|
 

Plant ac oedolion Llandeilo

Plant ac oedolion Llandeilo yn cwrdd a her Coed i Bawb

Pobl leol, a’u cynrychiolwyr etholedig, yn gwneud eu gorau glas dros yr amgylchedd lleol, mewn digwyddiad plannu coed Dydd Sul y 21 Tachwedd, a hefyd mewn digwyddiadau arbennig i ysgolion a y Dydd Llun a’r Dydd Mawrth wedyn

Yn dilyn ymgyrch cymunedol llwyddiannus i ymestyn Coed Tregib 1 , sef coedlan ar gyffiniau Llandeilo sydd yng ngofal Coed Cadw (the Woodland Trust), estynnir gwahoddiad i bobl leol i ddod i helpu plannu’r safle gyda choed brodorol mewn digwyddiad plannu cyhoeddus Dydd Sul y 23 Tachwedd, rhwng 11 o’r gloch y bore a 4 yn prynhawn. Fe fydd yna ddigwyddiadau plannu i ysgolion lleol ar y Dydd Llun a Mawrth wedyn.

Wedi’i drefnu gan Goed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, mae hyn yn rhan o Coed i Bawb 2, sef ymgyrch plannu coed uchelgeisiol sy’n anelu at blannu un goeden ar gyfer pob plentyn yn y DU dros gyfnod o bum mlynedd, sef 12 miliwn yn gyfangwbl, ac i roi cyfle i filiwn o blant gymryd rhan yn hyn eu hunain.

Fe fydd Coed Cadw yn ymestyn Coed Tregib rhyw 12 o hectarau (32 erw), gan roi’r cyfle i gannoedd o blant lleol i gymryd rhan, yn plannu 4,000 o goed brodorol ar y safle, sef coed gwern, helyg , derw ac onn yn bennaf, gydag amrywiaeth o brysgwydd eraill. Fe fydd hyn yn dod â Choed Tregib yn nes at dref Llandeilo, gan ei gwneud hi’n haws i’w gyrraedd gan bobl leol, a hynny trwy hwyluso darpariaeth llwybr rhwng y dref a’r goedlan, ac ar hyd Afon Tywi, am y tro cyntaf erioed. Fe fydd e hefyd yn creu cynefin newydd i fywyd gwyllt, yn arbennig dyfrgwn, gan fod y tir mewn cwestiwn yn gorwedd rhwng coedwig bresennol Coed Tregib ac Afon Tywi. Mae pwysigrwydd y tir hwn i fywyd gwyllt yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith fod coedlan Coed Tregib bresennol wedi cael ei dynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Dywed Rhydian Roberts o Goed Cadw: "Mae Coed Cadw yn ddiolchgar i bawb, ac i bob corff ariannu, sydd wedi cefnogi’r ymgyrch i ymestyn Coed Tregib. Mae llawer o waith caled wedi’i wneud. Bellach, mae pobl leol yn cael y cyfle i ddathlu’r llwyddiant yma trwy fynd ati i blannu rhai o’r coed y bydd rhaid eu plannu i greu’r coetir newydd yma."

Dywed Rhodri Glyn Thomas, Aelod y Cynulliad ar gyfer Dwyrain Sir Gaerfyrddin a Dinefwr, fydd yn plannu coeden Dydd Sul: "Fe ges i’r cyfle i ymweld â Choed Tregib y llynedd, a chlywed am gynlluniau Coed Cadw i ymestyn y goedlan. Dwi’n falch o glywed fod yr ymgyrch wedi llwyddo dros y flwyddyn ddiwethaf. Dwi’n awyddus i blannu coeden ar y safle, i helpu i greu amgylchedd gwell i bobl Llandeilo, a chynefin estynedig i fywyd gwyllt.

Mae Coed Cadw yn ddiolchgar i’r holl gyrff ariannu, ac unigolion, sydd wedi cefnogi’r ymgyrch i ymestyn y safle, a thrwy hynny, gwneud y cynlluniau hyn yn bosibl, yn arbennig felly Asiantaeth yr Amgylchedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Yr Undeb Ewropeaidd trwy Amcan 1, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Y Comisiwn Coedwigaeth a channoedd o bobl a chyrff lleol.

Fe gaiff y rhai sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad adael eu ceir ym maes parcio Ysgol Tregib, drws nesaf i’r safle. Fe fydd yna arwyddion i’r safle o ganol Llandeilo, i’r rhai hynny sydd eisiau dewis yr opsiwn iach, amgylcheddol, a cherdded. A fyddech cystal â gwisgo esgidiau addas a dillad pwrpasol. Mae croeso i blant ac oedolion hawdd eu hanafu, os byddan nhw’n dod gyda oedolyn cyfrifol sy’n aros gyda nhw.

Mae manylion pellach am y diwrnod ar gael oddiwrth Rhydian Roberts ar 01745 818808 neu 07884 113821.

Mae’r digwyddiadau plannu hyn yng Nghoed Tregib yr hydref yma yn rhan o Benwythnos Coed i Bawb, gyda channoedd o ddigwyddiadau tebyg wedi’u cynllunio ar hyd a lled y wlad. Fe gaiff rhagor o goed eu plannu yng Nghoed Tregib yn ystod gwanwyn 2005.

diwedd

Fe all y cyfryngau gysylltu â:Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH

Ben Earl (Swyddog Datblygu Rhanbarthol, Coed Cadw) ar 07767 411769

Rhydian Roberts (Swyddog Coedlannau, Coed Cadw) ar 01745 818808

neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-bost

media@woodland-trust.org.uk

Nodiadau i olygyddion:

1. Coedlan bresennol Coed Tregib oedd un o’r coedlannau cyntaf a brynodd Coed Cadw yng Nghymru, yn 1983. Mae’n rhan o’r ardal fwyaf o goetir yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin, ac mae hi o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r goedlan yn sefyll ar rediad graddol yn wynebu tua’r gogledd, a groesir gan gwm bas gyda nant yn llifo tua’r gorllewin. Mae llawer o’r safle yn wastad yn wlyb, gyda phriddoedd clai trwm. Mae’r coetir hynafol yn goetir derw ac onn yn bennaf gyda choed coll wedi’u prysgoedio, wedi’i gymysgu â choetir gwlyb gyda choed gwern. Mae’r goedlan yn amrywiol yn fotanegol gyda thros 100 o rywogaethau gwahanol wedi’u cofnodi. Cofnodwyd pathewod ar y safle hefyd. Mae gwerth bioamrywiaeth y safle yn fwy byth gan fod yna fignen o fewn y safle, sy’n cynnal amrediad o blanhigion y gors. Fel y rhan fwyaf o safleoedd Coed Cadw, mae Coed Tregib ar agor i bawb ymweld â fe a hynny ar unrhyw adeg ac am ddim.

2. I ddarganfod mwy am brosiect Coed i Bawb, ewch i www.treeforall.org.uk neu ffoniwch 0845 108 1428.

Coed Cadw (The Woodland Trust)Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys 129 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw "coed cadw" a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.