16 Ionawr 2007
Llawlyfr newydd fydd yn helpu i ryddhau trysorau cuddiedig coedwigoedd hynafol Cymru
Llawlyfr dwyieithog a gynhyrchwyd fel rhan o brosiect Adennill ein Treftadaeth Anghofiedig – ar gael am ddim
Mae cyngor yn cael ei gynnig i’r rhai sy biau coetir hynafol (1) a blannwyd gyda choed estron, sef conwydd gan amlach, yn esbonio sut y gellir adfer y coedlannau hyn i’w gogoniant blaenorol. Daw’r cyngor mewn llawlyfr dwyieithog, lliw llawn, deniadol, a gynhyrchwyd gan Goed Cadw (the Woodland Trust) fel rhan o brosiect Adennill ein Treftadaeth Anghofiedig sy’n cael ei redeg gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, ac sy’n cael ei ariannu gan y Comisiwn Ewropeaidd (2).
Plannwyd dros 24,000 o hectarau (59,000 o erwau) o goetir hynafol Cymru gyda choed estron, sef conwydd yn bennaf, yn ystod yr ugeinfed ganrif, er mwyn cyflenwi pyst pwll oedd yn bwysig i’r genedl, a lleihau’r angen i fewnforio coed.
Ond coetir hynafol, sef coetir sydd dros 400 oed, yw’r cynefin cyfoethocaf i fyd natur sydd gennym yn y DU o ran nifer y rhywogaethau prin neu o dan fygythiad sy’n byw ynddo fe (3). Fe all coed conwydd fygwth eco-system bregus y goedwig, a hynny trwy daflu cysgod trwchus sy’n tagu blodau prin y fforest.
Ond mae gwaith yn mynd ymlaen bellach i adfer llawer o’r safleoedd hyn i’w gogoniant blaenorol, ac mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi sefydlu prosiect Adennill ein Treftadaeth Anghofiedig, sydd yn werth £2.3 miliwn, i adfer dros 4,000 o hectarau o blanhigfeydd ar goetir hynafol yng Nghymru.
Mae’r prosiect yn cynnwys adfer 4,000 o hectarau (9,846 o erwau) o goetir sydd yng ngofal y Cynulliad, a darparu grantiau i dirfeddianwyr preifat i adfer 400 o hectarau (985 o erwau) eraill.
Un tirfeddiannwr fydd yn defnyddio’r llawlyfr hwn yw Tony Powell, sydd biau nifer o goedlannau yn ne orllewin Cymru, ac sy’n defnyddio’r llyfr i gynllunio dyfodol coedlan Troserch ger Llanelli, a brynwyd yn ddiweddar er lles y gymuned leol yn Llangennech.
Mae’n dweud: “Fel rhywun sy biau coedlan yn ne orllewin Cymru, dwi’n cymeradwyo’r llawlyfr yma i bawb sy’n ymwneud â rheoli coetir. Mewn byd sy’n newid mor sydyn, rydyn ni wedi cymryd drosodd cynefinoedd ein cyd-drigolion ar y blaned, ac mae’n trachwant ni yn gyrru rhywogaethau eraill o anifeiliaid a phlanhigion i ddifodiant. Dros y 100 mlynedd ddiwethaf, rydyn ni yn y DU wedi dinistrio’r rhan fwyaf o’n coetir hynafol, ac mae’n gwbl hanfodol ein bod ni’n gweithredu i ddiogelu’r hyn sydd ar ôl.
“Rydyn ni’n cael cyngor o bob ochr am hyn o bobl fydd go brin yn mentro i mewn i goedwig go iawn. Mae’r hyn maen nhw’n ddweud yn wleidyddol-gywir, yn annelwig ac yn dryslyd. Mae Coed Cadw yn un o’r ychydig o fudiadau sydd â phrofiad ei hun o adfer coetir hynafol. Mae eu cyngor nhw yn fanwl, yn gryno ac yn ymarferol, ac fe ddylai gael ei ddarllen gan bawb sydd wrthi'n adfer coetir.”
Mae’ llawlyfr yn cael ei bostio i dros 200 o bobl, ac fe ellir ei is-lwytho o wefan Coed Cadw yn rhad ac am ddim, yn Gymraeg neu'n Saesneg.
Fe fydd prosiect Adennill ein Treftadaeth Anghofiedig yn cynnal gweithdy yn y gwanwyn i dangos i dirfeddianwyr sut y gallan nhw ddechrau adfer eu coedlannau tra’n cynyddu gwerth y cnwd. Fe gaiff y manylion eu cyhoeddi ar wefan y prosiect.
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
Neu Kath McNulty o brosiect Adennill ein Treftadaeth Anghofiedig ar:
07765 220398
Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121
Nodiadau i olygyddion:
1. Mae coetir hynafol dir sydd wedi bod yn goediog yn ddi-baid ers o leiaf 1600. Dyma un o ‘n cynefinoedd cyfoethocaf i fyd natur, gan ei fod yn cynnal mwy o rywogaethau o bryder cadwriaethol na’r un cynefin arall (232 o rywogaethau felly, yn ôl Cynllun Bioamrywiaeth y DU 1994). Mae coetir hynafol yn darparu cyswllt unigryw gyda’r goedwig wyllt gyntefig oedd yn gorchuddio’r rhan fwyaf o dir isel Prydain yn dilyn oes yr iâ ddiwethaf. Ni ellir ail-greu coetir hynafol. Mae’r ffordd y mae’r planhigion, yr anifeiliaid, yr hinsawdd a phobl yn cydymweithio’n unigryw ac maen nhw wedi datblygu dros gannoedd o flynyddoedd.
2. Mae Adennill ein Treftadaeth Anghofiedig yn derbyn grant o £1,059,586 o’r Undeb Ewropeaidd a hynny trwy Lywodraeth y Cynulliad.
3. Mae coetir hynafol yn cynnal 232 o rywogaethau sy’n cael eu cynnwys yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU, 1994, sef mwy na’r un cynefin arall.
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.