|

Sgowtiaid yn plannu coed

23 Chwefror 2007

Sgowtiaid yn lansio partneriaeth newydd i ddathlu 100 mlynedd

Trwy blannu hadau dyfodol gwyrddach yng Nghoed Gwent

Fe ddaeth oddeutu 160 o Sgowtiaid o ddeg grŵp gwahanol yn cydweithio gyda Choed Chadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, Dydd Mercher diwethaf, i blannu mes fel rhan o waith Coed Cadw i adfer Coed Gwent i’w ogoniant brasddeiliog blaenorol. Fe ymwelon nhw’n â’r safle i blannu mes fydd, gyda lwc, yn tyfu i fod yn goed derw anferth fydd yn y pendraw yn cymryd lle’r coed conwydd sy’n gorchuddio’r goedwig ar hyn o bryd.

Yr achlysur plannu yma oedd dechrau partneriaeth gyda Choed Cadw (the Woodland Trust) yng Nghymru i ddathlu canmlwyddiant Cymdeithas y Sgowtiaid, sef partneriaeth ‘Sgowtiaid i Goed’. Y bwriad yw sicrhau fod pob un o’r 400,000 o Sgowtiaid yn y DU yn cael y cyfle i blannu coeden i nodi canmlwyddiant sgowtio yn 2007. Mae’r bartneriaeth hefyd yn cynnig y cyfle i Sgowtiaid a phobl ifainc ddysgu am y chymryd rhan mewn cadwraeth coetir.

Mae’r ymgyrch blannu yn rhan o Goed i Bawb, sef y cynllun plannu coed i blant mwyaf erioed, sy’n anelu at roi’r cyfle i filiwn o blant help plannu 12 miliwn o goed ar draws y DU – sef un goeden ar gyfer pob plentyn o dan 16 oed. Plannwyd 3.5 miliwn o goed eisoes fel rhan o Goed i Bawb, 45,100 ohonyn nhw yng Nghymru.

Ymhlith y grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gwaith plannu oedd grŵp Sgowtiaid cyntaf Caerllion (1). Mae Chris Mills, sy’n rhedeg y grŵp yn dod o deulu lle mae Sgowtio’n eithaf cryf: mae ei fab ieuangaf yn beaver, mae ei fam-yng-nghyfraith yn rhedeg y grŵp beavers (6-8 mlwydd oed), mae ei wraig yn rhedeg y cubs (8-10 oed) tra ei fod yntau’n rhedeg y Sgowtiaid (10-14 oed). Fe fu pob un yn plannu mes ar y 21 Chwefror. (Yn anffodus, nid oedd yr Explorers, y mae ei fab yn cyd-drefnydd ohonyn nhw, yn gallu cymryd rhan!)

Cyn y plannu fe ddywedodd: “Mae’r Sgowtiaid i gyd yn edrych ymlaen at dorchi llewys i helpu adfer Coed Gwent. Fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant Sgowtio, plannir 100 o goedlannau. Mae’n rhywbeth y bydd y Sgowtiaid yn gallu edrych yn ôl iddo yn y dyfodol a chofio eu bod yn rhan ohono fe. O dan ein rhaglen newydd, rydym ni’n cymryd rhan mewn cadwraeth a phrosiectau amgylcheddol, felly roedden ni’n awyddus iawn i gymryd rhan.

Fe gwblhaodd Coed Cadw bryniant 352 hectar (870 erw) o Goed Gwent ym mis Ionawr eleni, yn dilyn ymgyrch lwyddiannus i Achub Coed Gwent a lansiwyd ym mis Mehefin y llynedd. Mae Coed Cadw wedi talu teyrnged i bobl leol am yr ymateb llethol i’r ymgyrch. Fe gododd yr ymgyrch codi arian lleol dros £100,000, tra bod dros 30,000 o roddion unigol wedi cael eu derbyn oddi wrth bobl ar hyd a lled Gwledydd Prydain a’r byd.

Roedd yn rhaid i Goed Cadw godi o leiaf £1.5 miliwn i sicrhau pryniant y goedwig a dechrau’r gwaith adfer. Mae’r gefnogaeth hon yn cynnwys cyfraniadau a grantiau o Tubney Charitable Trust, GrantScape, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, the Hickinbotham Charitable Trust, yr Oak Foundation a nifer o ymddiriedolaethau eraill.

Er mai Coed Gwent yw coedwig hynafol mwyaf Cymru (3), fe gafodd y rhan fwyaf o’r coed conwydd eu cwympo yn y ganrif ddiwethaf, gan fygwth y bywyd gwyllt prin a gysylltir â choetir hynafol. Bwriad Coed Cadw yn awr yw adfer Coed Gwent ac er bod hyn yn dasg enfawr, mae’r achlysur plannu hwn yn dangos fod yr elusen yn benderfynol o roi cyfle i’r gymuned leol gymryd rhan yn y prosiect.

Fel bron pob un o goedlannau Coed Cadw, mae Coed Gwent ar agor i cyhoedd ymweld â fe ar unrhyw adeg, ac am ddim. Mae Coed Cadw wedi sefydlu gwefan ddwyieithog arbennig ar gyfer y safle wrth: www.wentwoodforest.org.uk Mae hon yn cynnwys amrediad eang o wybodaeth am y safle a’r ymgyrch i’w ddiogelu, gan gynnwys cynlluniau Coed Cadw i’w adfer, ei hanes, sut i gyrraedd y lle a map.
(diwedd)

Fe all y cyfryngau gysylltu â:

Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 01766 832563 neu 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH

Neu Jon Winder, sy’n rheoli’r safle i Goed Cadw, ar 01600 719281 neu 07769 886 013

Neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr e-bost media@woodland-trust.org.uk neu ffôn 01476 581121

Nodiadau i olygyddion

1. Y grwpiau a gymerodd ran oedd: 1st Wyesham, 25th Air / Sea scouts, 12-Belvoir Scouts, 1st Caerleon, 1st Marshfield, 1st Bassaleg Cubs, 29th Cardiff, 1st Henllys Beavers, 16th Newport Scout Group, 1st Marshfield

Cymdeithas y Sgowtiaid

Am wybodaeth am ddigwyddiadau “Sgowtiaid dros Goed” ewch i www.treeforall.org.uk/scouts neu www.scouts.org.uk/2007

Mae yna gyfleoedd i bobl gefnogi’r Gymdeithas y Sgowtiaid trwy wirfoddoli. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan www.scouts.org.uk

Am ragor o wybodaeth am Gymdeithas y Sgowtiaid a dathliadau canmlwyddiant a fyddech cystal â chysylltu a Swyddfa’r Wasg y mudiad ar 07977 539 630 neu wrth wefan www.scouts.org.uk

Neu Mike Breakwell, Swyddog Prosiect Ardal Gwent ar 01291 689942 neu
areaoffice@gwentscouts.org.uk

Canmlwyddiant y Sgowtiaid

• Mae 2007 yn nodi canmlwyddiant y Sgowtiaid, ac fe fydd bron i 500,000 o bobl ifainc yn cymryd rhan yn y dathliadau ar hyd a lled y DU. Fe fydd digwyddiadau yn cymryd lle trwy’r flwyddyn ar y lefel lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Un o’r prif ddigwyddiadau fydd y Jamboree Sgowtiaid y Byd a gynhelir yn Essex ar y 1af o Awst, gyda 40,000 o Sgowtiaid yn cymryd rhan o dros 200 o wledydd.

• Ar draws y byd, mae’n debyg y bydd 2007 yr enghraifft fwyaf o gydweithrediad ieuenctid ac un o’r dathliadau bydol mwyaf ers y mileniwm. Fe fydd y Canmlwyddiant yn nodi oes newydd i’r Sgowtiaid, gan gynnig cyfle i bwyso a mesur sut y cafodd y mudiad ei sefydlu, beth y mae e wedi ei gyflawni, ond hefyd i ble y mae’n mynd.

Am Sgowtio

• Mae antur yn ganolog i Sgowtio. Mae Cymdeithas y Sgowtiaid yn credu’n angerddol fod angen helpu aelodau i gyflawni eu potensial corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac ysbrydol trwy weithio mewn timau a meddwl drostyn nhw eu hunain. Fe fydd blwyddyn y canmlwyddiant yn cynnig hyd yn oed mwy o cyfleoedd i aelodau wneud hyn, gan barhau i wynebu peryglon mewn awyrgylch diogel, a chael eu blas cyntaf o gyfrifoldeb.

• Mae’r Sgowtiaid yn y DU yn cynnig dros 200 o weithgareddau. Mae hyn yn bosibl oherwydd y 100,000 o oedolion sy’n gwirfoddolwyr i’r mudiad. Mae hyn wedi helpu i sicrhau mai’r Sgowtiaid yw mudiad ieuenctid cyd-addysgiadol mwyaf yn y wlad.

• Y Sgowtiaid yw mudiad ieuenctid cyd-addysgiadol mwyaf y DU.

• Mae oedolion sy’n gweithio o fewn y Sgowtiaid yn cyfrannu dros 364 o oriau o waith gwirfoddol i’w cymunedau lleol bob blwyddyn.

• Mae nifer y gwirfoddolwyr sy’n gweithio i’r Sgowtiaid yn fwy na gweithlu’r BBC (24,000) a McDonalds (67,000) gyda’i gilydd.

• Dros y byd mae gan y Sgowtiaid dros 28 miliwn o aelodau, yn wrywaidd ac yn fenywaidd

Coed Cadw (The Woodland Trust)

Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.

Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r Oesoedd Canol i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.