21 Ionawr 2005
Pobl leol yn dod yn fwdlyd i greu amgylchedd gwell
Yn dilyn ymgyrch bywiog gan y gymuned leol, mae pobl leol yn cael y cyfle i blannu coed o’r diwedd
Yn dilyn ymgyrch brwdfrydig gan y gymuned leol i codi arian i alluogi Coed Cadw (the Woodland Trust) i ymestyn Granllyn Pool, sef coedlan gymunedol fach yng Nghegidfa ger y Trallwng, fe fydd pobl leol yn cael y cyfle i blannu coed o’r diwedd mewn digwyddiad plannu cyhoeddus Ddydd Sadwrn y 22 Ionawr. Gyda chefnogaeth y gymuned leol, mae coedlan Granllyn Pool yn cael ei ymestyn rhyw 1.2 hectar (3.2 acer) acer trwy blannu coed brodorol.
Wedi’i drefnu gan Goed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, mae’r digwyddiad plannu coed yma’n rhan o brosiect Coed i Bawb, sef ymgyrch plannu coed uchelgeisiol sy’n anelu at blannu un goeden ar gyfer pob plentyn yn y DU dros gyfnod o bum mlynedd, sef 12 miliwn o goed yn gyfangwbl, a rhoi’r cyfle i o leiaf miliwn o blant i helpu yn y dasg.
Yn wreiddiol, roedd y digwyddiad plannu hwn i fod i ddigwydd ar yr 20 o Dachwedd y llynedd, ond yr oedd rhaid i ohirio pan sylwodd contractwyr oedd yn paratoi’r safle fod madfallod dwr cribog yn dal yn weithgar, a heb aeafgysgu eto, yn groes i’r disgwyl. Mae’r safle hwn wedi cael ei ddynodi fod Ardal o Gadwraeth Arbennig o dan gyfraith Ewropeaidd oherwydd presenoldeb y creaduriaid hyn, sydd yn brin dros ben. Roedd hyn yn golygu fod yn berygl y gallen nhw gael eu sathru dan draed gan y rhai oedd yn cymryd rhan. Fel tirfeddiannwr cyfrifol ac elusen cadwraeth, roedd Coed Cadw’n teimlo nad oedd gennym ddewis ond gohirio’r digwyddiad plannu mawr, cyhoeddus. Bellach, fe fydd hyn yn digwydd ar yr 22 Ionawr.
Mae Rhydian Roberts yn rheoli’r safle ar ran Coed Cadw. Mae hi’n dweud: "Ar ôl yr holl waith o godi’r arian i Goed Cadw brynu’r safle, mae’n galonogol dros ben i weld y coed yn cael eu plannu o’r diwedd. Dwi eisiau diolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgyrch. Mi fedrwn ni fod yn siŵr yn bod ni wedi llwyddo i greu amgylchedd gwell yn lleol, ar gyfer y bywyd gwyllt a’r bobl hefyd!"
Mae Granllyn Pool yn un o 250 o goedlannau cymunedol ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a greuwyd fel rhan o brosiect Mileniwm Coed Cadw Coedlannau i’ch Bro. Mae’r rhan fwyaf o’r safle yn llyn bas. Nid oes nant yn llifo i mewn neu allan o’r llyn, a fel arfer fydd lefel dwr yn disgyn yn yr haf. Mae’r rhan fwyaf o’r pwll yn cael ei orchuddio gan helyg a llysiau dwr gan gynnwys cors, cynffon y gath a hesg ylfinfain. Mae’r safle yn cynnwys rhywfaint o dir sydd â gogwydd graddol o gwmpas y pwll. Cyn 1998 roedd y tir hwn wedi cael ei wella er mwyn pori gwartheg. Plannwyd y rhan fwyaf o’r tir ym mis Tachwedd 1999. Fel bron pob coedlan sy’n eiddo i Goed Cadw, mae Pen y Coed ar agor i bawb ei fwynhau, ar unrhyw adeg, a hynny am ddim. Erbyn hyn, mae ganddo fe wefan ei hun, sef:
www.wt-woods.org.uk/granllynpool Mae hon yn cynnwys amrediad eang o wybodaeth am y safle a’i reolaeth, gan gynnwys map rhyngweithiol.
diwedd
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
Ben Earl (Swyddog Datblygu Rhanbarthol, Coed Cadw) ar 07767 411769
Rhydian Roberts (Swyddog Coedlannau, Coed Cadw) ar 01745 818808
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-bost media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau i olygyddion:
1. I ddarganfod mwy am brosiect Coed i Bawb, ewch i www.treeforall.org.uk neu ffoniwch 0845 108 1428.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys 129 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw "coed cadw" a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.