Plant (ac oedolion) Llandeilo yn cwrdd a her Coed i Bawb
Pobl leol, a’u cynrychiolwyr etholedig, yn gwneud eu gorau glas dros yr amgylchedd lleol, mewn digwyddiad plannu coed Dydd Sul y 21 Tachwedd, a hefyd mewn digwyddiadau arbennig i ysgolion a y Dydd Llun a’r Dydd Mawrth wedyn
Tachwedd 2004
Yn dilyn ymgyrch cymunedol llwyddiannus i ymestyn Coed Tregib, sef coedlan ar gyffiniau Llandeilo sydd yng ngofal Coed Cadw (the Woodland Trust), estynnir gwahoddiad i bobl leol i ddod i helpu plannu’r safle gyda choed brodorol mewn digwyddiad plannu cyhoeddus Dydd Sul y 23 Tachwedd, rhwng 11 o’r gloch y bore a 4 yn prynhawn. Fe fydd yna ddigwyddiadau plannu i ysgolion lleol ar y Dydd Llun a Mawrth wedyn.

Tachwedd 2004Sian Lloyd a Lembit Opik yn mynd ati i blannu coed yn Granllyn Pool
Tra bod y digwyddiad plannu coed mawr yn Granllyn Pool wedi cael ei ohirio, mae gwaith yn dechrau p’run bynnag i greu coetir brodorol newydd ar gyfer y gymuned leol yng nghanol Cegidfa
Yn dilyn ymgyrch brwdfrydig i ymestyn Granllyn Pool, sef coedlan gymunedol yng Nghegidfa ger y Trallwng, sydd yng ngofal coed Cadw (the Woodland Trust), mae gwaith yn dechrau rŵan i blannu estyniad 2 ha (5.1 acer) i’r safle gyda choed brodorol. Fe fydd y meteorolegydd a’r cymeriad teledu Siân Lloyd, a’i darpar ŵr ac Aelod Seneddol Maldwyn, Lembit Opik mynd ati i wneud y gwaith budr yma am 11 o’r gloch y bore Ddydd Sadwrn y 20 Tachwedd.

Hydref 2004Dathliadau yn Llandeilo wrth i Coed Cadw wthio'r cwch i'r dwr ynglyn a sialens Coed i Bawb
Ymgyrch gan y gymuned leol yn galluogi Coed Cadw (the Woodland Trust) i greu coedlan newydd ar gyffiniau Llandeilo
Fe ddechreuodd Coed i Bawb, sialens plannu coed newydd Coed Cadw (the Woodland Trust), yn arbennig o dda yng Nghymru, yr wythnos ddiwethaf pan lwyddodd yr elusen i brynu estyniad 12 hectar (32 erw) i goedlan hynafol bresennol Coed Tregib, ger Llandeilo.

Sian Lloyd
Peidiwch llusgo traed - dewch i gywryd rhan, a hynny gyda rhaw!
Sian Lloyd yn cefnogi ymgyrch newydd i blannu coeden ar gyfer pob plentyn yn y DU, ac yng Nghymru!
CHeddiw fe fydd Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, yn lansio’r ymgyrch plannu coed i blant mwyaf a welwyd erioed yn y wlad. Fe fydd yr ymgyrch, Coed i Bawb, yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ryfelwyr amgylcheddol trwy annog pobl ifainc i ailgysylltu â byd natur. Fe fydd Coed i Bawb yn rhoi cyfle i o leiaf miliwn o blant fynd i’r afael â byd natur a chael hwyl yn plannu coed. Gweledigaeth yr ymgyrch yw y dylai pob plentyn gael y cyfle i blannu coed. Fel rhan o’r ymgyrch, plannir 12 miliwn o goed brodorol dros gyfnod i bum mlynedd – sef un ar gyfer pob plentyn dros 16 oed.
