9 Mawrth 2006
Dewch a chefogaeth i amathaethyddiaeth a choedwigaeth at ei gilydd i helpu cwrdd a sialens amgylcheddol, medd Coed Cadw
Mae’r Cynllun Datblygu Gwledig yn ddechreuad da, ond mae’n methu cydnabod maint yr her, medd Coed Cadw (the Woodland Trust) yn ei ymateb i’r Ymgynghoriad presennol
Mae’r amser wedi cyrraedd i gael gwared ar y gwahaniaeth artiffisial rhwng ffermdir a choetir, medd Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, yn ei ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â’r y Cynllun Datblygu Gwledig, sy’n dod i ben yr wythnos hon.
Dogfen eithaf pwysig yw’r Cynllun Datblygu Gwledig, sy’n amlinelli agwedd strategol Llywodraeth y Cynulliad tuag at ddatblygiad gwledig dros y chwe mlynedd nesaf. Mae Coed Cadw wedi cyflwyno ei ymateb, sy’n tynnu sylw at y pedwar prif bwynt uchod:
• Mae Coed Cadw’n credu fod yr amser wedi dod i uno cefnogaeth gyhoeddus ar gyfer amaethyddiaeth a choedwigaeth. Yn yr Alban, mae cynlluniau grant amaeth-amgylcheddol a choetir yn cael eu huno, yn unol â chanllawiau Ewropeaidd. Fe fuasai Coed Cadw’n cefnogi hyn, fel cam pwysig tuag at reoli cefn gwlad mewn ffordd integredig, cyfunol a chall. Dylid cael gwared ar y gwahaniaeth artiffisial rhwng ffermdir a choetir, sydd wedi para am rhy hir.
• Nid yw Coed Cadw’n credu fod y ddogfen ddrafft yn cydnabod maint yr her amgylcheddol, yn enwedig yng nghyd-destun newid yr hinsawdd. Mae dogfen y Cynulliad yn datgan fod “dros 30 y cant o dir amaethyddol Cymru o dan reolaeth amgylcheddol gynaladwy”. Awgryma hyn fod bron i 70 y cant ohono ddim yn cael ei reoli’n gynaladwy. Mae’r dirywiad mawr mewn adar ffermdir, y colled mawr o goetir hynafol ers y 1930, tua 50%, a’r ffaith fod newid yr hinsawdd yn realiti bellach, yn pwysleisio fod bioamrywiaeth o dan fwy o fygythiad yn awr nag erioed o’r blaen. Rhaid i’r Cynllun Datblygu Gwledig helpu i fynd i’r afael â’r bygythiadau hyn, a hynny trwy helpu byd natur i addasu ac ymestyn a chlustogi cynefinoedd bywyd gwyllt.
• Ychydig bach o bwyslais y mae’r ddogfen yn ei roi ar swyddogaeth a photensial y sector gwirfoddol i ymgymryd â gwelliannau amgylcheddol, a thrwy wneud hynny, cyfrannau at adfywio economaidd ardaloedd gwledig. Y llynedd, er enghraifft, fe brynodd Coed Cadw bron i hanner o Goed Gwent (1) (Wentwood), coedlan hynafol fwyaf Cymru, er mwyn ei hadfer i’w gogoniant brasddeiliog blaenorol, gan helpu i wneud gwahaniaeth ar lefel y tirwedd a defnyddio’r safle fel enghraifft o sut y gellir adfer coetir hynafol sydd wedi cael ei blannu gyda choed conwydd, a hynny gan gynnig manteision sylweddol i’r cyhoedd.
• Mae Coed Cadw yn cefnogi’r egwyddor y dylai ffermwyr dderbyn taliadau am gynnig manteision i’r cyhoedd, trwy amddiffyn a gwella cynefinoedd i fyd natur, amddiffyn gweddillion archeolegol a sicrhau mynediad ayyb. Mae rhai wedi awgrymu y gallai’r gefnogaeth ddisgyn yn fawr dros y degawd sydd i ddod. Nid yw Coed Cadw mor siŵr. Mae’r Strategaeth Amgylcheddol y mae Llywodraeth y Cynulliad newydd ei gyhoeddi yn cynnwys rhestr hir o ganlyniadau allweddol yn ymwneud a bioamrywiaeth, hydroleg a thirwedd, sydd yn gwbl ddibynnol ar sut y mae’r tir yn cael ei ffermio. Cyn belled â rydym ni’n gwybod, nid oes dim gwaith ymchwil wedi’i wneud i weld faint y buasai’n gostio i sicrhau’r canlyniadau hyn heb gefnogaeth amaethyddol, ac rydym yn meddwl y buasai’n gamgymeriad i gymryd yn ganiataol y gellid gwneud hyn yn rhatach heb hebddo fe.
“Mae’r amgylchedd gwledig yn rhan hollbwysig o economi Cymru, sy’n cyfrannu £6 biliwn i’r economi bob blwyddyn”, medd Rory Francis o Goed Cadw. “Mae yna lawer i’w groesawu yn y ddogfen, ond rydym yn teimlo y gallai fynd ymhellach o ran cwrdd â’r sialensau enfawr sy’n wynebu’n amgylchedd naturiol.
Gellir gweld yr ymateg llawn yma (Saesneg yn unig).
diwedd
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-bost
media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau i olygyddion:
1. Gweler www.savewentwoodforest.org.uk
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros gant o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan http://www.coed-cadw.org.uk/ Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.