|

Sgowtiaid y Gogledd

2 Ebrill 2007

Sgowtiaid yn torchu llewys i greu coetir brodorol newydd

Partneriaeth newydd gyda Coed Cadw i ddathlu canmlwyddiant

Fe gydweithiodd oddeutu 110 o Sgowtiaid o 8 grŵp gwahanol (1) gyda Choed Chadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, Dydd Sadwrn diwethaf, i blannu coed brodorol ym Mryn Bwlan, ar dir oedd wedi’i blannu gyda choed Nadolig gynt, hanner y ffordd rhwng y Bala a Llandrillo, ym mhrydferthwch cefn gwlad Sir Feirionnydd.

Roedd yr achlysur plannu yn rhan o bartneriaeth gyda Choed Cadw (the Woodland Trust) i ddathlu canmlwyddiant Cymdeithas y Sgowtiaid, sef partneriaeth ‘Sgowtiaid i Goed’. Y bwriad yw sicrhau fod pob un o’r 400,000 o Sgowtiaid yn y DU yn cael y cyfle i blannu coeden i nodi canmlwyddiant sgowtio yn 2007. Mae’r bartneriaeth hefyd yn cynnig y cyfle i Sgowtiaid a phobl ifainc ddysgu am y chymryd rhan mewn cadwraeth coetir.

Mae’r ymgyrch blannu yn rhan o Goed i Bawb, sef y cynllun plannu coed i blant mwyaf erioed, sy’n anelu at roi’r cyfle i filiwn o blant help plannu 12 miliwn o goed ar draws y DU – sef un goeden ar gyfer pob plentyn o dan 16 oed. Plannwyd 3.5 miliwn o goed eisoes fel rhan o Goed i Bawb, 45,100 ohonyn nhw yng Nghymru.

Mae Coed Cadw yn ddiolchgar iawn i Mr Nicholas Selbie, sy biau’r safle, ac i UPM Tilhill, sy’n ei reoli o, am wneud yr achlysur hwn yn bosibl, ac i dîm Addysg Comisiwn Coedwigaeth Cymru am gynorthwyo i oruchwylio’r digwyddiad.

Ymhlith y grwpiau a gymerodd ran yn y gwaith plannu oedd grŵp y 1st Harlech.

Dywedodd Benjie Williams, sy’n rhedeg y grŵp: “Roedden ni’n awyddus i gymryd rhan achos dyma ben-blwydd y Sgowtiaid yn gan mlwydd oed. Mae’n gyfle unwaith ac am byth i’r plant yma. Dwi’n meddwl ei bod wych o beth bod y Sgowtiaid wedi bod yn mynd ers can mlynedd!”

Safle ar lethr yw Bryn Bwlan, a adwaenir hefyd fel Pale Park. Pan fydd y safle wedi’i blannu gyda choed bradddeiliog, fe fydd yn darparu cynefin gwych i fyd natur. Mae’r coed Nadolig oedd yn tyfu ar y safle gynt wedi cael eu cynaeafu’n ddiweddar, ac fe sylweddolodd Mr Selbie, y perchennog, fod yn gyfle nid yn unig i wella’r amgylchedd lleol trwy blannu coed brodorol, ond hefyd i roi’r cyfle i bobl ifainc gymryd rhan yn y gwaith trwy blannu’r coed.

Plannwyd cymysgedd o goed brasddeiliog fel derw, cyll ac ynn.

I wneud yn siŵr fod pob ysgol a grŵp ieuenctid yn cael y cyfle i gymryd rhan yn ymgyrch Coed i Bawb, mae Coed Cadw’n cynnig pecynnau am ddim o 30 o goed bach i’w defnyddio i blannu darn bach o berth neu brysglwyn. Fe ddylai ysgolion a grwpiau ieuenctid sydd eisiau manteisio ar y cyfle hwn fynd i wefan:

www.woodland-trust.org.uk/hedge a llenwi’r ffurflen ar-lein. Mae’r pecynnau hyn yn dod gyda cyfarwyddyd ar sut i blannu a chynnal y coed, yn ogystal â gweithgareddau dwyieithog sy’n cysylltu â’r cwricwlwm cenedlaethol.
(diwedd)

Fe all y cyfryngau gysylltu â:

Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH

Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121

Nodiadau i olygyddion

1. Y grwpiau oedd i fod i gymryd rhan oedd: 3rd Llandudno Junction; 1st Denbigh Brynbach;1st Chirk; 1st Harlech; 1st Shrewsbury Cubs & Beavers; 1st Bayston Hill; 1st Rhosnessney Scouts; Kinnerton Scouts

Cymdeithas y Sgowtiaid

Am wybodaeth am ddigwyddiadau “Sgowtiaid dros Goed” ewch i www.treeforall.org.uk/scouts neu www.scouts.org.uk/2007


Mae yna gyfleoedd i bobl gefnogi’r Gymdeithas y Sgowtiaid trwy wirfoddoli. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan www.scouts.org.uk

Am ragor o wybodaeth am Gymdeithas y Sgowtiaid a dathliadau canmlwyddiant a fyddech cystal â chysylltu a Swyddfa’r Wasg y mudiad ar 07977 539 630 neu wrth wefan www.scouts.org.uk

Canmlwyddiant y Sgowtiaid

• Mae 2007 yn nodi canmlwyddiant y Sgowtiaid, ac fe fydd bron i 500,000 o bobl ifainc yn cymryd rhan yn y dathliadau ar hyd a lled y DU. Fe fydd digwyddiadau yn cymryd lle trwy’r flwyddyn ar y lefel lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Un o’r prif ddigwyddiadau fydd y Jamboree Sgowtiaid y Byd a gynhelir yn Essex ar y 1af o Awst, gyda 40,000 o Sgowtiaid yn cymryd rhan o dros 200 o wledydd.

• Ar draws y byd, mae’n debyg y bydd 2007 yr enghraifft fwyaf o gydweithrediad ieuenctid ac un o’r dathliadau bydol mwyaf ers y mileniwm. Fe fydd y Canmlwyddiant yn nodi oes newydd i’r Sgowtiaid, gan gynnig cyfle i bwyso a mesur sut y cafodd y mudiad ei sefydlu, beth y mae e wedi ei gyflawni, ond hefyd i ble y mae’n mynd.

Am Sgowtio

• Mae antur yn ganolog i Sgowtio. Mae Cymdeithas y Sgowtiaid yn credu’n angerddol fod angen helpu aelodau i gyflawni eu potensial corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac ysbrydol trwy weithio mewn timau a meddwl drostyn nhw eu hunain. Fe fydd blwyddyn y canmlwyddiant yn cynnig hyd yn oed mwy o cyfleoedd i aelodau wneud hyn, gan barhau i wynebu peryglon mewn awyrgylch diogel, a chael eu blas cyntaf o gyfrifoldeb.

• Mae’r Sgowtiaid yn y DU yn cynnig dros 200 o weithgareddau. Mae hyn yn bosibl oherwydd y 100,000 o oedolion sy’n gwirfoddolwyr i’r mudiad. Mae hyn wedi helpu i sicrhau mai’r Sgowtiaid yw mudiad ieuenctid cyd-addysgiadol mwyaf yn y wlad.

• Y Sgowtiaid yw mudiad ieuenctid cyd-addysgiadol mwyaf y DU.

• Mae oedolion sy’n gweithio o fewn y Sgowtiaid yn cyfrannu dros 364 o oriau o waith gwirfoddol i’w cymunedau lleol bob blwyddyn.

• Mae nifer y gwirfoddolwyr sy’n gweithio i’r Sgowtiaid yn fwy na gweithlu’r BBC (24,000) a McDonalds (67,000) gyda’i gilydd.

• Dros y byd mae gan y Sgowtiaid dros 28 miliwn o aelodau, yn wrywaidd ac yn fenywaidd

Coed Cadw (The Woodland Trust)

Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.