygyddion
Richard Berry
Aelod cychwynnol o Hijinx Theatre, Caerdydd ynghyd â thîm Theatr mewn Addysg De Morgannwg. Fe ddechreuodd Richard adrodd straeon trwy ddyfeisio gwaith drama, yn enwedig ar gyfer plant ac oedolion gyda anawsterau dysgu, ar ôl rhannu gofal a magu ei ddau blentyn. Mae Richard yn un o hoelion wyth Cylch Straeon Caerdydd, a fe sy’n arwain sesiynau Ceilidh’r People’s Palace yn Beyond the Border.
Detholiad o’i gyhoeddiadau
Cyfres Darganfod: Rhyfel ac Arfau (Dref Wen, 1980)
Branwen (UWIC, 2002)
Tower by the Sea (UWIC, 2002)
The Squeeking Beauty (Hijinx, 2005)
The Ozard Of Wiz (Hijinx, 2006)
Mae rhagor o wybodaeth ar gael o wefan Academi
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.
Yr Asiantaeth Ddarllen
Asiantaeth ddatblygu annibynnol yw’r Asiantaeth Ddarllen, yn elusen a sefydlwyd gan y Cyngor Celfyddydau yn Lloegr. Mae’n gweithio gyda llyfrgelloedd cyhoeddus yn bennaf i gyflawni ei weledigaeth, sef cymdeithas lle mae pawb â’r gallu a’r hawl i ddarllen, yn rhydd ac yn ddemocrataidd. Prif weithgareddau’r elusen yw polisi, ymchwil, eiriolaeth a phartneriaethau a rhaglenni cenedlaethol fel Sialens Ddarllen yr Haf – y cyfan gyda phwyslais ar dorri tir newydd.
Mae’r Sialens Ddarllen yn ei nawfed flwyddyn erbyn hyn, ac mae hi’n canu deuddeg gyda phlant a rhieni. Mae’n cynnig rhywbeth arbennig pan fydd plant yn ymweld â’u llyfrgell lleol yn ystod gwyliau’r haf a hynny trwy gynnig gwobrwyon am ddarllen. Y llynedd fe gymerodd 660,000 o blant ran yn Sialens Ddarllen yr Antur Ddarllen, a thros hanner ohonyn nhw’n darllen chwech llyfr neu fwy.
Llefydd i Natur a BBC Vision Learning
Partneriaeth arloesol yw Llefydd i Natur, rhwng y BBC a mudiadau byd natur a chadwraeth blaenllaw. Y nod yw creu cysylltiad rhwng pobl a byd natur a hynny mewn ffordd bleserus. Mae Llefydd i Natur yn rhan o adran BBC Vision Learning, ac mae o wedi bod yn rhedeg ers 2005. Mae prosiectau BBC Vision Learning yn gweithio gyda rhaglenni a ddarlledir, gan sicrhau fod y cyhoedd yn cael y cyfle i gymryd rhan eu hunain, yn hytrach na dim ond eu gwylio nhw adref.
Mae Llefydd i Natur gan y BBC yn cydweithio â nifer o bartneriaid darlledu fel Springwatch, Autumnwatch, CBBC a CBeebies, ynghyd â phartneriaid allanol (fel mudiadau amgylcheddol ac elusennau ayyb) – i annog pobl i fagu diddordeb mewn byd natur www.bbc.co.uk/breathingplaces