26 Gorffennaf 2006
'Fe ddylai pob plentyn gael y cyfle i blannu coed', medd y newyddiadurwraig deledu Sian Lloyd
…wrth iddi hi herio Awdurdodau Lleol a thirfeddianwyr preifat yng Nghymru i weithio gyda Choed Cadw (the Woodland Trust) i wneud i hyn ddigwydd
Fe ymddangosodd y newyddiadurwraig deledu Siân Lloyd yn lansiad Adroddiad Porthceri yn Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru, i herio Awdurdodau Lleol a thirfeddianwyr preifat yng Nghymru i weithio gyda Choed Cadw i roi’r cyfle i ragor o blant blannu coed. Mae’r Adroddiad yn esbonio sut mae Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, yn gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg i blannu 16,400 o goed gyda 2,500 o blant i greu 37 erw (15 ha) o goetir brodorol newydd ym Mharc Gwledig Porthceri ger y Barri, sydd yn perthyn i’r Cyngor.
Fe ddywedodd Siân Lloyd: “Fe ddylai pob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i blannu coed, a dwi eisiau herio Awdurdodau Lleol a thirfeddianwyr preifat yng Nghymru i gydweithio gyda Choed Cadw, fel y gwnaeth Cyngor Bro Morgannwg ym Mharc Gwledig Porthceri, i helpu sicrhau fod rhagor o blant y cael y cyfle yma.”
Mae Adroddiad Porthcerri yn amlinelli sut y mae Coed Cadw yn gweithio gydag ysgolion lleol i rhoi’r cyfle i blant blannu coed ym Mhorthceri dros naw wythnos plannu, gan ddarparu rhaglen ysbrydoledig sy’n cynnwys digwyddiadau strwythuredig o dua 1½ awr sy’n cynnwys dau weithgaredd coetir a’r sesiwn plannu coed.
Mae’n dangos sut y cafodd y prosiect ei ariannu’n hael gan ENFYS, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, RWE N-Power, Dow Corning Ltd a chyfraniadau cyhoeddus. Mae’n egluro sut y mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cefnogi’r prosiect o ran amser staff, ond nad oedd rhaid iddo roi cyfraniad ariannol uniongyrchol, sy’n golygu fod y model yma’n un deniadol ar gyfer Awdurdodau Lleol eraill a hyd yn oed tirfeddianwyr preifat.
Y prif siaradwr arall yn y lansiad oedd Jerry Langford, Cyfarwyddwr Gweithgareddau Coed Cadw ar gyfer Cymru.
Mae prosiect Porthceri yn rhan o Coed i Bawb, sef ymgyrch plannu coed uchelgeisiol Coed Cadw, sy’n anelu at blannu coeden ar gyfer pob un plentyn yn y DU dros gyfnod o bum mlynedd, sef 12 miliwn yn gyfangwbl, gan sicrhau fod miliwn o blant yn cymryd rhan uniongyrchol yn y gwaith. Y bwriad yw helpu cenhedlaeth newydd o bobl ifainc i ailgysylltu â byd natur ac i gael hwyl wrth wella eu hamgylchedd lleol nhw. Mae rhagor o wybodaeth am Coed i Bawb yng Nghymru ar gael o wefan www.coed-cadw.org.uk
(diwedd)
Fe all y cyfryngau gysylltu â:
Rory Francis, Swyddog Materion Cyhoeddus a’r Wasg ar gyfer Cymru, ar 07760 171174 roryfrancis@woodland-trust.org.uk Afallon, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3RH
neu Swyddfa’r Wasg Coed Cadw yn Lloegr ar 01476 581121, e-bost
media@woodland-trust.org.uk
Nodiadau i olygyddion
1. Gellir islwytho Adroddiad Porthceri trwy glicio ar yr eicon isod (pdf 2,550 KB)
Coed Cadw (The Woodland Trust)
Coed Cadw yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar warchod coedlannau. Mae ganddo 250,000 o aelodau. Mae gan y mudiad bedwar amcan sef: i) sicrhau na chollir rhagor o goedlannau hynafol, ii) adfer a gwella bioamrywiaeth coedlannau, iii) creu rhagor o goedlannau gyda choed brodorol a, iv) cynyddu ymwybyddiaeth pobl am goedlannau, a’u helpu i’w mwynhau.
Sefydlwyd Coed Cadw (neu’r Ymddiriedolaeth Coedlannau gynt) yn 1972. Erbyn hyn mae’n gofalu am dros 1,000 o safleoedd, gydag arwynebedd o 20,000 hectar (50,000 erw). Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gydag arwynebedd o 1,580 hectar (3,900 erw). Mae’r safleoedd hyn bron i gyd ar agor i’r cyhoedd. Gellir cael rhagor o newyddion ar wefan www.coed-cadw.org.uk Fe fabwysiadodd Coed Cadw ei enw Cymraeg newydd yn 2000. Hen derm Cymraeg yw “coed cadw” a ddefnyddiwyd yng nghyfreithiau’r canoloesoedd i gyfeirio at goedlannau a warchodwyd yn arbennig.